Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC31700
Teitl y Modiwl
Ysgrifennu Drama
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Gweithdai 1 x 3 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Sgript dramataidd gorffenedig ar gyfer y llwyfan  Tua 60 munud o gynhyrchiad  60%
Asesiad Semester Portffolio o ddrafftiau a deunydd creadigol  40%
Asesiad Ailsefyll Sgript dramataidd gorffenedig  Os methir y modiwl oherwydd methiant mewn unrhyw elfen ysgrifenedig, rhaid ailgyflwynor gwaith a fethwyd  60%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o ddrafftiau a deunydd creadigol  Os methir y modiwl oherwydd methiant mewn unrhyw elfen ysgrifenedig, rhaid ailgyflwynor gwaith a fethwyd  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth fanwl o wahanol gonfensiynau a thechnegau ysgrifennu ar gyfer llwyfan theatr, ynghyd a'r gallu i strwythuro deunydd yn effeithiol;

Arddangos dealltwriaeth fanwl o'r technegau llwyfannu a fydd fwyaf manteisiol wrth lwyfannu'r darnau dramataidd a ysgrifennir ganddynt;

Arddangos annibyniaeth greadigol a deallusol wrth gymhwyso'r elfennau a'r egwyddorion a ddysgwyd iddynt yn y seminaru/gweithdai

Disgrifiad cryno

Dysgir y modiwl hwn trwy gyfres seminarau/gweithdai a sesiynau titwotial unigol a fydd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddadansoddi sawl agwedd ar dechneg a chrefft ysgrifennu drama ar gyfer llwyfan, i gyflawni ymarferion ysgrifennu a drafftiau ysgrifenedig. Nod sylfaenol y modiwl fydd cynnig cyfle i'r myfyrwyr i ddatblygu technegau arbenigol a gloywi eu crefft fel y gallant weithio'n annibynnol i gwblhau sgript dramataidd llawn.

Cynnwys

Fe fydd cynnwys y modiwl hwn yn datblygu'r gwaith dysgu a gyflwynwyd yn y modiwl Sgiliau Sgriptio Lefel 2, trwy drafod y pynciau canlynol:

Natur ac oblygiadau gwahanol ffurfiau dramataidd (megis monolog, deialog ac ati); Natur ac oblygiadau gwahanol ffyrdd o gychwyn sefyllfaeodd dramataidd;
'Cloddio delwedd', sef dadansoddiad o'r modd y gall gwahanol ddelweddau roi dyfnder ac ychwanegu at weledigaeth golygfa ddramataidd;
Dulliau o ymchwilio wrth ysgrifennu'n greadigol;
Y corff fel ldelwedd a throsiad;
Beth yw 'tempo' mewn drama? Pam fod tempo'n bwysig; sut mae cynhyrchu tempo o fath arbennig a sut y medrir ei reoli;
Gofod: gofod yn y testun, gofod ym myd y ddrama ac yn y gofod perfformio; ynghyd a gofod damcaniaethol/dychmygol ym meddwl y gynulleidfa.

Fe fydd y sesiynau tiwtorial yn canolbwyntio ar ddatblygu sgript y myfyriwr yn unigol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd pwyslais arbennig ar sgiliau cyfathrebu yn y modiwl: disgwylir i'r myfyrwyr ystyried a datblygu gwahanol ddulliau o gyfathrebu gweledigaeth ddramataidd wrth lunio darnau ysgrifenedig, ac fe fydd y seminarau/gweithdai ymarferol a'r sesiynau twitorial yn gosod pwyslais arbennig iawn ar y gallu i gyfathrebu wrth drafod problemau a gosod nodau ymarferol i'w cyflawni.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y profiad o weithio'n ddwys ar ddarn o waith creadigol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o sgiliau a fyddai'n angenrheidiol petaent yn dilyn gyrfa broffesiynol fel awdur sgriptiau.
Datrys Problemau Un o brif dasgau ymarferol y modiwl fydd datblygu sgiliau ymarferol i ddatrys y problemau creadigol sy'n codi wrth geisio llunio sgript dramataidd gorffenedig, ac wrth geisio dychmygu pa fath o amodau perfformio a chynhyrchu a fydd fwyaf cymwys ar gyfer llwyfanu'r deunydd.
Gwaith Tim Ni ddatblygir sgiliau gwaith tim yn ystod y modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe roddir cyfle pwysig i'r myfyrwyr ddatblygu eu dysgu a gwella eu perfformiad unigol yn ystod y modiwl trwy gyflwyno aseniad paratoadol cyn mynd ati i greu darn o waith gorffenedig terfynol. Fe fydd y broses o drafod y deunyddiau paratoadol ynghyd a'r adborth a dderbynnir ar ol cyflwyno'r aseiniad cyntaf yn allweddol bwysig wrth gynnig persbectif ar y brif dasg ymarferol. Fe fydd y trafodaethau seminar hefyd yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o adborth a roddir i waith aelodau eraill y dosbarth.
Rhifedd Ni ddatblygir sgiliau gwybodaeth rhifyddol yn ystod y modiwl
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyriwr ystyried sut i gafael gwybodaeth gefndirol angenrheidiol ar gyfer creu a diffinio cymeriadau a/neu sefyllfa ddramataidd neilltuol. er nad asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, fe fydd ansawdd y gwaith ymchwil yn cyfrannu'n bwysig at lwyddiant yr aseiniad terfynol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno'u sgriptiau wedi'u prosesu'n eiriol; ac fe fydd y gwaith ymchwil a gyflawnir wrth baratoi'r aseiniadau ymarferol yn gofyn gallu i weithio'n effeithiol ar-lein; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6