Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW36420
Teitl y Modiwl
YR AIL RYFEL BYD YN EWROP
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 x darlith 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 5 x seminar 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2500 gair  40%
Arholiad Semester 2 Awr   1 x arholiad terfynol 2 awr  60%
Arholiad Ailsefyll Os bydd y Gyfadran yn rhoi cymeradwyaeth, caiff myfyrwyr ailsefyll y modiwl hwn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gweinyddwr Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Amlinellu hanfodion strategaethau milwrol y gwahanol wledydd a pherthynas y strategaethau hyn i amcanion gwleidyddol y gwladwriaethau oedd yn rhyfela
2. Trafod nodweddion y rhyfel yn Ewrop rhwng 1939 a 1945
3. Trafod yr ymdriniaethau dadansoddol cyffredinol o hanes milwrol yr Ail Ryfel Byd
4. Trafod natur cwrs milwrol yr Ail Ryfel Byd a'i effaith ar y system ryngwladol
5. Trafod dylanwad technoleg ar yr Ail Ryfel Byd
6. Trafod defnyddioldeb a chywirdeb y term 'Rhyfel Cyflawn' fel fframwaith ddadansoddol
7. Asesu'r berthynas rhwng rhyfel ar dir ac yn yr awyr a phwer morol yn ystod yr Ail Ryfel Byd
8. Arddangos dealltwriaeth o effaith yr Ail Ryfel Byd ar y poblogaethau sifil
9. Asesu rol a phwysigrwydd arweinyddiaeth filwrol a wleidyddol yn yr Ail Ryfel Byd
10. Cymharu a gwrthgyferbynnu rhagolygon meddylwyr milwrol rhwng y ddau ryfel (e.e. Douhet, Liddell Hart) gyda'r hyn ddigwyddodd mewn gwirionedd wedi 1939
11. Asesu gwersi milwrol yr Ail Ryfel Byd
12. Trafod arwyddocad yr Ail Ryfel Byd erbyn heddiw

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio yn fanwl hanes milwrol y rhyfel mwyaf yn hanes y byd.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr hanes milwrol i wneud archwiliad trylwyr o gwrs yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Bydd hefyd yn cyflwyno myfyrwyr ar gynlluniau gradd eraill nid yn unig i hanes y cyfnod ond hefyd i esblygiad rhyfel yn yr ugeinfed ganrif gyda'r holl effeithiau ddaeth yn ei sgil ar y gymdeithas fyd-eang. Bydd y maes llafur hefyd yn rhoi'r wybodaeth i fyfyrwyr i'w galluogi i ddilyn modiwlau Rhan Dau sydd yn edrych ar esblygiad cymdeithas ryngwladol o drefniant 'Pwerau Mawrion' aml-begwn i system ddau begwn Arch-bwerau'r Rhyfel Oer.

Cynnwys

1. Cyflwyniad: esblygiad peiriannau rhyfel Ewrop, 1900-1939
2. Dinistrio Gwlad Pwyl
3. Rhyfel y Gaeaf / Y Rhyfel Ffug / Norwy a Denmarc
4. Ymosodiad yr Almaen yn y Gorllewin, Mai 1940
5. Methiant yr Almaen i orchfygu Prydain
6. Y rhyfel yn ymestyn: Gogledd Affrica a'r Balcanau, 1940-41
7. Terfynau Blitzkrieg? O Barbarossa i byrth Moscow
8. Gogledd yr Affrig, 1941-43
9. Y crochan: Stalingrad
10. Y Frwydr Fawr: Kursk
11. Brwydr yr Iwerydd
12. Y rhyfel awyr dros Ewrop
13. Yr Almaen a'r Ewrop o dan ei rheolaeth, 1939-44
14. Yr Eidal, 1943-45
15. Rwsia yn ystod y rhyfel, 1941-45
16. Hyd at ffiniau'r Reich: y Fyddin Goch a distryw byddin yr Almaen, 1943-45
17. O D-Day hyd at groesi'r Rhine, Mawrth 1945
18. Y Ddiweddgan: concro Berlin a diwedd yr Almaen Natsiaidd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar a'u cyfleu mewn ffordd glir strwythuredig yn ysgrifenedig. Byddant hefyd yn dysgu sut i fynegi eu hunain yn y ffordd orau bosib. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a gwaith tîm fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at seminarau hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau mewn seminarau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Gwaith Tim Ni fydd gwaith tim yn elfen ganolog o'r modiwl hwn. Ond disgwylir i fyfyrwyr ddysgu rhyngweithio a chyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun grwp yn y seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn dysgu'r sgiliau sylfaenol ar gyfer defnyddio methodoleg hanesyddol yng nghyd-destun hanes milwrol. Yn bennaf, bydd hyn yn golygu datblygu'r gallu i ddefnyddio tystiolaeth mewn ffordd soffistigedig i gyflwyno dadl. Bydd disgwyl iddynt hefyd ddarparu cyfeiriadau llawn a chywir i'w ffynhonnell. Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr ymgyfarwyddo gydag esblygiad strategaeth a thactegau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr I chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chanfod adnoddau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig (fel Web of Science a OCLC). Bydd disgwyl hefyd I fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6