Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TR12220
Module Title
CYFRAITH TROSEDDAU AR GYFER TROSEDDEGWYR
Academic Year
2012/2013
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Mutually Exclusive
LA15930; LA35930; GF15930; LA38015; CR12220
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture
Lecture 20 darlith awr o hyd. 14 awr yn Gymraeg; 6 awr yn Saesneg
Seminars / Tutorials 6 seminar awr o hyd
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  dwy awr o hyd a welwyd ymlaen llaw. Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad.  100%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  dwy awr o hyd a welwyd ymlaen llaw. Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad.  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Gwerthuso a dadansoddi'n feirniadol rhychwant a phwrpas cyfraith troseddau, gan gyfeirio at ddatblygiad hanesyddol, problemau cyfredol, theori droseddegol a phosibiliadau diwygio;
2. Nodi ac egluro egwyddorion sylfaenol cyfraith troseddau a dadansoddi'n feirniadol eu perthnasedd a'r modd y'u defnyddir;
3. Nodi a dadansoddi'r elfennau sy'n ffurfio sail atebolrwydd troseddol, sef yr elfen ymddygiadol a'r elfen feddyliol;
4. Nodi ac egluro elfennau cyfansoddol perthnasol rhai troseddau ac amddiffyniadau o bwys, a'r gallu i'w cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol syml i ddatrys problemau;
5. Ystyried sut y mae cyfraith troseddau sylfaenol yn cyfrannu at theori droseddegol ac i'r gwrthwyneb;
6. Llunio dadleuon argyhoeddiadol a grymus ar sail y cyfreithiau a'r theorïau troseddegol perthnasol.

Brief description

Bydd Cyfraith Troseddau ar gyfer Troseddegwyr yn cyflwyno egwyddorion sylfaenol cyfraith troseddau i fyfyrwyr troseddeg y flwyddyn gyntaf, yng nghyd-destun sylfaen ddamcaniaethol eang troseddeg. Mae astudio'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i'r gyfraith troseddau yn rhan bwysig o addysg droseddegol.

Bydd y cwrs yn nodi'r egwyddorion cyffredinol a rhai o'r prif amddiffyniadau ac yna'n astudio'r troseddau difrifol penodol pwysicaf i alluogi myfyrwyr i weld sut y'u cymhwysir. Gosodir y pwyslais ar yr egwyddorion sylfaenol. A ellir cael atebolrwydd troseddol heb brawf o fai neu fwriad troseddol? A fernir bod person yn "bwriadu" canlyniad os gwyddai ei fod yn sgil effaith anochel ei ymddygiad bwriadedig? A all anwybodaeth o'r gyfraith gyfrif fel amddiffyniad? Beth petai person yn bwriadu cyflawni trosedd benodol, ond yn rhoi'r gorau i'r syniad cyn ei gyflawni? Bydd hyn yn gyfle i fyfyrwyr ystyried rhai materion yn ymwneud â dehongliad statudol, a bydd gofyn iddynt astudio elfennau o gyfraith achosion.

Bydd gofyn i'r myfyrwyr gwestiynu a beirniadu'r gyfraith, yn ogystal â cheisio ei ddeall. Yna, ystyrir y wybodaeth gyfreithiol hon yn ei chyd-destun troseddegol fel bo myfyrwyr yn cael dealltwriaeth ddyfnach ynglŷn â sut mae'r ddau yn rhyngwynebu ac yn cyfuno neu'n gwrthdaro.


Content

  • Cymdeithaseg a chyfraith troseddau - diffiniadau
  • Trosedd Gwyredd Semeoleg
  • Dadansoddi Ymddygiad Troseddol
  • Gweithred droseddol (Actus Reus)
  • Gwirfoddolrwydd ac Awtomatiaeth
  • Atebolrwydd am anweithiau
  • Achosiaeth
  • Drwgamcan (Mens rea) a Bwriad
  • Byrbwylltra
  • Atebolrwydd Caeth
  • Cyflwyniad i Lofruddiaeth
  • Dynladdiad Ffurfiannol
  • Dynladdiad trwy Esgeuluster Garw
  • Colli Rheolaeth
  • Cyfrifoldeb Lleihaëdig
  • Troseddau Rhywiol I
  • Troseddau Rhywiol II
  • Rhyngwyneb y Gyfraith a Throseddeg
  • Cymdeithaseg a Chyfraith Troseddau - cwestiynu cyfiawnder
  • Seicoleg - rhyngwyneb gydag ewyllys rydd

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number
Communication Annog a meithrin sgiliau cyfathrebu llafar mewn seminarau a darlithoedd drwy ddysgu rhyngweithiol. Ymarfer sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy gymryd nodiadau mewn darlithoedd ac wrth astudio'n breifat, a thrwy gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn ffurfiol mewn aseiniadau ac arholiadau.
Improving own Learning and Performance Annog myfyrwyr i ymarfer a phrofi eu gallu a'r hyn y maent yn ei ddysgu i ddefnyddio a rhyngweithio â'r deunyddiau drwy ddysgu rhyngweithiol mewn darlithoedd ac mewn seminarau. Byddant hefyd yn cael cefnogaeth i ddysgu sut a phryd i ddefnyddio technegau dadansoddi beirniadol a chyd-destunol.
Information Technology Er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a'r arholiad bydd angen i'r myfyrwyr ddefnyddio cronfeydd data'r llyfrgell a chronfeydd data eraill. Cyfeirir myfyrwyr at gyfeiriadau URL defnyddiol ac fe'u hanogir i ddod o hyd i wybodaeth drwy ddefnyddio dulliau electronig.
Personal Development and Career planning Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon.
Problem solving Y gallu i gymhwyso gwybodaeth am reolau cyfreithiol i sefyllfaoedd datrys-problemau.
Research skills Y gallu i ganfod, darllen, dehongli a deall amrywiaeth eang o destunau cyfreithiol a throseddegol
Subject Specific Skills Datrys problemau a chymhwyso rheolau cyfreithiol i theori droseddegol ac i'r gwrthwyneb.
Team work Mewn seminarau, gofynnir i fyfyrwyr gyflawni tasgau mewn grwpiau.

Notes

This module is at CQFW Level 4