Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD13620
Teitl y Modiwl
Sgiliau Allweddol i Brifysgol
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Cyd-Ofynion
Cyd-Ofynion
Cyd-Ofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 1 x Seminar 1 Awr
Gweithdy 1 x Gweithdy 6 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesiad ar-lein  Asesiad ar-lein o sgiliau cyfeirio a llyfryddiaethol  20%
Asesiad Semester Portffolio  Portffolio sgiliau astudio - 1400 gair.  35%
Asesiad Semester Prosiect gwaith grwp  a) Taflen sgiliau allweddol - bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn timau i ddatblygu taflen 'sgiliau allweddol' ar gyfer myfyrwyr israddedig (25% o farc y prosiect). b) Bydd gwerthusiad 750 gair o arferion gwaith grwp yn dilyn (75% o farc y prosiect).   25%
Arholiad Semester 6 Awr   Cyflwyniadiau  Cyflwyniadau unigol - 5 munud gyda PowerPoint - bydd y myfyrwyr yn rhoi cyflwyniad ar ddatblygu sgiliau astudio neu ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy.  20%
Asesiad Ailsefyll Asesiad ar-lein  Rhaid ailsefyll pob elfen o'r asesiadau a fethir os bydd marc cyfartalog y myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol, sef 40%.  20%
Asesiad Ailsefyll Portffolio  Rhaid ailsefyll pob elfen o'r asesiadau a fethir os bydd marc cyfartalog y myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol, sef 40%.  35%
Asesiad Ailsefyll Prosiect gwaith grwp.  Rhaid ailsefyll pob elfen o'r asesiadau a fethir os bydd marc cyfartalog y myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol, sef 40%.  25%
Arholiad Ailsefyll 6 Awr   Cyflwyniadau unigol  Rhaid ailsefyll pob elfen o'r asesiadau a fethir os bydd marc cyfartalog y myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol, sef 40%.  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos cymhwysedd mewn sgiliau academaidd a throsglwyddadwy allweddol.

Nodi ffyrdd o wella dysgu personol.

Deall a gwerthuso'r materion allweddol sy'n ymwneud a gwaith grwp.

Deall egwyddorion allweddol cyfathrebu ac arweinyddiaeth.

Dangos y gallu i weithio'n effeithiol ag eraill.

Bod yn hunan-fyfyriol o safbwynt sgiliau astudio a sgiliau trosglwyddadwy.

Cynnwys

Darlith 1: Cyflwyniad i'r modiwl / Sgiliau cymryd nodiadau da.
Seminar 2: Cyfeirio - asesiad cyflwyniad i gyfeirio.
Darlith 2: Sut i ysgrifennu traethodau academaidd ac osgoi ymddygiad academaidd annheg.
Seminar 2: Ffynonellau dibynadwy ac annibynadwy/ chwilio am ffynonellau trwy ddefnyddio
PRIMO/ ASPIRE
Darlith 3: Deall y meini prawf marcio ar gyfer aseiniadau/ Meddwl yn Feirniadol.
Seminar 3: Sut i werthuso'n feirniadol mewn aseiniadau.
Darlith 4: Rheoli amser a llwyth gwaith yn effeithiol.
Seminar 4: Cymorth portffolio.
Darlith 5: Theoriau allweddol ar gyfer gwaith grwp.
Seminar 5: Prosiect cyflwyniad i waith grwp.
Wythnos 6: Gweithdy cyfoethogi - yn cynnwys Defnyddio adborth yn effeithiol, Sesiwn dadansoddi Disgwrs, gweithdy ysgrifennu myfyrgar, cymorth ar gyfer aseiniadau, a thaith o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol.
Darlith 7: Prosesau grwp dinistriol.
Seminar 7: Gwaith prosiect grwp.
Darlith 8: Sgiliau Arweinyddiaeth a Chyfathrebu.
Seminar 8: Gwerthuso sgiliau allweddol.
Darlith 9: Sgiliau allweddol ar gyfer Cyflogadwyedd.
Seminar 9: Sgiliau cyflwyno effeithiol a chymorth ar gyfer aseiniad 4.
Darlith 10: Sut i ysgrifennu atebion arholiad.
Seminar 10: Technegau adolygu effeithiol.
Darlith 11: Paratoi ar gyfer arholiadau.
Seminar 11: Gwerthuso hen bapurau arholiad ac arferion da wrth ateb cwestiynau arholiad.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn dechrau trwy amlinellu'r prif sgiliau astudio y bydd gofyn i'r myfyrwyr eu datblygu. Bydd y rhain yn cynnwys cyfeirio, ysgrifennu traethodau, defnyddio ffynonellau academaidd, rheoli amser, gwerthuso'n feirniadol, a thechnegau ar gyfer arholiadau. Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar sgiliau trosglwyddadwy allweddol, gan gynnwys gweithio mewn grwp, arweinyddiaeth, a chyfathrebu (a fydd yn berthnasol i DPP a chynllunio gyrfaoedd y myfyrwyr).

Nod

Darparu'r sgiliau astudio sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gwblhau aseiniadau academaidd ac arholiadau yn y brifysgol.
Galluogi myfyrwyr i weithio'n effeithiol mewn grwpiau.
Cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy allweddol i'r myfyrwyr.
Galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau hunan-fyfyrio a gwerthuso.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Datblygir sgiliau cyflwyno llafar trwy drafodaethau yn y dosbarth a chyflwyniad a asesir. Datblygir sgiliau ysgrifennedig drwy'r aseiniadau. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu'r sgiliau i gyfathrebu i wahanol gynulleidfaoedd trwy ddatblygu'r daflen.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, gwaith tim, cyfathrebu, a sgiliau gwerthuso. Bydd y rhain yn cael eu hymgorffori i'r darlithoedd a'r seminarau ac yn cael eu hasesu fel agwedd greiddiol o'r modiwl.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi ffynonellau a thestunau amrywiol fel rhan o'u gwaith portffolio a'r prosiect grwp. Bydd gweithgareddau datrys problemau yn rhan o'r dalithoedd.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i weithio mewn grwpiau fel rhan o aseiniad y prosiect gwaith grwp. Hefyd, bydd pob seminar yn cynnwys elfen o waith grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr arwain eu hastudiaethau eu hunain o safbwynt y darllen ehangach a pharatoi ar gyfer yr aseiniad. Bydd mynychu'r sesiynau yn gwella ystod o sgiliau dysgu. Bydd y myfyrwyr yn myfyrio ynglyn a gwellianau i'w dysgu eu hunain mewn aseiniadau portffolio a chyflwyniadau.
Rhifedd Mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dadansoddi data rhifyddol wrth ymchwilio ar gyfer eu haseniadau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i gyfleu arferion a chyd-destunau addysgiadol i gynulleidfaoedd/dysgwyr amrywiol. Asesir hyn yn rhannol trwy'r daflen sgiliau astudio a ddatblygir. Fel rhan o'r sesiynau i baratoi ar gyfer arholiadau, edrychir ar gyd-destunau modiwlau eraill.
Sgiliau ymchwil Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i wneud ymchwil annibynol ar gyfer eu haseiniadau. Ceir sesiynau ar sut i gasglu gwybodaeth yn effeithiol o fewn y modiwlau.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn datblygu cymhwysedd wrth ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig trwy ffynonellau llyfryddiaethol ac ar y we. Bydd aseiniadau 2 a 3 yn cael eu cyflwyno ar ffurf dogfennau a luniwyd ar brosesydd geiriau; bydd angen defnyddio meddalwedd dylunio priodol ar gyfer aseiniad 3. Bydd angen defnyddio PowerPoint ar gyfer aseiniad 4.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4