Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
GQ30720
Module Title
GLOBALEIDDIO, GWRTHIANT A NEWID YNG NGWLEIDYDDIAETH Y BYD
Academic Year
2012/2013
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 15 Awr (15 x awr)
Seminars / Tutorials 8 Awr (8 x awr)
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment 1 x traethawd 1,500 o eiriau  25%
Semester Assessment 1 x traethawd 1,500 o eiriau  25%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  50%
Supplementary Assessment 1 x traethawd 3,000 o eiriau yn lle arholiad  50%
Supplementary Assessment 1 x traethawd 1,500 o eiriau, os methwyd yr elfen traethawd  25%
Supplementary Assessment 1 x traethawd 1,500 o eiriau, os methwyd yr elfen traethawd  25%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Arddangos dealltwriaeth ddofn a systematig o'r cysyniadau o rym, cynrychiolaeth, hunaniaeth, sofraniaeth a rhyddfreiniad yng nghyd-destun gwleidyddiaeth fyd-eang, a swyddogaeth y rhain wrth lunio cysylltiadau rhyngwladol cyfoes.
2. Arddangos yr ymwybyddiaeth feirniadol i allu dadansoddi materion cymhleth sy'n rhan o'r modiwl, a chyfosod a strwythuro deunyddiau dadansoddol yn rhesymegol, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrosesau sy'n ganolog i'r maes.
3. Gallu cyfrannu'n broffesiynol i drafodaethau academaidd drwy ddiffinio’r mater, cyflwyno ei oblygiadau'n effeithiol, cyfathrebu â chynulleidfa yn llafar a thrwy ddefnyddio offer clyweled, ac ymateb yn effeithiol i gwestiynau.
4. Defnyddio lefel o ddealltwriaeth gysyniadol a damcaniaethol fydd yn caniatáu iddynt werthuso'n feirniadol a chymhwyso damcaniaeth i broblem ryngwladol benodol, yn ogystal â damcaniaethu ar ddulliau ac agweddau amgen.
5. Ymwneud yn feirniadol â materion cymhleth llywodraethiant byd-eang a chymhwyso sgiliau ymchwil a chyflwyno perthnasol.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn trafod dehongliadau amrywiol o'r 'rhyngwladol' ac o gymuned wleidyddol o fewn cysylltiadau rhyngwladol, gyda phwyslais arbennig ar eu hesblygiad. Bydd yn trafod llunio gwladwriaeth, ymdrechion gwrth-drefedigaethol, y meddwl ôl-strwythurol, a mudiadau gwrth-globaleiddio Gwyrdd, ac yn annog myfyrwyr i ailfeddwl am ystyr gwladwriaeth a llywodraethiant yng nghyd-destun gwleidyddiaeth fyd-eang.
Mae'r defnydd o astudiaethau achos amrywiol yn darparu persbectif byd-eang a rhyngddisgyblaethol. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi'n feirniadol wahanol weithredwyr, meddylwyr a chynrychiolwyr diwylliannol gwleidyddiaeth ryngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys astudiaethau achos manwl o wladwriaeth (Irac), ffilm (Children of Men), a chenedl ddi-wladwriaeth (Cymru), yn ogystal â gweithiau meddyliwr (Murray Bookchin).

Content

Amserlen Darlithoedd
1. Cyflwyniad: globaleiddio a gwleidyddiaeth ryngwladol
2. Y wladwriaeth a sofraniaeth mewn gwleidyddiaeth fyd-eang
3. (Ail) greu'r system ryngwladol
4. Dadansoddi Astudiaeth Achos 1: Irac
5. Marx hyd Cox: beirniadaethau 'radical' ar drefn sefydledig
6. Cysyniadoli grym a gwrthiant o fewn Cysylltiadau Rhyngwladol
7. Dadansoddi Astudiaeth Achos 2: Children of Men
8. Dadansoddi Astudiaeth Achos 2: Children of Men
9. Cofio'r arall: globaleiddio'r 'nhw a'r ni'
10. 'Globaleiddio' gwleidyddiaeth fyd-eang
11. 'Harddwch y Bychanl': dychweliad y gweithredwr bychan?
12. Dadansoddi Astudiaeth Achos 3: Cymru
13. Y tu hwnt i ddynoliaeth: beirniadaeth ecolegol a lledaeniad y gymuned wleidyddol
14. Dadansoddi Astudiaeth Achos 4: Murray Bookchin
15. Casgliad: (Ail) leoli grym a sofraniaeth yng ngwleidyddiaeth fyd-eang gyfoes

Amserlen Seminarau
1. Globaleiddio
2. Y Wladwriaeth
3. Grym a gwrthiant
4. Dadelfennu Children of Men
5. Yr arall mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
6. Gweithredwyr bychain
7. Y Feirniadaeth Werdd
8. Casgliad a pharatoi at yr arholiad

Aims

Mae'r modiwl hwn yn ychwanegu at raglen ddysgu'r Adran drwy ddarparu ffocws cyson ar ofod rhyngwladol, y wladwriaeth, a syniadau am gymuned wleidyddol ac asiantaeth o fewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ddim yn berthnasol
Communication Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar sgiliau gwrando a sgiliau llafar gan y byddwn yn asesu perfformiadau seminar. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu traethodau wedi'u gairbrosesu a dylai'r modd y cyflwynir y gwaith arddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith fydd yn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Improving own Learning and Performance Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig a phynciau eu cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i baratoi ar gyfer cyfraniadau seminar asesedig a chadw at ddyddiadau cau y gwaith cwrs yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser.
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig.
Personal Development and Career planning Cynlluniwyd y modiwl mewn modd ddylai ddatblygu a hogi sgiliau a fydd o werth i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn arbennig wrth iddynt siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i safbwyntiau eraill. Bydd y tasgau ysgrifenedig yn gofyn am ysgrifennu'n glir a chryno, tasg gyffredin yn gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl I ystyried eu perfformiad eu hunain ac ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol.
Problem solving Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd cyflwyno dau draethawd a pharatoi at drafodaethau seminar yn gofyn I fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd sgiliau datrys problemau myfyrwyr yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a rhagweld ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; paratoi modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; dosbarthu materion yn broblemau llai.
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o'r gwaith asesedig. Golyga hyn ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r we yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Asesir myfyrwyr yn rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau diddorol a pherthnasol.
Subject Specific Skills Bydd gan y myfyrwyr gyfle I ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yn cynnwys:: • Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol i'r modiwl • Gwerthuso persbectifau gwahanol • Arddangos technegau ymchwil pwnc benodol Cymhwyso amrywiol fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes.
Team work Bydd myfyrwyr yn cael ymarferion tîm yn y seminarau. Bydd seminarau nifer o bynciau'r modiwl hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp lle bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod fel grŵp faterion canolog pwnc y seminar. Bydd y trafodaethau grŵp yn ffurfio rhan arwyddocaol o’r modiwl ac yn caniatáu i fyfyrwyr ystyried ac archwilio pwnc penodol drwy gyfrwng gwaith tîm.

Notes

This module is at CQFW Level 6