Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF36130
Teitl y Modiwl
Cyfraith Tir
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cyfraith Cytundebau (GF15830 / LA15830 / LA35830)
Rhagofynion
GF10110/LA10110 or GF14230/LA14230 or GF14720/LA14720 GF30110/LA30110 or GF34230/LA34230 or GF34720/LA34720 or LA15710
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr. (35 awr yn Saesneg, 5 awr yn Gymraeg)
Seminarau / Tiwtorialau 8 awr. 4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad  : gwaith cwrs 1000 o eiriau o gwestiynau byrion i'w gyflawni yn semester 1  10%
Asesiad Semester Traethawd  1000 gair i'w gyflwyno yn Semester 2  25%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  . Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad.  65%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad  : gwaith cwrs 1000 o eiriau o gwestiynau byrion - os caiff y aseiniad ei fethu.  10%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1000 gair - os caiff y traethawd ei fethu.  25%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  - os caiff yr arholiad ei fethu. Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad.  65%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod a egluro y gwahanol funddianau sydd yn gallu bodoli dros dir.

Adnabod a egluro y gwahaniaethau rhwng budd personal a budd dros eiddo.

Adnabod a egluro pryd y bydd budd dros dir yn rhwymo perchenog olynnol.

Egluro'r gwahaniaethau rhwng buddianau cyfreithiol a buddianau ecwitiol.

Egluro'r gwahaniaethau rhwng tir cofrestredig a thir anghofrestredig.

Egluro egwyddorion cyfraith tir.

Gallu dadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol ac egluro perthnasedd y gyfraith i'r sefyllfaoedd hynny.

Dangos tystiolaeth o fod wedi cyflawni ymchwil er mwyn gallu trafod cwestiynau cyfreithiol a chymdeithasol o berspectif lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac i adnabod effeithiau gwleidyddol ac effeithiau'r cyfryngau ar y gyfraith.

Dangos tystiolaeth o allu i werthuso ystod eang o ddeunyddiau cyfeithiol ac academaidd a'u hintegreiddio i ffurfio perspectifau newydd, theoriau ac atebion i broblemau cyfreithiol.

Dangos tystiolaeth o allu trefnu gwybodaeth mewn modd sydd yn dangos ymwybyddiaeth o'r dadleuon o blaid ac yn erbyn gosodiad, ac i ddefnyddio dadleuon hynny er mwyn cyrraedd ateb ac i gyfiawnhau'r ateb hwnnw.

Gallu cyflwyno canlyniadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn gryno ac yn effeithiol yn Saesneg neu yn Gymraeg gan ddefnyddio'r terminoleg briodol yn gywir.

Gallu defnyddio gwybodaeth er mwyn datrys problemau theoretig ac ymarferol.

Disgrifiad cryno

Mae tir yn nwydd gwerthfawr. Mae'r rheiny sy'n berchen ar dir yn dymuno cadw'u gafael arno. Mae'r rheiny nad oes tir ganddynt yn dymuno'i gael. Y gyfraith sy'n rheoli'r cysylltiadau hyn yw cyfraith tir. Mae pobl sy'n prynu tai a phobl sy'n berchen arnynt yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ac mae hyn hefyd yn wir am bobl sy'n rhentu tai a fflatiau. Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau megis nwy, trydan a dwr yn cael eu rheoli gan gyfraith tir. Mae pobl sy'n mynd i'r theatr neu'r rheiny sy'n hoff o fynd i wylio gemau pel-droed yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ynghyd a banciau a chymdeithasau adeiladu, cyplau priod a di-briod a pherchnogion rheiliau tywelion, ceffylau chwilfrydig a physt gatiau siap llew. Mae hyd yn oed gwyrddni parhaus y tir y tu allan i sinema'r Odeon yn Leicester Square yn Llundain yn cael ei reoli gan gyfraith tir. Yng ngoleuni hyn oll, bydd y modiwl hwn yn cynnwys ystyriaethau megis beth yw tir, pa elfennau sydd i gyfraith tir a sut gellir sicrhau, cadw neu golli hawliau a buddiannau sy'n ymwneud a thir.

