Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GWM5320
Teitl y Modiwl
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 20 Awr (10 x 2 awr)
 
Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 5,000 gair  100%
Asesiad Semester 1 x Cofnod Dysgu 1,500 gair  25%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 4,000 gair  75%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Deall a dadansoddi'n feirniadol prif syniadau athronwyr blaenaf Cymru'r 20fed ganrif.
2. Gwerthuso sut y mae meddylwyr Cymreig wedi addasu a dehongli egwyddorion ysgolion athronyddol blaenllaw'r 20fed ganrif.
3. Deall a dadansoddi'n feirniadol prif syniadau detholiad o athronwyr blaenaf Ewrop yr 20fed ganrif.
4. Cynnig dealltwriaeth gyffredinol o ddatblygiad athroniaeth a damcaniaeth gorllewinol yn ystod yr 20fed ganrif.
5. Gwerthuso a llunio dadleuon athronyddol ar lafar.
6. Cyflwyno dadansoddiad a dehongliad grymus a chyson o syniadau athronyddol yn ysgrifenedig.

Nod

Wythnos 1 Darlith Fer Arlein: Cyflwyniad i'r Modiwl
Darlith Fer Arlein: Cyflwyn i'r Prif Themau
Seminar 1: Athroniaeth, Hanes a Hegel
Wythnos 2 Seminar 2: Radicaliaeth Syr Henry Jones
Wythnos 3 Darlith Fer Arlein: Hegel a Delfryidaeth Brydeinig
Seminar 3: Delfrydwyr Prydeinig
Wythnos 4 Seminar 4: Dewi Z. Phillips
Wythnos 5 Darlith Fer Arlein: Athroniaeth Wittgensteinaidd
Seminar 5: Wittgenstein ac Ysgol Abertawe
Wythnos 6 Seminar 6: J.R. Jones
Wythnos 7 Seminar 7: Simone Weil a'r Angen am Wreiddiau
Wythnos 8 Darlith Fer Arlein: Dirfodaeth
Seminar 8: Tillich ar Ddirfodaeth a Chrefydd
Wythnos 9 Darlith Fer Arlein: Yr Ôl-fodern a’r Ôl-trefedigaethol
Seminar 9: Ôl-foderniaeth, Ôl-trefedigaethedd, a'r Gymru Gyfoes
Wythnos 10 Seminar 10: Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder heddiw

Cynnwys

Disgrifiad cryno

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac i fynegi eu hunain er budd personol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth berthnasol a dadlau clir, a sut i elwa o hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio llu o ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael, a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu yn y modd mwyaf manteisiol. Byddant yn dysgu bod yn eglur ac yn uniongyrchol ynghylch eu nodau a'u hamcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Trwy ddatblygu eu sgiliau dadansoddi a'u gallu i werthuso a ffurfio dadleuon athronyddol, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy hanfodol. Bydd trafodaethau yn arbennig o gymorth wrth ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio paramedrau'r prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau hyd at eu terfyn yn cyfrannu tuag at eu portffolio o fedrau. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr cyfrannu at blog ar-lein a fydd yn gyfle i wella eu CV.
Datrys Problemau Bydd prosiect annibynnol a datrys problemau fod yn amcanion canolog y modiwl; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd paratoi testunau allweddol ar gyfer seminarau a darparu dadansoddiad ysgrifenedig byr yn y cofnod dysgu wythnosol yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu cyneddfau beirniadol ac yn darparu sail ar gyfer datrys problemau yn yr ystafell seminar. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac ystyried atebion posibl i'r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y seminarau yn rhannol yn cynnwys trafodaeth mewn grwpiau bach, lle bydd yn rhaid i fyfyrwyr drafod y materion craidd sy'n gysylltiedig â'r pynciau seminar fel grwp. Mae dadleuon a thrafodaethau felly yn yr ystafell dosbarth yn elfen hanfodol o'r modiwl, a dylai annog myfyrwyr i ystyried astudiaeth academaidd yn ymdrech gydweithredol yn ogystal ag ymdrech unigol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn anelu at hybu hunanreoli, ond o fewn cyd-destun o gymorth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy wneud ymchwil eu hunain a dangos menter, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) gyfeiriad eu pynciau traethawd a chyflwyniad. Bydd yr angen i gynnal cyflwyniad seminar ac i gwrdd â dyddiad cau traethawd yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser ac adnoddau yn llwyddiannus. Bydd y myfyrwyr yn osgystal yn elwa o adborth wythnosol ar eu log dysgu, gan gymryd rhan mewn dysgu myfyriol, gyda'r cyfle i wella ar agweddau allweddol o'u gwaith ysgrifenedig.
Rhifedd N/B
Sgiliau pwnc penodol Wrth i'r myfyrwyr darllen a thrafod testunau athronyddol fe fydd yna gyfle i ymarfer a datblygu'r arfer o feddwl mewn modd haniaethol. Fe fydd pwyslais ar geisio defnyddio'r cyfle i drafod a myfyrio ar y pynciau ar lafar ac ysgrifenedig i ddatblygu syniadau damcaniaethol gwreiddiol a chreadigol.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i gyrchu adnoddau ymchwil priodol, canfod y deunydd perthnasol, ymdopi ag ystod eang o ddarllen, a dadansoddi ac ymateb i ddadleuon damcaniaethol hefyd yn hyrwyddo sgiliau ymchwil. Bydd paratoi ymchwil ar gyfer cyflwyniadau seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gyda darllen beirniadol sy'n anelu at ddethol pwyntiau allweddol.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr i ddefnyddio'r cyfleusterau ar blackboard tra bydd ysgrifennu traethodau ac ymchwil ar-lein yn hwyluso gwella sgiliau TG generig. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar ffurf prosesydd geiriau a byddant yn cael eu hannog i chwilota drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7