Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD20120
Teitl y Modiwl
Seicoleg Dysgu a Meddwl
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol A COMPULSORY MODULE DEVELOPMENT WORKSHOP One session of 7 hours to be held over reading week (in same session as ED20120)
Darlithoedd 1 x 2hour every week
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad 1  1 x aseiniad ysgrifenedig 2500 gair  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  1 x arholiad 2 awr. Bydd myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn.  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Atodol  1 x aseiniad ysgrifenedig 2500 gair(gosodir cwestiynau newydd)  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  1 x arholiad 2 awr. Bydd myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn.(gosodir cwestiynau newydd)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o natur gymhleth prosesau meddwl ac egwyddorion prif ddamcaniaethau dysgu.

Gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau, ffyrdd a dulliau o asesu dysgu a meddwl.

Trafod yn feirniadol ddadleuon wrth drafod damcaniaethau, ffyrdd a dulliau o ddysgu a meddwl.

Arddangos ymgysylltu beirniadol â ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl, a’r modd y’i cynlluniwyd yn benodol, yw ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol myfyrwyr am brif ddamcaniaethau meddwl a dysgu. Mae’r damcaniaethau hyn yn cynnwys: damcaniaethau Piaget, Vygotsky a Skinner. Anogir myfyrwyr i fyfyrio ar eu harddulliau dysgu ac i gysylltu’n rhain â chysyniadau allweddol yn y maes. At hyn, rhoddir cyfleoedd i’r myfyrwyr wneud gwaith arbrofol mewn grwpiau bach er mwyn ymestyn eu dealltwriaeth o’r ddau gysyniad sydd wrth wraidd y prif ddamcaniaethau a’r modd y’u defnyddir.

Nod

Bydd darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar y canlynol:
Darlith a seminar 1: Sylfeini seicoleg
Darlith a seminar 2: Deallusrwydd
Darlith a seminar 3: Damcaniaeth Piaget
Darlith a seminar 4: Damcaniaeth Vygotsky
Darlith a seminar 5: Crynodeb o sut y mae plant yn dysgu
Darlith a seminar 6: Datblygiad iaith
Darlith a seminar 7: Ymlyniad
Darlith a seminar 8: Datblygiad yr hunan
Darlith a seminar 9: Dulliau ymchwil
Darlith a seminar 10: Cysylltiadau a pherthnasau â chymheiriaid

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5