Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GWM7930
Teitl y Modiwl
DELWEDDU CYNRU
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 10 seminar x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 draethawd 4,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 draethawd 4,000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Trafod a dadansoddi'r datblygiadau yn y cysyniad o 'hunaniaeth' Gymreig a'r 'genedl' Gymreig mewn llenyddiaeth Gymreig.
2. Disgrifio, dadansoddi a chymharu rhai o brif themau llenyddiaeth Gymreig ac Eingl-gymreig yn yr ugeinfed ganrif.
3 Arddangos, trwy waith ysgrifenedig a thrafodaethau seminar, y gallu i drafod a gwerthuso gwahanol agweddau tuag at hanes y wraig Gymreig gyfoes
4. Asesu'n feirniadol a gwerthuso prif faterion a themau diwylliant gweledol Cymru.
5. Adnabod delweddau o Gymru a'i phobl ar ffilm a gwerthuso goblygiadau'r delweddau hyn i'n dealltwriaeth o 'Gymru' a 'Chymreictod'.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ffurfio rhan allweddol o ddarpariaeth rhan amser yr adran ym maes dysgu Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Ar y cyd a'r modiwlau eraill, mae'n rhoi cyflwyniad i'r maes hwn ar lefel uwch ac yn cynnig i fyfyrwyr sydd a diddordeb wybodaeth arbenigol o ddelweddau diwylliannol o hunaniaeth Gymreig a'r genedl o'r ugeinfed ganrif ac yn arddangos y berthynas rhwng newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw archwilio'r datblygiadau yn nelweddu Cymru mewn amrywiaeth o ffurfiau diwylliannol. Mae'n trafod canfyddiadau o hunaniaeth Gymreig a'r 'genedl' mewn llenyddiaeth Gymreig gan gynnwys llenyddiaeth Gymraeg ei iaith a llenyddiaeth Eingl-gymreig, yn y celfyddydau gweledol, a'r delweddau o Gymru a'i phobl ar ffilm, o'r ugeinfed ganrif hyd heddiw.

Cynnwys

1. Gosod y cyd-destun cysyniadol
Llenyddiaeth yng Nghymru
2. 'Hunaniaeth' a 'chenedl' yn llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif yng Nghymru
3. 'Hunaniaeth' a 'chenedl' yn llenyddiaeth yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru
4. Gwragedd Cymreig yn ysgrifennu yng Nghymru
5. Hunaniaeth Gymreig amgen - llenyddiaeth Americanaidd Gymreig
6. Dwy iaith, un llenyddiaeth? Un wlad, dwy lenyddiaeth? Llenyddiaeth Gymraeg ac Eingl-gymreig.
Celf Weledol Gymreig
7. Delweddu'r genedl: adeiladu'r sylfeini ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg
8. Celf weledol a delweddu'r genedl yng Nghymru'r ugeinfed ganrif
Ffilm
9. Delweddu Cymru a'i phobl ar ffilm yn yr ugeinfed ganrif
10. Delweddu Cymru a'i phobl ar ffilm yn yr unfed ganrif ar hugain

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd rhaid i fyfyrwyr ddysgu cyflwyno'u syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno'u hunain yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir. Byddant yn dod i wybod sut i ddefnyddio'r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffordd orau o gyfathrebu i'w mantais. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu ac i fod yn uniongyrchol am nodau ac amcanion. Dysgant ystyried yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, ffocws a nodau eu dadleuon neu drafodaeth yn unig. Caiff y seminarau eu rhedeg i grwpiau bach lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau heb eu hasesu fydd prif gyfrwng y dysgu, a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad y myfyrwyr a chyfathrebu.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Disgwylir i'r modiwl hwn ddenu unigolion sydd eisoes mewn swyddi yn enwedig o fewn y sector gyhoeddus yng Nghymru. O ganlyniad, bydd y modiwl yn fodd i ddyfnhau arbenigedd am y berthynas rhwng materion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru a gall y modiwl fod yn gam i hybu gyrfa. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, paratoi fframwaith prosiect, hogi a datblygu'r prosiect a'i weld yn cael ei gwblhau yn cyfrannu tuag at y portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl; bydd cyflwyno dau draethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol agweddau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymol; cynllunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd seminarau'n cynnwys trafodaethau mewn grwp bach lle bydd yn rhaid i fyfyrwyr drafod materion sy'n berthnasol i bwnc y seminar. Mae trafodaethau a dadleuon fel hyn yn rhan hollbwysig o'r modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond gyda chymorth gan y cydlynydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad unigol trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a gweithredu ar eu syniadau eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, paratoi rhestr ddarllen a phenderfynu (gydag arweiniad) ar bwnc traethawd. Bydd y rheidrwydd i gyflwyno traethawd erbyn dyddiad cau yn gorfodi'r myfyrwyr i reoli amser ac adnoddau yn effeithiol.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadol a gwerthuso esiamplau a syniadau ar y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc penodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol i'r modiwl Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno dau draethawd yn dangos sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd y rheidrwydd i leoli adnoddau ymchwil priodol a nodi'r canlyniadau hefyd yn hyrwyddo sgiliau ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno'u gwaith wedi'i brosesu ar gyfrifiadur. Gan fod y cwrs yn un rhan amser, bydd rhaid i'r myfyrwyr chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar we, yn ogystal a defnyddio ffynonellau electronig megis BIDS ac OCLC. Yn ogystal, bydd llawer o gyfathrebu gyda'r myfyrwyr a rhwng myfyrwyr yn electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7