Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TCM1120
Module Title
Damcaniaethau'r Cyfryngau Creadigol
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture Darlithoedd rhyngweithiol 10 x 2 awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment 1. Cyflwyniad ffurfiol ar lafar (Syniadaeth theoretig)  Gall y cyflwyniad gynnwys defnydd o waith ymarferol, perfformio, cynhyrchu byw, fideo, data, sain ayb. Dylair cyflwyniad fod tua 10-15 munud o hyd, gyda hyd at 100 munud o drafodaeth a chwestiynau ir myfyriwr. Amserlenir y cyflwyniad ar ol cyfnod o 10 wythnos pan fydd myfyrwyr wedi cael gafael ar bump o gysyniadau allweddol trwy gyfrwng y sesiynau dasu ffurfiol.  25%
Semester Assessment 2. Traethawd 3,500 o eiriau.  Amserlennir y traethawd ar ddiwedd y cyfnod dysgu cyflawn tuag at ddiwedd y flwyddyn academaidd.  75%
Supplementary Assessment . Os methir y cyflwyniad ffurfiol ar lafar, yna rhaid ailgyflwyno gerbron dosbarth neu o flaen isafswm o ddau arholwr/wraig yn ol gofynion ac amodau'r amserlen.  25%
Supplementary Assessment 2. Os methir y traethawd, yna rhaid ailgyflwyno traethawd 3,500 o eiriau.  75%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Arddangos dealltwriaeth ddofn ac ymwybyddiaeth feirniadol o ddamcaniaethau allweddol y cyfryngau creadigol ar lefel uwchraddedig

2. Arddangos y gallu i werthuso a chymhwyso rhai o'r damcaniaethau a astudiwyd i gyd-destun theoretig Cydgyfeiriant a'r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru gyfoes.

3 Arddangos y gallu i drafod y cyfryw ddamcaniaethau yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig

Aims

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ystod o ddamcaniaethau allweddol sydd yn sylfaen athronyddol i nifer o agweddau ar astudio'r cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio ystod o ddamcaniaethau allweddol ym maes y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o alluogi'r myfyrwyr i ddeall a herio cyd-destun creadigrwydd y diwydiannau hyn. Disgwylir i fyfyrwyr gymharu a chyfosod y theoriau hyn ynghyd a cheisio eu cymhwyso i gyd-destun y diwydiannau creadigol yng Nghymru gyfoes. Fe rydd y modiwl gyfle i fyfyrwyr drafod ac ymholi i werth a chyrhaeddiad y syniadau hyn ac i'w gosod mewn cyd-destun a fydd yn berthnasol i'w cynllun astudio neilltuol hwy.

Content

Fe fydd y darlithoedd yn ystyried y pynciau canlynol:
1. Cydgyfeiriant ac Ymarfer Cymysgryw
2. Cenedlaetholdeb
3. Y filltir sgwar a globaleiddio
4. Rhyng- a thraws-genedlaetholdeb
5. Ol drefedigaethu ac ol-drefedigaethedd
6. Rhywedd a'r Diwylliannau Creadigol
7.Rhamantiaeth, Moderniaeth ac Ol Foderniaeth
8. Traddodiad Mawl a Long Duree
9. Beirniadaeth Seicolegol
10. Chwyldro a Chymundod

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Nid oes disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau defnyddio gwybodaeth rifyddol yn y modiwl hwn.
Communication Mae'r modiwl yn gosod pwyslais sylweddol ar allu cyfathrebu: fe fydd y traethawd ysgrifenedig yn profi gallu'r myfyriwr i lunio a chyflwyno dadl a dadansoddiad cynhwysfawr ar bapur; ac fe fydd y cyflwyniad llafar ffurfiol yn gofyn iddo/iddi baratoi a chyflwyno dadl yn ogystal ag ateb cwestiynau a sylwadau wedi hynny.
Improving own Learning and Performance Fe fydd y myfyriwr yn derbyn ymateb ac adborth gan y dosbarth ar yr aseiniad cyntaf (cyflwyniad llafar) ac fe rydd hyn gyfle i fyfyrwyr archwilio eu profiad dysgu a pherfformio eu hunain.
Information Technology Bydd cyfle i ddefnyddio elfennau ychwanegol o dechnoleg gwybodaeth o fewn yr aseiniad cyntaf, ond nid asesir hyn.
Personal Development and Career planning Ni fydd sesiynau ffurfiol ar gynllunio gyrfa a datblygiad personol o fewn y modiwl penodol hwn.
Problem solving Fel unrhyw fodiwl sy'n trafod theori a chysyniadau, fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr fynd i'r afael â syniadau a'u cymhwyso ar gyfer eu hanghenion a'u daliadau neilltuol eu hunain. Fe fydd y modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ystyried sut y gellir trosglwyddo syniadau am ddiwylliant i gyd-destun ymarferol trwy baratoi a chynhyrchu cyflwyniad llafar ffurfiol.
Research skills Fe fydd y naill asesiad a'r llall ar gyfer y modiwl hwn yn gofyn i'r myfyriwr gyflawni ymchwil llyfrgell ac archif.
Subject Specific Skills Lle bo'n briodol gall myfyriwr ddefnyddio technegau ymchwil a chyflwyno mewn perthynas ag ymarfer nad ydynt yn gyffredin mewn pynciau cyffelyb.
Team work Ni ddatblygir gwaith tîm yn ffurfiol o fewn y modiwl hwn y tu hwnt i'r hyn sydd yn arferol mewn modiwlau sydd yn cynnwys seminarau. Yn yr aseiniad cyntaf, disgwylir i fyfyrwyr gyd-drafod eu gwaith ynghyd â chynnig adborth a gwneud sylwadau ar waith ei gilydd.

Reading List

Recommended Text
Anderson, Benedict (1983) Imagined Communities Llundain: Verso Primo search Barthes, Roland (1970) Mythologies Paris: Seuil Primo search Bauman, Zygmunt (2004) Identity Caergrawnt: Polity Primo search Bourdieu, Judith (1999) Gender Trouble - Feminism and the Subversion of Identity Llundain: Routledge Primo search Castells, Manuel (2009) Communication Power Rhydychen: Blackwell Primo search During, Simon (gol.) (1993) The Cultural Studies Reader Apadurai, Arjun 'Disjuncture and Difference in the Global Cultural Economy' Llundain: Routledge Primo search During, Simon (gol.) (1993) The Cultural Studies Reader Bhabha, Homi K. 'The Postcolonial and the postmodern: the Question of Agency' Llundain: Routledge Primo search Fairclough, Norman (2006) Language and Globalization Llundain: Routledge Primo search Gellner, E. (1983) Nations and Nationalism Rhydychen: Blackwell Primo search Habermas, Jurgen (1989) The Structural Transformation of the Public Sphere Caergrawnt: Polity Primo search Jenkins, Henry (2008) Convergence Culture New York University Press Primo search Jones, J.R. (1966) Prydeindod Llandyb&#239e llyfrau'r Dryw Primo search Jones, R Gerallt (1989) Seicoleg Cardota Barddas Primo search Nelson, Carey a Grossberg, Lawrence (goln.) (1998) Marxism and the Interpretation of Culture Spivak, Gayatri Chakravorty 'can the Subaltern Speak?' Llundain: Macmillan Primo search Thiongo, Ngugi wa (1986) Decolonising the Mind: the politics of language in African literature Llundain: Currey Primo search Cormack, M. (2005) International Journal of Media and Cultural Politics the Cultural Politics of Minority Language Media Primo search

Notes

This module is at CQFW Level 7