Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF16220
Teitl y Modiwl
Cyfraith Cyfansoddiadol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
LA16220 a LA36220
Rhagofynion
GF10110 neu LA10110 neu LA15710
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 30 awr yn Saesneg.
Darlithoedd
Seminarau / Tiwtorialau 6 Awr. 6 x 1 awr yn Gymraeg.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd  asesiedig 1500 o eiriau ar gyfer wythnos 9  33%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad  67%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  asesiedig 1500 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu  33%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad  - os caiff yr arholiad ei fethu  67%

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:

  • Esbonio sut mae cyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a thrafod y cynigion dros ddiwygio
  • Dadansoddi'r gyfundrefn bresennol a chloriannu'r cryfderau a'r gwendidau
  • Ymdrin a defnyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddol
  • Nodi problemau yn y gyfundrefn gyfansoddiadol, a chymhwyso eu gwybodaeth i awgrymu atebion posibl (e.e. gan gyfeirio at ddeunydd cymharol)
  • Cymhwyso egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn awgrymu canlyniadau posibl i achosion
  • Nodi a gwerthfawrogi y goblygiadau i'r gyfraith gyfansoddiadol yn sgil datblygiadau cyffredinol yn y gyfraith a gwleidyddiaeth, a deall y berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaid/Ryngwladol, yn ogystal a'r gydberthynas rhwng elfennau canolog a datganoledig yn y cyfansoddiad.
Asesir y canlyniadau dysgu hyn trwy arholiad ac aseiniad gwaith ysgrifenedig, a fydd yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau traethawd a phroblemau, a byddant yn golygu ymdrin a defnyddiau sylfaenol y cyfansoddiad.

Yn ogystal a'r sgiliau deallusol hyn, bydd myfyrwyr yn medru dangos:
  • Sgiliau da wrth reoli amser er mwyn paratoi at seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon
  • Y gallu i gyflawni ymchwil annibynnol y rhoddir cydnabyddiaeth amdano yn yr asesiadau
  • Y gallu i ganfod a defnyddio ffynonellau ysgrifenedig ac electronig perthnasol. Bydd y seminarau'n gofyn am baratoi gan ddefnyddio deunyddiau o ffynhonellau electronig
  • Y gallu i weithio mewn grwpiau - cynhelir hanner y seminarau ar ffurf gweithdai, lle bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bychain ac yn trefnu cyflwyniad byr ar y cyd.

Disgrifiad cryno

Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol yn yr ystyr nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Beth mae hyn yn ei olygu, pam mae hi felly, ac a ydyw'n gwneud gwahaniaeth ymarferol, yw rhai o'r cwestiynau y byddwn yn eu hystyried yn y cwrs hwn, sy'n ceisio cyflwyno astudiaeth o'r gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyflwyno athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn benodol.

Mae'n wir fod cyfansoddiad Prydain ar y cyfan wedi datblygu'n raddol, ond nid yw hyn yn golygu na fu newid sydyn a mawr ar hyd y blynyddoedd. Yn wir, cafwyd rhai o'r newidiadau mwyaf yn gymharol ddiweddar wrth i'r Deyrnas Unedig ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd ym 1973. Yn ddiweddarach fyth cafwyd dadleuon brwd ar ddiwygio Ty'r Arglwyddi, datganoli, a hawliau dynol. Thema bwysig i'r cwrs yw'r modd y mae'r Cyfansoddiad wedi ymaddasu ac ymdopi ag amgylchiadau sy'n newid. Ystyrir yn fanwl ddeddfwriaeth newydd ar hawliau dynol a datganoli, gan gyfeirio'n arbennig at y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwnc pwysig arall a ystyrir yn y cwrs yw i ba raddau y ceir terfynau i bwerau'r Llywodraeth a'r Senedd. A ydyw'n wir fod gan y Senedd yr hawl i wneud unrhyw ddeddf, beth bynnag y bo?? Byddwn yn cymharu cyfansoddiadau gwledydd eraill i weld sut y mae cyfansoddiadau'n ceisio atal y camddefnydd o rym, a byddwn yn ystyried a oes sicrwydd tebyg yng nghyfundrefn Prydain.

Mae'n sicr y bydd myfyrwyr yn gwybod am y ddadl barhaol ynghylch rhai sefydliadau yn y cyfansoddiad. Sut y dylid diwygio Ty'r Arglwyddi? Pa rhan y dylai'r Frenhiniaeth ei chwarae yn y gyfundrefn gyfansoddiadol? Faint o rym y dylid ei drosglwyddo o San Steffan i'r deddfwrfeydd newydd a ddatganolwyd? Trwy gydol y cwrs byddwn yn ystyried yr agweddau hynny ar y Cyfansoddiad, a fu'n destun y galwadau am newid, a byddwn yn ystyried cynigion diwygio a gyflwynwyd gan amryw gyrff.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw: cyflwyno egwyddorion y gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn benodol, i fyfyrwyr hyd at lefel sy'r bodloni gofynion eithrio proffesiynol;
annog meddwl a dadansoddi annibynnol a beirniadol;
hybu sgiliau gwaith grwp; a datblygu sgiliau darllen ac ymchwil annibynnol.

Cynnwys

Dysgir trwy gyfrwng darlithoedd (30) a seminarau/gweithdai (6). Bydd y darlithoedd yn rhoi cyflwyniad i bob testun a bydd tafleni cwrs yn nodi deunydd darllen pellach. Mae seminarau'n grwpiau llai sydd wedi eu cynllunio i drafod materion penodol yn fanylach. Bydd gweithdai hefyd yn canolbwyntio ar destunau arbenigol ac yn anelu i hyrwyddo gwaith grwp ymhlith myfyrwyr. Yn ogystal a'r elfennau hyn dylai myfyrwyr ddisgwyl treulio cyfran sylweddol o'u hamser yn y llyfrgell yn paratoi ar gyfer seminarau ac yn mynd ar drywydd y deunydd darllen a nodir ar y taflenni.

1. Cyflwyniad cyffredinol i'r Gyfraith Gyfansoddiadol
2. Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain
3. Athrawiaeth Sofraniaeth y Senedd
4. Rheolaeth y Gyfraith
5. Gwahaniad pwerau
6. Strwythur tiriogaethol y Derynas Unedig a datganoli
7. Sefydliadau a phrosesau deddfu
8. Grym weithrediaethol as atebolrwydd
9. Gwarchod hawliau sylfaenol yn y Derynas Unedig [ymdrinnir a'r pwnc yn bennaf mewn seminau yn hytrach na'r darlithoedd]


RHESTR DDARLLEN
Llyfrau
Peidiwch a phrynu llyfrau cyn dechrau'r modiwl.



Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Loveland, Ian (2009) Constitutional Law, Administrative Law, and Human Rights 5th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Turpin & Tomkins (2007) British Government and the Constitution:Text and Materials 6th ed. Cambridge University Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4