Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TCM0230
Teitl y Modiwl
METHODOLEGAU YMCHWIL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Darlithoedd a Seminarau: 5 x 6 awr yn ystod 5 wythnos gyntaf y Semester
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Llyfryddiaeth gyda nodiadau  25%
Asesiad Semester Cynllun Ysgrifenedig o'r Cynnig Ymchwil.  Dylai'r cynllun ysgrifenedig fod yn 3,500 o eiriau. Dylai gynnwys yr elfennau uchod (thema, methodoleg, fframwaith cysyniadol). Bydd yn ddilyniant o'r Cyflwyniad Llafar. Dylai hefyd ymgorffori amserlen a chynllun manwl o'r camau ar gyfer cyflawni a chyflwyno'r ymchwil terfynol.   50%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar o'r Cynnig Ymchwil.  Dylai'r cyflwyniad hwn gynnwys datganiad ynglyn a'r canlynol: (a) thema neu bwnc (b) methodoleg/au (c) fframwaith cysyniadol Gall y cyflwyniad gynnwys defnydd o waith ymarferol, perfformio, cynhyrchu byw, fideo, data, sain ayb. Dylai'r cyflwyniad fod o 20 munud o hyd, gyda hyd at 20 munud o drafodaeth.   25%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Arddangos dealltwriaeth o ofynion ymchwil academaidd ar lefel uwchraddedig

2. Arddangos y gallu i adnabod, caffael a chymhwyso methodoleg addas ar gyfer cynllunio prosiect ymchwil uwchraddedig

3 Arddangos y gallu i drefnu a chyflwyno cynllun ymchwil cynhwysfawr, cydlynol a chyraeddadwy

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r methodolegau ymchwil a arddelir ym meysydd y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.

Cynnwys

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r methodolegau ymchwil a arddelir ym meysydd y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r methodolegau ymchwil a arddelir ym meysydd y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'r cynnig ymchwil ar lafar ac yn ysgrifenedig. Caiff y sesiynau dysgu hefyd eu cynnig yn gyfle i'r myfyriwr finiogi ei sgiliau cyfathrebu, gan ddisgwyl cyfraniadau ystyrlon a gloyw.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Rhydd y modiwl hwn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu prosiect ymchwil arbennig sydd wedi ei leoli o fewn cyd-destun ymchwil academaidd ac o fewn maes y cyfryngau creadigol. Rhoddir pwyslais ar i'r myfyriwr ddatblygu'n bersonol o fewn y fframwaith hwn.
Datrys Problemau Arddangos gallu i lunio cynnig ar gyfer prosiect ymchwil. Bydd y medrau hyn yn cael eu datblygu wrth i'r myfyriwr ystyried y math o gwestiynau ymchwil, y dulliau a'r methodolegau addas ar gyfer y dasg a'r technegau a'r strategaethau o gynllunio ymchwil uwchraddedig.
Gwaith Tim Er mai cynigion ymchwil unigol yw prif ffocws asesiadau'r modiwl, disgwylir i'r myfyrwyr gyfranogi at waith eu cyd-fyfyrwyr yn ystod y seminarau a hefyd wrth iddynt gyflwyno eu cynnig ymchwil ar lafar
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu cynnig a chynllun ymchwil unigryw eu hunain a fydd yn seiliedig ar eu syniadau, eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth. Mae hunanreolaeth yn rhan bwysig o ddatblygu ffiniau'r cynllun terfynol. Fe fydd y sesiynau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio eu profiad dysgu a pherfformio eu hunain.
Rhifedd Bydd rhai methodolegau (e.e. dadansoddi cynnwys) yn estyn defnydd o wybodaeth rifyddol ac ystadegol y myfyrwyr.
Sgiliau pwnc penodol Lle bo'n briodol gall myfyriwr ddefnyddio technegau ymchwil mewn perthynas ag ymarfer nad ydynt yn gyffredin mewn pynciau cyffelyb?
Sgiliau ymchwil Prif amcan y modiwl hwn yw astudio ac ystyried ystod o fethodolegau ar gyfer dod i benderfyniad ynglyn a chynllun ymchwil uwchraddedig. Mae gofyn i'r myfyriwr roi ystyriaeth lawn i'r dulliau a'r deunyddiau ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Bydd rhai methodolegau (e.e. dadansoddi cynnwys) yn estyn sgiliau technoleg gwybodaeth y myfyrwyr. Disgwylir hefyd y bydd defnydd o gyfryngau newydd yn rhan o’r hinsawdd ymchwil hwn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7