Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC31120
Teitl y Modiwl
Y Theatr Gyfoes
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlith/Seminar 1 x 2 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2500 o eiriau) - (i deitl newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (3000 o eiriau) - (i deitl newydd)  50%
Asesiad Semester Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Traethawd (3000 o eiriau a theitl hunanddewisiedig)  50%

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, fe'ch cyflwynir i nifer o ddramau cyfoes, ac i agweddau ar weithgarwch y theatr gyfoes yng Nghymru, Prydain, Iwerddon ac Ewrop. Fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr astudio cyfres o ddramau cyfoes o wahanol fathau, a'u trafod mewn perthynas a'u cyd-destun cymdeithasol priodol: rhydd gyfle hefyd i'r myfyrwyr ddatblygu agwedd feirniadol tuag at waith cyfoes, ac i ystyried sut y mae'r gwaith cyfoes hwn yn cymharu a dulliau theatraidd gwahanol o gyfnodau eraill neu o gyd-destunau cymdeithasol mwy arbenigol. Fe fydd y modiwl hefyd yn caniatau i fyfyrwyr fynychu cynyrchiadau theatraidd a gweithdai ymarferol gan gwmniau neilltuol, gan holi'r gwneuthurwyr ynglyn a chefndir, cyd-destun ac ymarfer y gwaith o dan sylw

Cynnwys

Sarah Kane, 4.48 Psychosis
Patrick Jones, Everything Must Go
Aled Jones Williams, Iesu!
Ed Thomas, Stone City Blue
Jonathan Liechtenstein, The Pull of Negative Gravity
Wiliam Owen Roberts, Cymru Fach
Alan Harris, Orange
Mark O'Rowe, Howie the Rookie
Kaite O'Reilly, The Almond and the Seahorse
Garry Owen, Amgen: Broken
Martin Crimp/ Owen Martell, Ceisio'i Bywyd Hi

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i¿r myfyrwyr ymgymryd ag ysgrifennu traethawd, ac wrth i sgiliau ysgrifennu traethawd effeithiol ar y pwnc gosodedig gael eu trafod yn y seminarau. Fe fydd y seminarau hwythau¿n rhoi cyfle i¿r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu deallusol llafar er na fydd y sgiliau hynny¿n cael eu asesu¿n uniongyrchol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd lawer o'r sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol.
Datrys Problemau Datblygir y medrau hyn (yn ysgrifenedig ac ar lafar) wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau a diffiniadadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig â'r testunau a gyflwynir ar y modiwl.
Gwaith Tim Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y seminarau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau i drafod y testunau gosod a¿r pynciau sy¿n codi yn eu sgîl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y myfyrywr yn gorfod ymateb i¿w aseiniad cyntaf wrth baratoi ar gyfer yr ail draethawd hunanddewsiedig. At hynny, fe ddatblygir sgiliau gwaith a defnydd y myfyrwyr o amser wrth baratoi ar gyfer eu cyfraniad i seminarau a darlithoedd. Nid asesir y broses o ddatblygu¿r sgiliau hyn yn ffurfiol.
Sgiliau ymchwil Datblygir y medrau hyn wrth i'r darlithoedd, seminarau a'r asesiadau hybu a hyrwyddo myfyrdod a sylwadaeth ar gysyniadau allweddol a datblygiadau arwyddocaol mewn damcaniaeth ac ymarfer theatraidd. Fe gânt eu asesu fel rhan o¿r aseiniadau ysgrifenedig.
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio prosesydd geiriau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6