Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
HC11520
Module Title
Cymru a'r Byd: Cysylltiadau a Dylanwadau 1860 - 2000
Academic Year
2013/2014
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Mutually Exclusive
WH11520
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 18 darlith 50 munud Dosbarthiadau tiwtorial unigol 10-15 munud
Seminars / Tutorials 5 seminar 50 munud
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment semester assessment  1 traethawd 2,500 o eiriau  30%
Semester Exam 2 Hours   semester examination  1 arholiad 2 awr  70%
Supplementary Assessment supplementary examination  30%
Supplementary Exam supplementary examination  70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth o brif ddigwyddiadau hanes Cymru mewn cyd-destun
rhyngwladol yn y cyfnod rhwng 1860 a'r mileniwm newydd, ynghyd â deall prif syniadau a mudiadau'r
oes a'u heffaith ar gymdeithas Cymru.

Myfyrio ar a dadansoddi’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.

Gweithio’n annibynnol ac mewn tîm.

Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes

Aims

Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themâu pwysig yn hanes modern Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at droad y mileniwm. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach yn Hanes Cymru yn rhan 2.

Content


Darlithoedd
1. Cymru – 1860
2. Y Cymry yn yr Unol Daleithiau
3. Ymerodraeth: Pobl a Chyfranogi
4. Y Wladfa: Y Cymry ym Mhatagonia,
5. Cenhadon: Crefydd, Cymru a’r Byd
6. Mewnfudiad i Gymru 1860-1945
7. Yughesovka – Cornel o Gymru yn y Wcrain
8. Argyfwng yr Ymerodraethau 1914-1918
9. Llafur mewn Cyd-destun Rhyngwladol
10. Sefydlu Plaid Cymru; Dylanwadau Ewropeaidd
11. Rhyngwladoldeb, Ffasgiaeth a Chomiwnyddiaeth
12. Y Cymry a’r Ail Ryfel Byd
13. Cymdeithas yr Iaith: Dylanwadau Rhwngwladol
14. Diwylliant Poblogaidd: Cerdd a Chwaraeon
15. Celtigiaeth, neo-Rhamantiaeth a Thwristiaeth yng Nghymru
16. Ymfudo i Gymru yn y Byd Ôl-drefedigaethol
17. Ble mae Cymru? Ewrop a Datganoli ar Ddechrau’r Mileniwm
18. Casgliadau

Seminarau
1. Cysylltiadau Cymru a’r Byd yn Oes yr Ymerodraethau
2. Ymfudo a Mewnfudo: Cymru a’r Byd Ddiwydiannol
3. Cymru yn Oes yr Ideolgau
4. Milwyr a Charcharorion Rhyfel: Cymru a’r Rhyfeloedd
5. Lle Cymru yn y Byd Ôl-drefedigaethol

Brief description

Bydd y cwrs yma yn cyflwyno hanes modern Cymru trwy drafod lle Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol. Trwy astudio themâu hanesyddol allweddol bydd yn archwilio i ba raddau mae Cymru yn gysylltiedig â’r byd tu hwnt i Brydain. Yn dechrau yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau ac yn gorffen â datganoli, bydd yn amlinellu effaith Cymru a’r Cymry ar draws y byd, ac i’r gwrthwyneb. Nod allweddol y modiwl yw deall y nodweddion sydd yn debyg ac yn annhebyg yn y profiad Cymreig a phrofiad cenhedloedd eraill yn y cyfnod modern, yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth o brif ddigwyddiadau a syniadau'r amser gan ddeall eu heffaith a dylanwad ar hanes Cymru.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number n/a
Communication Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Improving own Learning and Performance Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Information Technology Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.
Personal Development and Career planning Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Problem solving Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Research skills Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Subject Specific Skills Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud â'r cyfnod dan sylw yn hanes Cymru.
Team work Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deal sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 4