Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF15930
Teitl y Modiwl
Cyfraith Troseddol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 40 awr yn Gymraeg
Seminarau / Tiwtorialau 8 awr (4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau yn Semester 2  33%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  . Caiff ymgeiswyr fynd a chopi, heb ei farcio, o Blackstone's Criminal Law Statutes (unrhyw argraffiad) i mewn i'r arholiad. Rhaid i ddeunydd o'r fath a ganiateir mewn arholiad aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Cewch ddefnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau.  67%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu  33%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  . Caiff ymgeiswyr fynd a chopi, heb ei farcio, o Blackstone's Criminal Law Statutes (unrhyw argraffiad) i mewn i'r arholiad. Rhaid i ddeunydd o'r fath a ganiateir mewn arholiad aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Cewch ddefnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau.  - os caiff yr arholiad ei fethu  67%

Canlyniadau Dysgu

Disgwylir i fyfyrwyr ddod i fedru adnabod a chymhwyso'r gyfraith berthnasol er mwyn datrys problemau. Disgwylir hefyd iddynt gloriannu a beirniadu'r gyfraith, a bod yn ymwybodol o'r lle sydd i'w ddiwygio.

Lluniwyd y safbwynt dadansoddol yn arbennig i annog myfyrwyr i lunio dadl argyhoeddiadol ar sail y dystiolaeth berthnasol. Er mwyn deall yn llawn y modd y mae'r gyfraith droseddol yn gweithio mewn cymdeithas, rhaid i fyfyrwyr werthfawrogi datblygiad hanesyddol, sylfaen ddamcaniaethol, a natur goruwchgenedlaethol gynyddol y pwnc. Mae'r modiwl yn hybu'r holl sgiliau deallusol a sgiliau pwnc a nodwyd yng nghanlyniadau dysgu'r rhaglen.

Disgrifiad cryno

Pwnc sylfaen yw Cyfraith Troseddau, a rhaid ei astudio a llwyddo ynddo er mwyn cael eich eithrio o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Un yn unig o'r canghennau lawer o'r gyfraith y gellir eu hastudio yw'r Gyfraith Troseddau, ond gellid dweud mai dyma'r gangen fwyaf a'r un sy'n treiddio i'r rhan fwyaf o feysydd. Hynny yw, mae'r gyfraith troseddau yn cyffwrdd a phob maes arall yng nghyfraith Cymru a Lloegr: mae'n treiddio i'r gyfraith fasnachol, cyfraith refeniw, cyfraith deuluol, cyfraith yr amgylchedd a llawer o feysydd eraill. Byddwch yn dod o hyd i'r gyfraith troseddau hyd yn oed wrth astudio cyfraith ryngwladol gyhoeddus. Mae'n dilyn felly fod astudio'r egwyddorion cyffredinol sy'n sylfaen i'r gyfraith troseddau yn rhan bwysig o unrhyw addysg go iawn yn y gyfraith. Rhaid inni bwysleisio na fydd y cwrs yn ceisio ymdrin a phob trosedd, na hyd yn oed y rhan fwyaf o droseddau penodol yng nghyfraith Cymru a Lloegr. Mae llawer gormod o droseddau o'r fath. Bydd y pwyslais ar yr egwyddorion sylfaenol. A ellir cael atebolrwydd troseddol heb brofi bai na bwriad troseddol? A ystyrir bod rhywun yn 'bwriadu' canlyniad os oedd yn gwybod ei fod yn sgil-effaith anochel i'r ymddygiad bwriadus? A all anwybodaeth am y gyfraith fyth fod yn amddiffyniad? Beth petai rhywun yn mynd ati i gyflawni rhyw drosedd, ond yn rhoi'r gorau i'r syniad cyn ei chyflawni? Er bod y pwyslais ar egwyddorion cyffredinol, ni ellir dysgu'r rhain na'u deall heb gyfeirio at droseddau penodol, a bydd nifer sylweddol o'r troseddau hyn yn cael eu hystyried yn fanwl. Gellir defnyddio lladdiad (homicide) er enghraifft, i egluro ac esbonio amryw byd o egwyddorion. Gall lladd fod yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon; yn fwriadol neu'n ddamweiniol; yn rhagfwriadol neu'n ganlyniad i gythruddo sydyn. Gall y lleiddiad fod yn feddw neu'n sobr, neu yn wallgof; gall y dioddefwr farw ar unwaith, neu farw wedyn yn sgil esgeulustod meddygol. Mae yna reswm arall hefyd dros astudio dewis gweddol helaeth o droseddau. Mae angen i gyfreithiwr troseddau wybod er na ellir llunio un cyhuddiad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, efallai y gellir llunio trosedd ychydig yn wahanol. Efallai y byddai cyhuddiad o fyrgleriaeth waethygedig yn llwyddo lle y byddai cyhuddiad o ladrad yn methu. Y gyfraith troseddau yw'r pwnc y mae myfyrwyr newydd yn y gyfraith yn dymuno ei astudio ran amlaf, ac rydym yn ffyddiog na fyddant yn cael eu siomi. Mae'n lliwgar ac yn frawychus mewn mannau, ac a gwedd ddynol iawn arni. Ond nid pwnc hawdd mohono. Mae'n amlygu i fyfyrwyr broblemau cymhleth dehongliad statudol, ac yn gofyn am lawer o waith astudio cyfraith achos - a llawer ohoni'n croesddweud ei hun ac yn ansicr. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i gwestiynu a beirniadu'r gyfraith, gan geisio ei deall ar yr un pryd.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gywir o amcanion ac egwyddorion sylfaenol cyfraith droseddol Cymru a Lloegr, a gwybodaeth ymarferol o amrywiaeth gweddol eang o droseddau ac amddiffyniadau penodol.

