Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA10810
Teitl y Modiwl
AMGYLCHEDD CYMRU
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 2 Hours. Dau seminar cynhaliol/sesiwn cymhorthfa
Eraill 20 Hours. Deg darlith ddyawr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Mae aisefyll yn golygu ailgyflwyno elfennau penodol a fethwyd.  100%
Asesiad Semester Llyfr gwaith syn cynnwys 20 tasg fer (gosodir un ym mhob darlith).  75%
Asesiad Semester Traethawd 1500 o eiriau gan ymchwilio i thema un or darlithiau yn fwy manwl. Rhoddir dewis o gwestiynau i fyfyrwyr iddynt eu trafod yn y traethawd. Er mair myfyrwyr fydd yn gosod cyflymder y gwaith, gosodir dyddiadau cau terfynol i bob elfen. Bydd polisi safonol y Sefydliad Daearyddiaeth a wyddorau Daear mewn grym. Rhaid cwblau ddwy elfen yr asesiad er mwyn cael marc pasio yn seiliedig ar y perfformiad cyfansawdd.  25%

Canlyniadau Dysgu

Mae'r modiwl yn cyflwyno i fyfyrwyr amryw agweddau ar amgylchedd Cymru yn y cyd-destun ffisegl a dynol, ac yn eu hannog i ystyried a deall yr ymwneud a geir lle y mae'r byd dynol a'r byd ffisegol yn cysylltau a'i gilydd. Gan adeiladu ar hyn bydd yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r newidiadau yn y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yng Nghymru dros amser, a'u gwerthfawrogiad o'r cyswllt rhwng amgylchedd Cymru a'r prosesu sy'n digwydd ar raddfeydd daearyddol eraill. Dysgir y modiwl gan ddefnyddio darlithiau a recordiwyd yn ddigidol y bydd myfyrwyr yn eu clywed yn eu hamser eu hunain. Yn ogystal bydd myfyrwyr yn mynychu nifer o seminarau cynhaliol/sesiynau cymhorthfa.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno i fyfyrwyr amryw agweddau ar amgylchedd Cymru yn y cyd-destun ffisegol a dynol, ac yn eu hannog i ystyried a deall yr ymwneud a geir lle y mae'r byd dynol a'r byd ffisegol yn cysylltu a'i gilydd. Gan adeiladau ar hyn bydd yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r newidiadau yn y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yng Nghymru dros amser, a'u gwerthfawrogiad o'r cyswllt rhwng amgylchedd Cymru a'r prosesu sy'n digwydd ar raddfeydd daearyddol eraill. Dysgir y modiwl gan ddefnyddio darlithiau a recordiwyd yn ddigidol y bydd myfyrwyr yn eu clywed yn eu hamser eu hunain. Yn ogystal bydd myfyrwyr yn mynychu nifer o seminarau cynhaliol/sesiynau cymhorthfa.

Mae'r modiwl yn trafod y themau penodol isod:

Esblygiad a ffurf amgylchedd Cymru
  1. Daeareg a geomorffoleg Cymru (Dyfed Elis-Gruffydd)
  2. Cymru yn y cyfnod Cwaternaidd (Aled Rowlands)
Pobl ac amgylchedd yng Nghymru
  1. Poblogi Cymru (Dai Rogers)
  2. Cysylltiadau'r amgylchedd dynol: ichyd yr amgylchedd yng Nghymru (Aled Rowlands)
Economeg ac amgylchedd Cymru
  1. Natur ac economi Cymru (Rhys Jones)
  2. Datblygiad cynaladwy yng Nghymru (Rhys Jones)
Gwarchod amgylchedd Cymru
  1. Tirweddau Gwarchod yng Nghymru (Dyfed Elis-Gruffydd)
  2. Gwleidyddiaeth amgylcheddol ffermydd gwynt yng Nghymru (Dai Rogers)
Dychmygu amgylchedd Cymru
  1. Dychmygu'r Gymru ddiwydiannol (Pyrs Gruffudd)
  2. Dychmygu'r Gymru wledig (Pyrs Gruffudd)













Nod

Amcanion y modiwl hwn yw: (1) cyflwyno daearyddiaeth ffisegol a dynol Cymru i fyfyrwyr; (2) annog myfyrwyr i ddeall yr ymwneud a geir rhwng prosesau ffisegol a dynol yng Nghymru; (3) gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r newidiadau a geir yn y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yng Nghymru dros amser; (4) hybu dealltwriaeth myfyrwyr o'r cyswllt sydd rhwng amgylchedd Cymru a phrosesau sy'n digwydd ar raddfeydd daearyddol eraill; (5) datblygu sgiliau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg mewn TG a thrin gwybodaeth.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Easterbrook, D.J. (1993) Surface Processes and Landforms Macmillan Chwilio Primo Young, S. (1993) The Politics of the Environment Baseline Books Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4