Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AG24710
Teitl y Modiwl
Lleoliad Gwaith Mewn Diwydiant
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill This is a short work experience module, there is no teaching associated with it.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester ADRODDIAD LLEOLIAD GWAITH DIWYDIANNOL, 3,000 O EIRIAU  30%
Asesiad Semester ASESIAD CYFLOGWR/TIWTOR ADRODDIAD  45%
Asesiad Semester CYFLWYNIAD AR OL LLEOLIAD CYFLWYNIAD, 15 MUNUD  25%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno adroddiad y lleoliad diwydiannol a/neu ail y cyflwyniad. Ni chewch gyfle i ail wneud y lleoliad gwaith os byddwch wedi methu asesiad y Cyflogwr.  

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Trefnu a sicrhau lleoliad gwaith dilys

(a) Llunio amcanion personol ar gyfer y lleoliad
(b) Dangos blaengarwch wrth ddethol a sicrhau gwaith perthnasol
(c) Ymateb i ofynion paratoi ar gyfer cyfweliad a gofynion mynychu cyfweliadau.
(ch) Trin a thrafod, a chytuno a'r arolygwr a'r cyflogwr yngl'n a chynllun gweithredu.

2. Dangos gallu i gyflawni rol waith

(a) Dal ati ar y lleoliad am y cyfnod gofynnol
(b) Cwblhau rhaglen o dasgau yn unol a'r safonau y cytunwyd arnynt.
(c) Gweithio mewn modd cyfrifol ar eich pen eich hun a chydag eraill.

3. Dadansoddi gweithgareddau a pherfformiad y sefydliad

(a) Cadw golwg ar y sefydliad, ei strwythur a'r defnydd o adnoddau sydd ar gael, a'u gwerthuso
(b) Asesu ei effeithiolrwydd o ran llwyddo yn ei amcanion mewn perthynas a safonau cydnabyddedig.

4. Asesu gwerth a pherthnasedd y profiad gwaith a gafwyd

(a) Gwerthuso'r profiad a gafwyd yn erbyn y cynllun gweithredu
(b) Asesu cyfraniad y profiad hwn at ddatblygu gyrfa
(c) Adnabod datblygiad sgiliau personol
(ch) Dadansoddi'r cyfraniad at ddatblygu gyrfa

Disgrifiad cryno

Mae profiad o'r gweithle yn elfen hanfodol o gyrsiau galwedigaethol. Bydd eich rhagolygon am waith ar ol cwblhau'r cwrs yn debygol o fod wedi gwella'n sylweddol o ganlyniad i ennill profiad gwaith priodol. Gyda chefnogaeth ac arweiniad Cydlynydd Profiad Gwaith y Sefydliad a chydlynydd eich cynllun gradd, disgwylir i chi adnabod eich anghenion chi eich hun o ran profiad gwaith, ac i geisio a sicrhau lleoliad gwaith addas.

Wrth ddilyn y modiwl hwn, mae'n ofynnol i chi wneud cyfnod o brofiad gwaith am o leiaf 6 wythnos, fel arfer yn ystod y gwyliau hir cyn cychwyn Rhan 2 (yn arferol mae hyn yn golygu rhwng y flwyddyn gyntaf a'r ail), mewn sefydliad a fydd yn rhoi i chi brofiad sy'n berthnasol i'ch cynllun gradd. Cyn i chi ddechrau, rhaid i'r Cydlynydd Profiad Gwaith a chydlynydd eich cynllun gradd gymeradwyo pob lleoliad.

DS
(i) Mae'r Sefydliad yn cadw'r hawl i atal myfyrwyr rhag cofrestru ar y modiwl hwn os yw eu perfformiad academaidd wedi bod yn anfoddhaol.
(ii) Pe dymunai myfyrwyr gofrestru am fodiwl gwahanol i hwn ar ddechrau'r sesiwn, ni chaniateir hynny oni bai fod y lleoliad wedi profi'n fethiant a hwythau'n hollol ddifai. Byddai angen cymeradwyaeth y Deon mewn achosion o'r fath.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5