Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC10820
Teitl y Modiwl
Prosiect Cynhyrchu (Theatr)
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 2 sesiwn x 3 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect Ymarferol mewn Grŵp  50%
Asesiad Semester Portffolio o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, a fydd hefyd yn cynnwys adfyfyriad ar y deunyddiadau hynny (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll Yn lle cyflwyno prosiect mewn grwp fe fydd angen cyflwyno gwaith ysgrifenedig hyd at 2500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Os methir y portfolio yna gellir ail-gyflwyno’r gwaith wedi ei ddatblygu  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. arddangos cyfres o sgiliau dyfeisio prosiect ymarferol, gan ddefnyddio technegau ymchwil perthnasol

2. cydweithio gyda myfyrwyr eraill tuag at nod a bennir ganddynt hwy eu hunain, dan gyfarwyddyd aelodau staff perthnasol

3. arddangos gallu sylfaenol i adfyfyrio ar y broses greadigol o ddyfeisio, trefnu, golygu a chyflwyno deunydd trwy gyfrwng portffolio o ddeunyddiau a gasglwyd ac a ystyriwyd ganddynt wrth baratoi’r prosiect yn y broses gynhyrchu

4. arddangos gallu sylfaenol i gymhwyso’r deunydd dogfennol crai yn y portffolio, a’i osod mewn cyd-destun theoretaidd a/neu hanesyddol priodol.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i gydweithio'n greadigol wrth ddatblygu a chyflwyno prosiect ymarferol.

Disgwylir i'r myfyrwyr weithio mewn grŵp, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy'n codi o ganlyniad i gydweithio fel tîm. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau a pherfformio byw, ac yn profi eu gallu i addasu eu gweleidgaeth yn ôl yr amgylchiadau a'r adnoddau penodol a fydd ar gael iddynt.

Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y grŵp yn y prosiect terfynol, a (ii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.

Nod

Bwriad y modiwl hwn fydd rhoi cyfle i'r myfyrwyr arddel a chymhwyso'r sgiliau a'r profiadau ymarferol a theoretig a gyflwynwyd iddynt ac a ddatblygwyd ganddynt yn ystod y modiwlau Semester 1. Fe fydd yn gofyn i'r myfyrwyr ddysgu cydweithio'n greadigol ar brosiect a fydd yn dyst i'w gallu i symbylu, strwythuro a saernïo gweledigaeth gelfyddydol dan gyfarwyddyd aelod o staff.

Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i'r myfyrwyr i geisio dygymod â'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfrwng cyfuniad o lwyfannu byw a dyfeisiadau eraill megis gwaith fideo ayyb. Fe fydd yn baratoad pwysig ar gyfer gwaith creadigol pellach yn ystod Rhan 2 o'u cwrs gradd.