Cynnwys

1. Natur y Gyfraith Troseddau
  • Diffiniadau a gwahaniaethau hanfodol
  • Swyddogaeth y Gyfraith Droseddau mewn cymdeithas
  • Egwyddorion sylfaenol y Gyfraith Droseddau
2. Elfennau Trosedd

2.1 Actus Reus
  • Camwaith neu anwaith
  • Troseddau cyflwr amgylchiadau
  • Troseddau ymddygiad a chanlyniad
  • Achosiaeth
  • Gwirfoddoldeb ac awtomatiaeth
2.2 Mens Rea
  • Gwahanol fathau o mens rea
  • Rhagwelediad
  • Bwriad
  • Gwybodaeth neu gred
  • Byrbwylltra (gan wahaniaethu rhwng Cunningham a Caldwell)
2.3 Troseddau atebolrwydd caeth

3. Lladdiad
  • Mathau o laddiad anghyfreithlon
  • Llofruddiaeth
  • Dynladdiad dehongliadol
  • Dynladdiad byrbwyll
  • Lladd dan golli rheolaeth
  • Cyfrifoldeb lleiedig
  • Lladd trwy esgeuluster garw
4. Troseddau Corfforol Nad Ydynt yn Farwol
  • Ymosod a churo
  • Ymosod sy'n achosi gwir niwed corfforol
  • Clwyfo a niwed corfforol difrifol
  • Troseddau treisgar eraill
5. Troseddau Rhywiol
  • Trais
  • Cyfathrach rywiol anghyfreithlon
6. Troseddau Cychwynnol
  • Cynorthwyo ag anogi
  • Y gyfraith gyffredin a chynllwynion statudol
  • Ymgais
7. Cymryd Rhan mewn Trosedd
  • Cynorthwyo, ategu, cynghori neu gaffael
  • Mens rea y cyfranwyr
  • Tynnu'n ol o gyfraniad
  • Cyd-fenter
8. Cymhwyster ac Amddiffyniadau
  • Salwch meddyliol/gwallgofrwydd
  • Awtomatiaeth
  • Meddwdod
  • Hunanamddiffyn
  • Gorfodaeth
  • Rheidrwydd
  • Camgymeriad
9. Lladrad a Throseddau yn Erbyn Eiddo
  • Lladrad
  • Ysbeilio
  • Byrgleriaeth
  • Mynd ymaith heb dalu
  • Twyll

Rhestr Ddarllen

Dylid Ei Brynu
(2010) Blackstone's Statutes on Criminal Law 2010-2011 Oxford University Press Chwilio Primo Herring, Jonathan (2010) Criminal Law: text, cases and materials 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo
Testun Ychwanegol Atodol
Allen, M. (2010) Elliott and Wood's Cases and Materials on Criminal Law 10th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo Clarkson, Keating and Cunningham (2010) Criminal Law: Texts and Materials 7th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo Jefferson, Michael (2009) Criminal Law 9th ed. Pearson Longman Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4