Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC35620
Module Title
Cynhyrchu Amlblatfform
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminars / Tutorials 10 x 2 awr Seminar
Practical 10 x 2 awr Gweithdy
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Prosiect Cynhyrchu Amlblatfform  70%
Semester Assessment Asesiad Ysgrifenedig (2000 o eiriau)  30%
Supplementary Assessment Prosiect Cynhyrchu Amlblatfform  70%
Supplementary Assessment Asesiad Ysgrifenedig (2000 o eiriau)  30%

Brief description

Mae datblygiad cyflym technolegau sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd yn ehangu (ac yn aml yn drysu) y posibiliadau ar gyfer cynhyrchu a defnydd cyfryngol. Mae cyrff cyfryngau traddodiadol a newydd, bach a mawr, yn defnyddio'r technolegau newydd hyn ar draws platfformau cyfryngol niferus i ddosbarthu cynnwys, cynyddu rhyngweithio a newid profiad y gwyliwr.

Bydd y modiwl hwn sy'n seiliedig ar ymarfer yn cynnig cyfle i chi arbrofi gyda thechnegau cynhyrchu a darlledu rhyngrwyd niferus. Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol a pherthnasol ym maes creu a dosbarthu cynnwys amlblatfform, gan gysylltu a rhyngweithio â chynulleidfaoedd gwirioneddol mewn amrywiaeth o fforymau.

Content

Mae yna ddwy sesiwn ddwy awr bob wythnos - bydd un sesiwn yn canolbwyntio ar ddadansoddi a thrafod astudiaethau achos amlblatfform, gyda'r ail sesiwn yn cynnwys gweithdai ymarferol a gwaith grŵp beirniadol. Bydd fformat y sesiynau'n amrywio gan ddibynnu ar y maes penodol dan sylw.

Cyflwyniad i Gynhyrchu Amlblatfform
  • Nodweddion Cynhyrchu Allweddol
Estheteg y Sgrîn Fach
  • Technolegau Camera Amgen
  • Saethu ar gyfer y we
  • Golygu ar gyfer y we
Teledu’r Rhyngrwyd
  • Darlledu'n fyw - stiwdio ac ar leoliad
  • Frydio - yn fyw ac ar-alw
Cyfryngau Cymdeithasol a Rhyngweithio
  • Dogfennau rhyngweithiol
  • Hyrwyddo cynnwys
  • Denu, adeiladu a chynnal cymuned
Gwefannau a Blogiau
  • Nodweddion brandio
  • Adnabod a datblygu hunaniaeth prosiect
Naratifau 'Traws-gyfryngol'
  • Naratifau amlblatfform
  • Cysylltu technolegau
  • Podlediadau, apiau a phosibiliadau eraill

Notes

This module is at CQFW Level 6