Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA10910
Teitl y Modiwl
Methodoleg Maes Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 2 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 2 x Seminarau 1 Awr
Taith Maes 1 x Taith Faes 4 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar grwp. Yn seiliedig ar un o'r diwrnodau maes.  10%
Asesiad Semester Adroddiad 1,500 gair ar waith diwrnod 1.  45%
Asesiad Semester Poster academaidd maint A0 ar waith diwrnod 2.  45%
Asesiad Ailsefyll Ailsefyll elfennau a fethwyd.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:

  • Trafod cyfaddasrwydd yr amryw dduliau a thechnegau sy'n allweddol i waith maes daearyddiaeth, yr
  • amgylchedd a defnydd tir;

* Defnyddio technegau penodol er mwyn casglu gwybodaeth yn y maes;

*Dadansoddi a chyflwyno canlyniadau gwaith maes;

* Deall, dehongli a gwerthuso data maes;

* Cyflwyno canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno egwyddorion ac arferion technegau allweddol a ddefnyddir mewn gwaith maes yn nisgyblaethau daearyddiaeth, astudiaethau amgylcheddol ac astudiaethau defnydd tir. Mae'n cynnig profiad o ddefnyddio amryw ddulliau a thechnegau gwaith maes er mwyn casglu a dadansoddi gwybodaeth mewn perthynas a daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnydd tir.









Nod

Amcan y modiwl hwn yw:
1.Cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir.
2. Cynnig profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau i gasglu gwybodaeth ddaearyddol, amgylcheddol ac o systemau defnydd tir.
3. Rhoi hyfforddiant mewn dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
4. Meithrin dealltwriaeth o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd-destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol)
5. Rhoi profiad o gyflwyno data ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar y cyd a staff o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe. Dysgir myfyrwyr o'r ddau sefydliad hyn hefyd ar y modiwl. Dysgir y modiwl ar un penwythnos; naill ai yn Aberystwyth, Abertawe neu Bangor, gan gynnwys amrywiaeth o themau o ddaearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth ddynol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu data maes yn ysgrifenedig ac ar lafar drwy drafodaethau grwp, gwaith cwrs a chyflwyniad llafar.
Datrys Problemau Wedi'i ddatblygu drwy gyflawni'r gwaith maes.
Gwaith Tim Wedi'i ddatblygu drwy prosiectau gwaith maes ac wrth baratoi a’r weithred o gyflwyno ar lafar mewn grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am gadw nodiadau maes eu hun, paratoi cyflwyniad llafar a chyflwyno darnau gwaith cwrs unigol
Rhifedd Pan fo'r angen, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant mewn dulliau ystadegol i ddadansoddi eu data maes.
Sgiliau ymchwil Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith cwrs a bydd angen iddynt ymarfer ystod o sgiliau ymchwil, casglu data, dadansoddi, cyflwyno a dehongli.
Technoleg Gwybodaeth Bydd angen i'r gwaith cwrs, chwiliadau llenyddiaeth/gwybodaeth a dadansoddi data gael ei wneud yn ddigidol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4