Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW10320
Teitl y Modiwl
RHYFEL STRATEGAETH A CHUDDWYBODAETH
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
Darlithoedd 21 Hours. (16 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x 2,500 o eiriau traethawd  40%
Arholiad Semester 2 Awr   [1x 2 awr arholiad]  60%

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y modiwl bydd y myfyrwyr wedi:

- Cael eu cyflwyno i'r materion a'r syniadau allweddol sy'n ymwneud a rol grym yng nghydberthynas gwledydd, gan gynnwys ei esblygiad, syniadaeth strategol fodern a nifer o faterion cyfoes ym maes strategaeth.
- Sicrhau cynefindra sylfaenol a'r cysyniadau a ddefnyddir mewn trafodaethau strategol cyfoes.
- Dod yn abl i gymhwyso'r cysyniadau hyn i ystod o faterion a phroblemau.
- Dod yn abl i wneud defnydd effeithiol o sgiliau: adnabod a lleoli ffynonellau addas; astudio'n annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad i astudio strategaeth, i esblygiad rhyfela ac i astudio cudd-wybodaeth. Mae'n canolbwyntio ar rol grym mewn cysylltiadau rhyngwladol, sut mae'n cael ei ddefnyddio a sut yr asesir posibiliadau ei ddefnyddio. Mae'n cynnwys pum elfen allweddol:

- defnyddioldeb grym yn yr oes fodern
- esblygiad rhyfel o Napoleon i'r Ail Ryfel Byd
- strategaeth yn yr oes niwclear
- rol cudd-wybodaeth
- materion cyfoes mewn strategaeth

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys pum adran gysylltiedig. Caiff pob adran ei chyflwyno gan un aelod o'r staff a rhyngddynt byddant yn darparu cyflwyniad trylwyr i'r pwnc. Mae pob adran yn cynnwys nifer o ddarlithoedd ac 1 neu 2 seminar. Bydd y modiwl yn dechrau drwy drafod y defnydd o rym yn yr oes fodern, gan gynnwys dadleuon ynglyn a'r defnydd o rym a darfodedigrwydd rhyfel. Yna bydd yn ystyried esblygiad rhyfela modern o gyfnod Napoleon hyd yr oes niwclear, gan gynnwys y chwyldro Napoleanaidd a tharddiad rhyfela modern, dyfodiad rhyfel ddiarbed ac effaith technoleg ar ryfel, a fydd yn dod a'r myfyrwyr i fyny hyd at ddyfodiad yr oes niwclear. Mae'r drydedd adran yn ymdrin a syniadaeth strategol yn yr oes niwclear, gan gynnwys damcaniaeth ataliaeth, strategaeth niwclear, rheoli arfau, rhyfela chwyldro-gerila a therfysgaeth. Yn bedwerydd rhoir ystyriaeth i rol cuddwybodaeth, cuddwybodaeth a'r wladwriaeth, a gwrthysbio. Yn olaf mae'r modiwl yn rhoi sylw i nifer o gwestiynau ym maes strategaeth, gan gynnwys ymyrraeth ddyngarol, lluosogiad niwclear a'r rhyfel yn erbyn terfysgiaeth.

Darlithoedd
1. Rhyfel, Strategaeth, Cudd-wybodaeth: Cyflwyniad
2. Rhyfel Ewropeaidd yn 'oes y lliaws' (rhan I): Levee en masse
3. Rhyfel Ewropeaidd yn 'oes y lliaws' (rhan II): Rhyfel Diarbed
4. Gwrthryfel, herwryfela a therfysgaeth
5. UDA a'r 'Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth'.
6. Cyflwyniad i Hanes ac Astudiaethau Ysbio a Chudd-wybodaeth
7. Twyll Strategol
8. Gweithredu Dirgel
9. Astudio Rhyfel
10. Rhyfel mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
11. Clausewitz a'i olynwyr (rhan I)
12. Clausewitz a'i olynwyr (rhan II)
13. Ataliaeth niwclear (rhan I)
14. Ataliaeth niwclear (rhan II)
15. RMA a Rhyfel Gwybodaeth
16. HIV/ AIDS: Iechyd a diogelwch byd-eang

Seminarau

Seminar Un: Rhyfel a grym
Seminar Dau: Grym Awyrennol
Seminar Tri: Arfau Niwclear
Seminar Pedwar: Terfysgaeth
Seminar Pump : Cudd-wybodaeth
Seminar Chwech: Ymyrraeth a Chadw'r Heddwch yn Ehangach
Seminar Saith: Arfau Dinistr Torfol
Seminar Wyth: Y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth

Nod

Cynnig cyflwyniad i chi o rol grym a chudd-wybodaeth mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a rhai o'r pryderon a'r dadleuon yn eu cylch.

Sgiliau trosglwyddadwy

Drwy gydol y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn ymarfer ac yn gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl yn ogystal a'u sgiliau cyflwyno ar lafar. Bydd paratoi ar gyfer traethodau a'u hysgrifennu yn annog myfyrwyr i ymarfer sgiliau ymchwilio annibynnol gan gynnwys adalw, dethol, cydosod a threfnu data, ysgrifennu, TG a rheolaeth amser


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4