Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD20220
Teitl y Modiwl
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol A COMPULSORY MODULE DEVELOPMENT WORKSHOP One session of 7 hours to be held over reading week (in same session as ED20220)
Darlithoedd
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad 1  1 traethawd 2500 gair  50%
Asesiad Semester Aseiniad 2  1 traethawd 2500 gair  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad atodol 1  1 traethawd 2500 gair (gosodir cwestiynau newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Aseinaid atodol 2  1 traethawd 2500 gair (gosodir cwestiynau newydd)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gwerthuso’n feirniadol ddatblygiad llythrennedd mewn plant ifainc o fewn i fframwaith penodol.

Trafod yn feirniadol oblygiadau datblygiad llythrennedd ar gyfer dysgu ac addysgu.

Archwilio’n feirniadol y rhesymau dros gwricwlwm yn seiliedig ar lenyddiaeth mewn ysgolion babanod.

Arddangos ymgysylltu beirniadol â ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ganologrwydd y broses iaith a llythrennedd yn ei rôl gyfryngu ar gyfer yr athro a’r plentyn ifanc. Mae’n archwilio swyddogaeth llythrennedd mewn amryw ddiwylliannau ac yn ystyried y sgiliau angenrheidiol ar gyfer datblygu iaith a llythrennedd mewn plant ifainc.

Cynnwys

Bydd darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar y canlynol:
Darlith a seminar 1: Cysyniadau llythrennedd
Darlith a seminar 2: Teithiau i lythrennedd: profiadau meithrin a’r blynyddoedd cynnar
Darlith a seminar 3: Llythrennedd a’r cwricwlwm ysgol
Darlith a seminar 4: Natur naratif: defnyddio llenyddiaeth yn yr ystafell ddosbarth a’r cysyniad o’r gwir ddarllenydd
Darlith a seminar 5: Datblygiad darllen (1): Agweddau a dulliau
Darlith a seminar 6: Datblygiad darllen (2): Deunyddiau darllen
Darlith a seminar 7: Darllen i ddysgu – llyfrau ffeithiol a deunyddiau gwybodaeth eraill
Darlith a seminar 8: Dechrau ysgrifennu
Darlith a seminar 9: Datblygiad ysgrifennu
Darlith a seminar 10: Llythrennedd amlgyfryngol – y we a thu hwnt

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5