Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD20220
Teitl y Modiwl
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 1 x Gweithdy 7 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad 1  1 traethawd 2500 gair  50%
Asesiad Semester Aseiniad 2  1 traethawd 2500 gair  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad atodol 1  1 traethawd 2500 gair (gosodir cwestiynau newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Aseinaid atodol 2  1 traethawd 2500 gair (gosodir cwestiynau newydd)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gwerthuso'r feirniadol ddatblygiad llythrennedd mewn plant ifainc o fewn i fframwaith penodol.

Trafod yn feirniadol oblygiadau datblygiad llythrennedd ar gyfer dysgu ac addysgu.

Archwilio'r feirniadol y rhesymau dros gwricwlwm yn seiliedig ar lenyddiaeth mewn ysgolion babanod.

Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ganologrwydd y broses iaith a llythrennedd yn ei rol gyfryngu ar gyfer yr athro a'r plentyn ifanc. Mae'r archwilio swyddogaeth llythrennedd mewn amryw ddiwylliannau ac yn ystyried y sgiliau angenrheidiol ar gyfer datblygu iaith a llythrennedd mewn plant ifainc.

Cynnwys

Bydd y darlithoedd a'r seminarau wedi'u seilio ar y canlynol:
1. Safbwyntiau ar lythrennedd/llythrennedd gweithredol
2. Gwibdeithiau i lythrennedd: profiadau/llyfrau lluniau cyn ysgol a blynyddoedd cynnar
3. Y darllenydd ar ddiwedd yr ysgol gynradd / Defnyddio llenyddiaeth mewn dosbarth Cyfnod Allweddol 2
4. Datblygu darllen (1): Dulliau /Defnyddio sgiliau darllen
5. Datblygu darllen (2): Deunydd darllen/amgylchedd llythrennedd cyfoethog
6. Darllen er mwyn dysgu: llyfrau ffeithiol a deunyddiau gwybodaeth eraill / Gwerthuso deunyddiau TGCh
7. Dechrau ysgrifennu/Asesu ysgrifen plant
8. Datblygu ysgrifennu/Darparu cynulleidfa
9. Defnyddio barddoniaeth yn y Blynyddoedd Cynnar a'r ysgol gynradd
10. Problemau llythrennedd: cyflwyniad/Llythrennedd ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn.
Datrys Problemau Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tîm, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar.
Technoleg Gwybodaeth Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5