Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY35800
Teitl y Modiwl
BRO A BYWYD: DEHONGLI TREFTADAETH LENYDDOL Y CYMRY
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 5 gweithdy ymarferol x 2 awr Semester Dau
Darlithoedd 9 darlith Semester 2
Eraill 3 taith maes (3 x 2.5 awr)
Eraill ymgynghori unigol ar gyfer y proseict (3 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Bydd gofyn i fyfyrwyr syn methur modiwl gyflenwi unrhyw elfennau asesedig sydd yn eisiau, ac/neu ailgyflwyno unrhyw aseiniadau gwaith cwrs a fethwyd (gan ysgrifennu ar bwnc newydd), a/neu sefyll y papur arholiad atodol. Os methwyd elfen 2, bydd gofyn am gyflwyniad ysgrifenedig. 
Asesiad Semester Prosiect  70%
Asesiad Semester Adroddiad byr yn Semester Un yn trafod y teithiau maes.  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad grwp 20 munud yn Semester Dau  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Meddu ar adnabyddiaeth briodol o froydd Cymru a'u cysylltiadau llenyddol.

Dangos ystod o sgiliau ymchwilio a'r gallu i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol.

Dangos dealltwriaeth o gydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol wrth gynllunio sut i hybu ymwneud y cyhoedd ag etifeddiaeth ddiwylliannol y Cymry.

Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth gynllunio a chynhyrchu deunyddiau o'u dewis eu hunain, ac wrth gyflwyno dehongliad i gynulleidfa fyw.

Nod

Datblygir sgiliau beirniadol wrth ddysgu sut i ddehongli a throsglwyddo gwybodaeth am le^n a llenorion Cymru i eraill, a gwneud hynny o fewn fframwaith theoretig sy'n holi am natur 'etifeddiaeth' a 'threftadaeth'. Datblygir medrau cyfathrebu mewn nifer o gyfryngau, a sgiliau ysgrifennu a golygu i safon uchel. Datblygir sgiliau ymchwil a medrau cynllunio a marchnata mewn meysydd diwylliannol.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn sy'n dysgu myfyrwyr am y gwahanol ffyrdd o ddehongli etifeddiaeth lenyddol y Cymry ac elfennau eraill o'r diwylliant ehangach, a'u hyfforddi i gyfuno gwybodaeth, creadigrwydd a dyfeisgarwch i hybu diddordeb y cyhoedd.

Cynnwys

Dysgir ar draws Semester Un a Dau.
Yn Semester Un ceir 9 darlith yn cwmpasu'r elfennau hyn:
1. Cysyniadau (5 darlith): etifeddiaeth, treftadaeth; dyletswydd yr Academi i'r cyhoedd; hybu gweithgareddau llenyddol; adloniant v. addysg; swyddogaeth y cyfryngau a'r sefydliadau; amgueddfeydd, orielau; archifau ffilm a llun; llyfrgelloedd; CADW; Comisiwn Henebion; fframwaith y gyfraith; polisi cyhoeddus; asiantaethau; twristiaeth fewnol a thwristiaeth ddiwylliannol.
2. Hunaniaeth broydd Cymru (4 darlith): astudiaethau ar bedair bro (dwy yn y Gogledd, a dwy yn y De), yn cynnig ac yn trafod esiamplau o dechnegau y gellid eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth, ac i danio diddordeb yn lle^n a llenorion yr ardaloedd hynny.
3. Hefyd yn Semester Un bydd tair taith maes leol (3): i Amgueddfa Ceredigion; i Eglwys Llanbadarn; ac i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Yn Semester Dau, bydd y myfyrwyr yn gweithio dan hyfforddiant (3 awr o ymgynghori unigol) ar brosiect sylweddol a fydd yn esgor ar ddarn gorffenedig o waith addas i'w gyhoeddi (e.e. llyfryn, teithlyfr manwl; testun ar gyfer podcast neu raglen radio; deunydd ar gyfer gwefan).
Hefyd cynhelir cyfres o weithdai (5 awr) y bydd gofyn i'r myfyrwyr gyfrannu cyflwyniadau iddynt.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Ar bapur ac ar lafar a hefyd drwy orfod cynllunio deunydd amlgyfrwng ar gyfer y cyhoedd (prosiect, cyflwyniad).
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Drwy ddysgu am faes sydd o'r pwys mwyaf i economi'r wlad; datblygu'r gallu i chwilio am gydweithrediad gan bobl eraill (e.e. mewn sefydliadau), i ddeall gofynion y gynulleidfa, ac i weithio'n hyderus ac i safon uchel o fewn cyfnod penodedig o amser.
Datrys Problemau Drwy ddethol deunydd a'i ddehongli'n effeithiol gan ddatblygu strategaethau priodol at y dasg
Gwaith Tim Elfennau o waith tîm yn cael eu cynnwys yn y gweithdai
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy gael adborth gan y darlithwyr, a thrwy drafod gwaith cyflwyno eraill mewn sefyllfa gweithdy.
Rhifedd Mân elfennau achlysurol gydag ystadegau etc.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Drwy orfod cyrchu amrywiaeth helaeth o ffynonellau ac ymgynefino ag ystod o ddeunyddiau mewn sawl cyfrwng.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we, rhaglen PowerPoint, offer digidol, technolegau mapio a dylunio yn ogystal â geirbrosesu

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6