Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY33620
Teitl y Modiwl
Rhyddiaith y Dadeni
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810
Rhagofynion
Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 22 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   arholiad atodol  100%
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Traethawd 3000 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gallu trafod rhai o brif gyflawniadau'r dyneiddwyr Cymraeg a byddant yn dra ymwybodol o bwysigrwydd y cyflawniadau hynny.

2. Byddant yn gallu trafod y syniadau newydd ym maes dysg a chrefydd a ddaeth i Gymru o'r Cyfandir yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

3. Byddant yn gallu trafod y prif gerrig milltir yn hanes cyfieithu'r Ysgrythurau i'r Gymraeg ac yn gallu trafod yn feirniadol gyfraniad rhai unigolion tuag at y gwaith cyfieithu.

4. Byddant yn gallu trafod gwaith rhai o'r dyneiddwyr Cymraeg gan ei osod yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o ragymadroddion y dyneiddwyr i'w gweithiau ynghyd ag astudiaeth o gynnrych llenyddol dyneiddwyr penodol megis William Salesbury, Gruffudd Robert a William Morgan.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6