Nod

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r egwyddorion sy'n rheoli'r broses o gaffael hawliau dros dir a chadw'r hawliau hynny. Ei nod felly yw esbonio'r ffordd y mae cytundeb rhwng un unigolyn a'r llall yn troi'n gytundeb sy'n arwain at fantais neu rwymedigaeth nid ar unigolyn ond yn hytrach ar rywun yn rhinwedd ei swyddogaeth fel perchennog ystad mewn tir. Yn unol a hyn, mae'r hyn sy'n cael ei sicrhau rhwng dau unigolyn dan gyfraith contract yn cael ei ail-greu dan gyfraith tir i greu hawliau a rhwymedigaethau a allai rychwantu cenedlaethau. Felly, nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gysyniad tir a chaffael a ffurfioli hawliau sy'n ymwneud a thir unigolyn a thir sy'n eiddo i rywun arall. Ei nod yw rhoi cyfraith tir yng nghyd-destun hanes cyfreithiol Cymru a Lloegr a'r sefyllfa gyfredol o safbwynt cymdeithasol ac economaidd. Ei nod hefyd yw datblygu ffordd o gymhathu a chyflwyno gwybodaeth gyfreithiol, creu dadleuon rhesymegol a phrofedig a datblygu'r gallu i adnabod a chloriannu'r ffordd y mae'r gyfraith yn datrys problemau cymdeithasol gwirioneddol a chanfyddedig. Nod arall y modiwl hwn yw cyflwyno un o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae'n rhaid i bob myfyriwr sy'n dymuno gweithio yn y proffesiynau cyfreithiol eu cael.

Cynnwys


  • Cyflwyniad
  • Beth yw Tir?
  • Pa elfennau sydd i Gyfraith Tir?
  • Perchnogaeth tir
  • Hawliau dros dir sy'n berchen i rywun arall
  • Cydnabod hawliau perchnogaeth ac amherchnogaeth
  • Cydberchnogaeth
  • Prydlesi
  • Morgeisi
  • Hawddfreintiau
  • Cyfamodau
  • Trosglwyddo


Llyfrau a Deunydd Darllen
Nid oes gwerslyfr penodol i'r modiwl hwn. Awgrymir rhai gwerslyfrau yn y darlithoedd sy'n rhan o'r modiwl, gan fod cyhoeddwyr yn aml yn cyhoeddi rhifynnau newydd o werslyfrau yn ystod yr haf. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr fynd a llyfr statudau i mewn i'r arholiad, ac mae'r canlynol yn enghreifftiau o destunau rhesymol. Pa werslyfr bynnag y penderfynwch ei brynu, dylech hefyd fwrw golwg dros rai o'r llyfrau eraill ar y rhestr, yn ogystal ag unrhyw ddeunydd darllen arall y gallech fod wedi'i gael ar ffurf achosion, adroddiad ac erthyglau cyfnodolion.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Abbey, R and Richards, M (2010) A Practical Approach to Conveyancing 12th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Clarke, A and Kohler, P (2006) Property Law Cambridge University Press Chwilio Primo Gray, Kevin J. and Gray, Susan F. (2009) Elements of Land Law 6th ed. Oxford University Press Chwilio Primo MacKenzie, J-A. and Phillips, M. (2010) Textbook on Land Law 13th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Stroud, April (2010) Making Sense of Land Law 3rd ed. Palgrave Macmillan Limited Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Cursley J, Davys M and Green K (2009) Land Law 6th ed. Palgrave Macmillan Limited Chwilio Primo Dixon, Martin (2010) Modern Land Law 7th ed. Routledge Chwilio Primo Harpum, C., Bridge, S. and Dixon, M. (2011) The Law of Real Property 8th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo Smith, Roger J. (2009) Property Law 6th ed. Longman Chwilio Primo Thompson, M.P. (2009) Modern Land Law 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6