Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 11 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 11 awr. Seminarau. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Seminar: | 10% |
Asesiad Semester | Traethodau: 2,000 o eiriau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Ar o^ll dilyn y modiwl hwn:
1. Byddwch yn gyfarwydd a^'r termau a ddefnyddir gan ieithyddion i drafod iaith, ac a^'r symbolau rhyngwladol a ddefnyddir i nodi seiniau ar bapur.
2. Byddwch yn ymwybodol o fras gategoriau y dosberthir ieithoedd y byd iddynt, a lle a natur gymharol y Gymraeg a'i tharddiad yn eu plith.
3. Byddwch yn gyfarwydd a^ rhai o'r prif ddamcaniaethau am darddiad iaith ddynol a'i pherthynas a^ natur y ddynoliaeth a bywyd ar y ddaear.
4. Byddwch yn gallu trafod pa bryd y mae dwy dafodiaith wahanol yn troi'n ddwy iaith wahanol, a pha bryd mae tafodiaith yn troi'n fratiaith, neu yn wir ai un dafodiaith arbennig yw iaith safonol?
5. Byddwch yn gwybod am batrymau cymdeithasegol cyffredin a ddigwydd o ddefnyddio dwy iaith mewn gwledydd lle ceir dwyieithrwydd, yn ogystal a^ phatrymau gwahanol a all ddigwydd rhwng carfanau gwahanol megis y ddau ryw, neu bobl yn perthyn i genhedlaeth wahanol.
6. Byddwch yn ymwybodol o gydberthynas gwleidyddiaeth a'r defnydd a wneir o iaith, yn arbennig yn y gwledydd Celtaidd.
Disgrifiad cryno
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6