Cynnwys

Seilir cynnwys y modiwl ar gyfle neilltuol i weithio fel grŵp tuag at gynyrch terfynol a fydd yn waith theatraidd sydd o bosib wedi ei gyd-ddyfeisio gyda’r grwp prosiect cynyrchu Cyfryngau ond nid o reidrwydd. Gan bod y modiwl yn cynnig cyfle posib i gyda-weithio ar brosiect aml-gyfrwng fe fydd y deunydd yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol (perfformiad byw cyhoeddus, dangosiad fideo cyhoeddus, ei bostio ar youtube.com, sesh.tv a.y.b.). At hynny fydd y sesiynnau ymarferol a'r gwaith tuag at yr adfyfyriad ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriadau a thrafodaethau ar waith ymarferwyr allweddol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd datblygu sgiliau cyfathrebu yn hanfodol bwysig ar gyer llwyddiant y prosiect ymarferol, o ran (i) cyfathrebu’n llwyddiannus â chynulleidfa trwy ddulliau creadigol, a (ii) cyfathrebu â chyd-aelodau’r grŵp ymarferol wrth ddyfeisio, dosrannu a threfnu’r gwaith. Fe asesir ansawdd y cyfathrebu wrth werthuso pob aseiniad ar gyfer y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gan fod y modiwl hwn yn un Lefel 1, ni fydd yn cynnig unrhyw gyfarwyddyd ffurfiol tuag at gynllunio gyrfa. Fodd bynnag fel pob math waith creadigol ym maes Theatr, ffilm a theledu, fe fydd yn cynnig profiadau a her neilltuol i fyfyrwyr a all fod o ddefnydd mawr iddynt wrth ystyried cyfeiriad eu gwaith a’u diddordebau yn y dyfodol.
Datrys Problemau Fe fydd y Prosiect Ymarferol yn gofyn i’r myfyrwyr gydweithio’n agos â’i gilydd tuag at nod a fydd yn cael ei benderfynu ganddyn nhw eu hunain (mewn cydweithrediad ag aelod o staff). Fe fydd hyn gofyn iddynt ddatblygu medrau datrys problemau creadigol, trefniadol, a thechnegol er mwyn cyrraedd y nod. Fe fydd y sgiliau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith ymarferol gorffenedig.
Gwaith Tim Fe fydd datblygu’r gallu i weithio fel tîm yn gwbl allweddol i’r modiwl hwn, Fe asesir y medrau hyn yn uniongyrchol wrth ddyfarnu marc grŵp i’r Prosiect Ymarferol, ac yn anuniongyrchol wrth ystyried trafodaeth y myfyrwyr o’r broses greadigol yn y Portffolio a’r Arholiad Llafar.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y profiadau ymarferol amryfal y bydd aelodau’r grŵp wedi’u cael yn ystod Semester 1 o’u blwyddyn gyntaf: felly fe fydd yna elfen bwysig o wella a dtablygu eu perfformiad eu hunain yn ystod y modiwl hwn. Fe fydd y modiwl yn gofyn iddynt ddatblygu eu gallu hefyd i adfyfyrio’n ddwysach ar y broses ymarferol nag a wnaed yn y modiwlau 20 vcredyd blaenorol. Fodd bynnag, nid asesir y myfyrwyr ar sail datblygiad o un asesiad i’r llall yn y modiwl hwn,gan fod pob aseiniad yn canoli ar yr un broses ymarferol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd y portffolio a gyflwynir fel rhan o’r modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr ddangos y math o waith ymchwil a gyflawnwyd ganddynt wrth ddyfeisio a datblygu eu prosiect. Fe roddir cyfarwyddyd iddynt yn ystod y sesiynau darlith/seminar a’r tiwtorialau ynglŷn â ffynonellau a dulliau ymchwil priodol.
Technoleg Gwybodaeth Nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er y gall y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn elfen bwysig wrth gyflawni gwaith ymchwil i’r prosiect.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Alfreds, Mike (2008) Different Every Night Nick Hern Books Chwilio Primo Barba, Eugenio (1991) A Dictionary of Theatre Anthropology - The Secret Art of the Performer Routledge/CPR Chwilio Primo Barker, Clive (1989) Theatre Games Methuen Chwilio Primo Bartow, Arthur (ed) (2008) Handbook of Acting Techniques Nick Hern Books Chwilio Primo Boal, Augusto (1992) Games for Actors and Non-Actors Routledge Chwilio Primo Chapple, F and Kettenbelt, C (eds) (2007) Intermediality in Theatre and Performance Rodopi Chwilio Primo Counsell, C. (1996) Signs of Performance: An Introduction to Twentieth-century Theatre Routledge Chwilio Primo Crittenden, Roger (2005) Fine Cuts: The Art of European Film Editing Focal Press Chwilio Primo Elwes, Catherine (2006) Video art: A Guided Tour Chwilio Primo Etchells, T. (1999) Certain Fragments: Contemporary Performance and Forced Entertainment Routledge Chwilio Primo Foster, Gwendolyn Audrey and Wheeler, Winston-Dixon (2002) Experimental Cinema: The Film Reader Routledge Chwilio Primo Garner, S. (1994) Bodied Spaces: Phenomenology and Performance in Contemporary Drama Cornell UP Chwilio Primo Grau, Oliver (2008) MediaArtHistories MIT Press Chwilio Primo Jenkins, H (2006) Convergence Culture New York Chwilio Primo Jones, A. and Stephenson, A. (eds) (1999) Performing the Body / Performing the Text Routledge Chwilio Primo Kaye, N (2000) Site Specifics: Performance, Place and Documentation Routledge Chwilio Primo Lee, John J. Jr. (2005) The Producer's Business Handbook Focal Press Chwilio Primo Musburger, Robert B. (2005) Single-Camera Video Production Focal Press Chwilio Primo Pearson, M. and Shanks, M (2001) Theatre/Archaeology Routledge Chwilio Primo Proferes, Nicholas (2004) Film Directing Fundamentals Focal Press Chwilio Primo Schechner, R. (1973) Environmental Theatre New York: Hawthorn Chwilio Primo Schechner, Richard (2002) Performance Studies: An Introduction Routledge Chwilio Primo Watts, Harris (1992) Directing on Camera: A checklist of video and film technique Aavo Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4