Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HA10520
Teitl y Modiwl
TLODI AC AFIECHYD YM MHRYDAIN, C.1820-1900
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau Seminarau.
Darlithoedd
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   2 awr arholiad  60%
Asesiad Semester Traethodau: 2 traethawd x 2,500 o eiriau  40%

Disgrifiad cryno

Pe'ch ganed i deulu gweithiol yn un o drefi neu ddinasoedd y bedwaredd garif ar bymtheg, roedd oddeutu un siwns allan o bump y buasech yn marw cy eich pen-blwydd cyntaf, ac fe allasech ddisgwyl byw, ar gyfartaledd, am lai na 30 mlynedd. Roedd heintiau megis y frech wen a typhoid yn gyfrifol am ladd miloedd o bobl bob blwyddyn, tra ofnai'r trefi yn gyson am ymweliad nesaf y 'pla newydd' ? cholera. Bydd y modiwl hon yn astudio'r ymateb i'r problemau iechydol, amgylcheddol a chymdeithasol affwysol a ddaeth yn sgil y chwyldro diwydiannol a threfoli. Ystyrir cyfraniad Chadwick a'i grwsad i lanhau'r trefi, ac astudir ymdrechion awdurdodau'r trefi i wella iechyd eu trigolion trwy wario miloedd ar systemau dwr, difa'r slymiau, a gwella'r amgylchedd. Crynhoir y cwrs trwy werthuso faint mor llwyddiannus fu'r ymdrechion hyn, a pha effaith gawsant ar yr amgylchedd drefol sy'n gyfarwydd i ninnau heddiw.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4