Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD30120
Teitl y Modiwl
Gwerthuso ac Adlewyrchu ar Sgiliau Dysgu yn Gritigol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol A COMPULSORY MODULE DEVELOPMENT WORKSHOP One session of 7 hours to be held over reading week (in same session as ED30120)
Darlithoedd
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad  Aseiniad ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol (3000 gair)  50%
Asesiad Semester Arteffact/ Gem  Arteffact: Cynllunio a chynhyrchu gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol  3 full days need to be timetabled due to class numbers - class will be split. Rooms to be timetabled in P5  40%
Arholiad Semester 6 Awr   Cyflwyniad Llafar  Asesu llafar a chan gymheiriaid: Amddiffyniad ar lafar am ddeg munud o’r gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol. Bydd yr asesu gan gymheiriaid yn cyfrannu 10% o’r marc terfynol.  10%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Atodol  Aseiniad ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol (gwahanol i’r uchod) (3000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Arteffact atodol  Arteffact: Cynllunio a chynhyrchu gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol newydd  40%
Arholiad Ailsefyll 6 Awr   Cyflwyniad llafar atodol  Asesu llafar a chan gymheiriaid: Amddiffyniad ar lafar am ddeg munud o’r gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol. Os na bydd hi’n bosibl i gynnal cyflwyniad llafar, gofynnir i fyfyrwyr ddarparu amddiffyniad ysgrifenedig o’r gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol.  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth o’r cysyniadau a’r gweithdrefnau technegol sydd ynghlwm wrth gynllunio asesiadau mewn cyd-destunau addysgol;

Adolygu a thrafod yn feirniadol y prif bynciau i’w hystyried wrth gynllunio trefniadau asesu priodol.

Arddangos dealltwriaeth o sut y mae arferion asesu yn rhyngweithio â dysgu myfyrwyr;

Cynllunio a chynhyrchu gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol;

Cyflwyno’n feirniadol amddiffyniad ar lafar o’u gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn ceisio asesu’r hyn y mae myfyriwr yn ei ddysgu ac wrth wneud hynny yn codi’r cwestiynau, ‘pam?’ ac ‘er lles pwy?’ yn ogystal â ‘beth sydd i’w asesu?’. Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â rôl asesu mewn cyd-destun addysgol, yn amrywio o asesu dysgu yn yr ystafell ddosbarth anffurfiol i systemau asesu yn genedlaethol. Dadansoddir enghreifftiau o arferion asesu ym mhob cam addysg, o ysgolion cynradd i addysg uwch, gyda golwg ar ddeall posibiliadau a chyfyngiadau asesu mewn cyd-destun addysgol. Rhoddir pwyslais yn arbennig ar asesu ar gyfer egwyddorion ac arferion dysgu. O’r herwydd, rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr ddatblygu gêmau rhyngweithiol wedi eu hanelu at israddedigion yn y flwyddyn gyntaf, gyda golwg ar annog myfyrwyr i fyfyrio arnynt eu hunain a gwerthuso eu hunain.

Cynnwys

Darlith 1. Y broses asesu: profiad a chwestiynau.
Beth yw asesiad ‘da’? Rhai cysyniadau allweddol.
Darlith 2. Cynllunio cynllun asesu: manylion, cwmpas a phwrpas.
Darlith 3. Asesu ar gyfer dysgu: egwyddorion ac enghreifftiau.
Darlith 4. Systemau asesu: Y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Darlith 5. Systemau asesu: Llwybr 14-19 – TGAU, Safon Uwch, GNVQ, Bagloriaeth Cymru, a sgiliau allweddol ac ehangach.
Darlith 6. Systemau asesu: Addysg Uwch
Darlith 7. Pynciau allweddol asesu: asesu ffurfiannol; safoni asesu athrawon; safonau cenedlaethol.
Darlith 8. Hunanfyfyrio a hunanwerthuso gan fyfyrwyr.
Cyflwyniad i asesu gan gymheiriaid.
Darlith 9. Asesu gan gymheiriaid: cyflwyniad llafar myfyrwyr o gêm ryngweithiol.
Darlith 10. Asesu gan gymheiriaid: cyflwyniad llafar myfyrwyr o gêm ryngweithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6