Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW39420
Teitl y Modiwl
ETHOLIADAU YNG NGHYMRU A'R DEYRNAS GYFUNOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 14 Hours. (14 x 1 awr)
Sesiwn Ymarferol
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Semester Prosiect grwp  25%
Asesiad Semester Traethawd: 2,000 o eiriau  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl fe fydd myfyrwyr yn gallu:

i) dadansoddi'n feirniadol y prif esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol.
ii) dadansoddi'n feirniadol hanes etholiadau yng Nghymru a thu hwnt.
iii) defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i ddadansoddi canlyniadau arolwg barn.

Disgrifiad cryno

Fe gyflwynir myfyrwyr i'r prif ddamcaniaethau am ddulliau pleidleisio ac fe ystyrir eu heffeithiolrwydd yn y cyd-destun Cymreig.

Cynnwys

Fe fydd y modiwl hon yn trafod y gwahanol esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol. Bydd hefyd yn ystyried datblygiad hanesyddol etholiadau yng Nghymru a Phrydain. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil meintiol er mwyn asesu agweddau o ymddygiad pobl wrth bleidleisio.

Nod

Mae amcanion y modiwl yn cynnwys:-

- Rhoddi dealltwriaeth glir o wahanol esboniadau o batrymau pleidleisio yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol.
- Rhoddi cyflwyniad i hanes etholiadau yng Nghymru a Phrydain.
- I gyflwyno myfyrwyr i waith holiadur a dadansoddiad data meintiol.
- I ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tim trwy waith prosiect.

Sgiliau trosglwyddadwy

Fe fydd myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy yn y modiwl hon. Yn ogystal a sgiliau cyfathrebu, dadansoddi ac ymchwilio a ddatblygir mewn modiwlau 'traddodiadol' fe gyflwynir myfyrwyr i sgiliau meiniol a sgiliau ysgrifennu o fath gwahanol. Yn benodol fe fydd cynllunio, cynnal a dadansoddi'r arolwg barn yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tim, rheoli prosiectau, ymchwil meintiol ac ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ddata cynradd.

10 credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Dylid Ei Brynu
Denver, D (2006) Elections and Voters in Britain (second edition) Prif llyfr y modiwl Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6