Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar 50 munud Dosbarthiadau tiwtorial unigol i bob myfyriwr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr 1 arholiad 2 awr | 70% |
Asesiad Semester | 1 traethawd 2,500 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau yn y maes yn perthyn i'r cyfnod.
Myfyrio ar a dadansoddi'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig
Gweithio'n annibynnol ac mewn tim.
Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i nifer o brif themau a datblygiadau pwysig yr Oesoedd Canol. Edrychir yn arbennig ar ffydd, argyfwng a gwrthryfel, gan weld defosiwn ac awdurdod yn y gymdeithas yn ogystal a'r newidiadau a'r heriau economaidd, crefyddol a gwleidyddol oedd yn bygwth y rhain. Rhoddir sylw i Ewrop yn gyffredinol ond Prydain yn fwy penodol. Y nod yw darparu sylfaen ar gyfer astudio'r Oesoedd Canol yn fanylach yn Rhan II.
Nod
Mae'n helpu ehangu'r ddarpariaeth ar gael i fyfyrwyr Lefel 1, yn enwedig i'r rhai sy'n astudio'r radd Canol Oesol a Chyfnod Modern Cynnar.
Cynnwys
1) Cyflwyniad: cymdeithas a Gwledydd Cred;
2) Awdurdod a dylanwad yr Eglwys;
3) Seintiau, creiriau a phererindota;
4) Defosiwn a chymdeithas;
5) Urddau crefydd;
6) Croesgadau;
7) Prifysgolion;
8) Anghydfod rhwng y secwlar a'r Eglwys;
9) Adeiladu gwladwriaethau;
10) Gwrthryfeloedd a rhyfeloedd cartref;
11) Rhyfela yn Ewrop;
12) Y Pla Du ac argyfyngau'r bedwaredd ganrif ar ddeg;
13) Y Schism;
14) Heresi;
15) Twf trefol;
16) Dirywiad yr Eglwys;
17) Y Diwygiad Protestannaidd;
18) Casgliadau: Ewrop erbyn 1540.
Seminarau:
1) Dylanwad yr Eglwys;
2) Seintiau a defosiwn;
3) Adeiladu gwladwriaethau;
4) Argyfyngau'r bedwaredd ganrif ar ddeg;
5) Yr her i'r Eglwys.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas a chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau ynghyd a ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu ymwybyddiaeth o ffynonellau priodol a llenyddiaeth hanesyddol yn gysylltiedig ag astudiaeth o'r Oesoedd Canol. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4