Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Portffolio Creadigol | 40% |
Semester Assessment | Prosiect Terfynol a thraethawd atblygol (3000 o eiriau) | 60% |
Supplementary Assessment | Portffolio Creadigol | 40% |
Supplementary Assessment | Prosiect Terfynol unigol a thraethawd atblygol (3000) | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dyfeisio a chynllunio prosiect cynhyrchu cyfryngol mewn cyd-destun annibynnol.
2. Ystyried eu gwaith creadigol o fewn cyd-destun beirniadol ac atblygol.
3. Arddangos meistrolaeth o sgiliau cynhyrchu penodol ynghyd a dealltwriaeth o'r berthynas rhyngddynt.
Aims
Amcan y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwr ddatblygu prosiectau cynhyrchu creadigol gan adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a'u cymhwyso i gyd-destun o weithio yn annibynnol. Gall myfyrwyr ganolbwyntio ar um neu fwy o agweddau ar gynnyrch cyfryngol e.e. sgript lawn, ffilm fer, prosiect amlgyfryngol neu amrywiad ar yr elfennau hynny. Bydd hunanwerthusiad a beirniadaeth atblygol yn gwreiddiol i'r modiwl hwn.
Brief description
Yn y modiwl hwn fe fydd myfyrwyr yn gweithio'n annibynnol i greu cynhyrchiad cyfryngol o'u dewis o blith y canlynol: sgript lawn (hyd at 45 munud o hyd), ffilm fer (tua 10 munud o hyd) neu brosiect amlgyfryngol. Dysgir y modiwl mewn gweithdai ble disgwylir i fyfyrwyr dafoli eu gwaith o fewn cyd-destun academaidd a chreadigol ehangach. Ceir sesiynau penodol gydag arbenigwyr o'r diwydiannau creadigol yn ogystal a staff yr Adran.
Content
Darlithoedd/Seminarau:
1. Dyfeisio a Chynllunio Prosiect Cynhyrchu Creadigol.
2. Lleoli Gwaith Cradigol o fewn Traddodiad Critigol ac Atblygol.
3. Cyflwyno a Datblygu Syniadau.
4. Cyflwyno Gwaith Portffolio ac Adolygu Syniadau
5. Cyflwyno Drafft Cyntaf Prosiect Terfynol.
Gweithdai Cynhyrchu (mewnol a gydag arbenigwyr allanol): hyd at 10 x 2 awr i gynnwys ystyriaethau megis:
Triniaeth, genre ac arddull, cynulleidfa, cydymffurfiaeth a materion cyfreithiol, deunydd archif, cydgyfeirirant a chynnyrch aml-blatfform, cyfarwyddo, sain, golygu ac olgynhyrchu.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Caiff sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol eu datblygu a'u hymestyn fel rhan allweddol o'r modiwl hwn. |
Improving own Learning and Performance | Mae'r broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain yn gyson. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modd o ddysgu yn y modiwl hwn. |
Information Technology | Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathrebu ar-lein. |
Personal Development and Career planning | Bydd gweithio'n annibynnol yn sgil a ddatblygir yn y modiwl hwn ac yn hynny o beth gwelir fod elfen o ddatblygiad personol yn rhan ohono. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr i ystyried o ddifrif eu cynlluniau gyrfaol yn enwedig wrth iddynt ymwneud ag aelodau o'r diwydiant yn eu dewis feysydd arbenigol. |
Problem solving | Datblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect cyfryngol. |
Research skills | Fe ddatblygir medrau ymchwil penodol wrth ddyfeisio ac ymchwilio i'r prosiect cynhyrchu annibynnol. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Gall prosiect terfynol y myfyrwyr fod yn waith unigol os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at feirniadaeth atblygol o waith ei gilydd hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o'r un prosiect terfynol. |
Notes
This module is at CQFW Level 6