Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF34500
Teitl y Modiwl
CYFRAITH GYHOEDDUS
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
LA16220, LA36220, GF16220, LA30310, GF30310, LA30420, LA34530
Rhagofynion
LA15710 neu GF14230 neu LA14230 neu LA34230 neu GF14720 neu LA14720 neu GF34720 neu LA34720
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr
Seminarau / Tiwtorialau 8 x seminar un awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 3 Awr   Arholiad  Ni chaiff ymgeiswyr ddod â llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i’r arholiad.  100%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Arholiad  Ni chaiff ymgeiswyr ddod â llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i’r arholiad.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro sut y mae trefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a medru trafod cynigion ar gyfer diwygio;
2. Dadansoddi'r drefn bresennol a gwerthuso'r cryfderau a'r gwendidau;
3. Trafod deunyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddiadol;
4. Adnabod problemau yn y drefn gyfansoddiadol a defnyddio eu gwybodaeth ar gyfer awgrymu atebion posibl (er enghraifft, gan gyfeirio at ddeunyddiau cymharol);
5. Addasu egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd o ffaith er mwyn awgrymu atebion posibl i achosion;
6. Adnabod a gwerthfawrogi'r goblygiadau i gyfraith gyfansoddiadol ddatblygiadau cyffredinol cyfraith a gwleidyddiaeth, a dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaidd / ryngwladol yn ogystal â'r rhyngweithio rhwng elfennau canolog a datganoledig y cyfansoddiad.
7. Dangos gwybodaeth o reoliad gweithgareddau gweinyddol ym Mhrydain a medru dadansoddi deddfwriaeth ac achosion allweddol.
8. Dangos dealltwriaeth o ffactorau cyd-destunol, megis y ddeinameg wleidyddol sy'n ffurfio rôl a phwerau cyfreithiol y pwyllgor gwaith.
9. Dangos dealltwriaeth o'r proses adolygu barnwrol a'i ganlyniadau.

Cynnwys

1. Cyflwyniad cyffredinol i gyfraith gyfansoddiadol: cyfansoddiadau yn gyffredinol; gwahanol fathau o gyfansoddiad; statws cyfraith gyfansoddiadol mewn perthynas â chyfreithiau eraill y wlad; darllen ac ysgrifennu cyfansoddiadau.
2. Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain: ffynonellau cyfreithiol cyfansoddiad y DU - prif ddeddfwriaethau a deddfwriaeth eilaidd; pwerau uchelfreiniol, cyfraith gwlad; lle cyfraith yr UE a chyfraith ryngwladol yn system y DU. Ffynonellau anghyfreithiol y cyfansoddiad - confensiynau cyfansoddiadol, ffurfio, adnabod a chodeiddio posibl.
3. Athrawiaeth Sofraniaeth Seneddol - ystyr ac arwyddocâd athrawiaeth glasurol Sofraniaeth Seneddol; Sofraniaeth Seneddol yng nghyd-destun Cyfansoddiad cyfoes y DU a'i ddatblygiad, yn cynnwys ystyried effaith ymaelodi â'r UE ar yr athrawiaeth o Sofraniaeth Seneddol.
4. Rheol y gyfraith - arwyddocâd ac ystyr Rheol y Gyfraith; Rheol y Gyfraith yng Nghyfansoddiad cyfoes y DU a'i ddatblygiad.
5. Gwahaniad pwerau - ystyr ac arwyddocâd yr egwyddor o wahanu pwerau; gwahanu pwerau a'i rôl yng Nghyfansoddiad y DU.
6. Strwythur tiriogaethol y Deyrnas Unedig a datganoli - cyflwyniad i ffurfiant y DU; deddfau perthnasol a therminoleg gyfreithiol; pynciau cyffredinol ynghylch rhannu pwer yn wledydd; datganoli yn y DU - sefydliadau a phwerau; nodweddion ffederal ac unedol gwladwriaethau.
7. Sefydliadau a phrosesau deddfu - sefydliadau deddfu; pwerau a phrosesau deddfu; craffu ar y broses ddeddfu.
8. Pwerau gweithredol ac atebolrwydd - Sefydliadau gweithredol; Pwer uchelfreiniol a galluoedd neilltuedig; systemau ar gyfer sicrhau atebolrwydd am weithredu gweithredol.
9. Amddiffyn hawliau dynol yn y Deyrnas Unedig - pynciau cyffredinol yn ymwneud ag amddiffyn hawliau mewn cyfansoddiadau - cynnwys a statws hawliau, amddiffyniadau hawliau dynol; y drefn yn y DU cyn Deddf Hawliau Dynol 1998; cynnwys a statws Deddf Hawliau Dynol 1998; dadlau parhaus ynghylch newid.
10. Natur a phwrpas cyfraith weinyddol - adnabod swyddogaethau amrywiol cyfraith weinyddol.
11. Y wladwriaeth weinyddol fodern - gyrru'r ffiniau yn ôl a thwf Rheolaeth Newydd y Cyhoedd - moderneiddio'r Wladwriaeth Les; preifateiddio - creu asiantaethau, gosod gwaith ar gytundeb.
12. Cyflwyniad i adolygu barnwrol - sail gyfreithiol y drefn adolygu barnwrol; pa ddeddfau y gellir eu herio - pwy all wneud cais am hawliad a phryd y gellir eithrio adolygu barnwrol; unioni
13. Mecanweithiau cwyno nad ydynt yn farnwrol - system yr Ombwdsmon - cyflwyniad i system ombwdsmon y sector cyhoeddus.
14. Rôl llywodraeth leol - beth yw llywodraeth leol a beth mae'n ei wneud?; y newid o 'ddarparwr' gwasanaethau i 'hwylusydd'.

Disgrifiad cryno

Yn gonfensiynol, rhennir cyfraith gyhoeddus yn gyfraith gyfansoddiadol a chyfraith weinyddol. Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol am nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Themâu pwysig y cwrs yw a yw hynny yn cael effaith yn ymarferol a'r ffordd y mae'r Cyfansoddiad wedi addasu i amgylchiadau sy'n newid. Mae'r hyn y mae yn ei olygu, pam ei fod felly ac a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol ymhlith y cwestiynau y byddwn yn edrych arnynt yn y cwrs hwn sy'n ceisio cyflwyno myfyrwyr i astudio cyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol ac i athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn arbennig. Mae cyfraith weinyddol yn ymwneud ag arfer grym y wlad, ac effaith gweithgareddau'r llywodraeth ar y dinesydd yn cynnwys addysg, rhedeg ein carchardai, cynllunio, trafnidiaeth, system budd-daliadau lles a llawer mwy.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Paratoi, a thrafod, mewn seminarau. (Asesu? Ie (ysgrifenedig yn unig))
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu drwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym myd y gyfraith
Datrys Problemau Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau
Gwaith Tim Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn benodol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion
Sgiliau ymchwil Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau
Technoleg Gwybodaeth Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6