Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG10110
Teitl y Modiwl
DATBLYGU A RHEOLI CYNEFINOEDD YM MHRYDAIN
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 2 x 1 awr darlith yn y wythnos
Eraill 2 x ymweliad x 5 awr
 
Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Gwaith cwrs  Adroddiad ar ymweliadau maes.   50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad (Ateb byr)  50%
Asesiad Ailsefyll Arholidad 1.5 awr (50%); Gwaith cwrs 50%  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Amlinellu eu dosbarthiad mewn ystod o systemau priodol;

2. Disgrifio'r ffactorau naturiol sy'n dylanwadu ar eu datblygiad;

3. Egluro rôl dyn yn eu datblygiad hanesyddol;

4. Disgrifio'r rheolaeth a'r defnydd cyfredol ohonynt a phynciau sy'n codi o ganlyniad;

5. Adnabod eu gwerth, eu statws a'u potensial o ran cadwraeth.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhyngberthynas rhwng ffactorau naturiol a gweithrediadau gan ddyn sy'n arwain at ddatblygu'r prif grwpiau o gynefinoedd daearol a geir ym Mhrydain: coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd âr. Ystyrir y defnydd o'r cynefinoedd hyn at ddibenion masnachol amrywiol ochr yn ochr gwerth i fywyd gwyllt a'r tirwedd. Bydd y modiwl yn ystyried i ba raddau y gall gwahanol fathau o gynefin wasanaethu fel elfennau allweddol o dirwedd amlswyddogaethol; y pwysau ar y cynefinoedd hyn gan gystadleuwyr; a'r gorchmynion, y polisau a'r cynlluniau sydd mewn lle er mwyn dylanwadu ar reolaeth y cynefinoedd hyn.

Cynnwys

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Adroddiadau i'w hysgrifennu mewn arddull ysgrifennu gwyddonol briodol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Sgiliau maes.
Gwaith Tim Bydd casglu data yn cael ei wneud mewn tîmoedd bychain.
Rhifedd Gwneir peth dadansoddi cyfyngedig o ddata fel elfen o adroddiad a asesir.
Sgiliau pwnc penodol Adnabod planhigion yn y maes.
Sgiliau ymchwil Gall ymweliadau maes gynnwys peth casglu data.
Technoleg Gwybodaeth Cyflwynir data ar ffurf graffiau gan ddefnyddio Excel mewn adroddiadau a asesir.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4