Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW32020
Teitl y Modiwl
Y Rhyfel Oer
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad 2 awr  50%
Asesiad Semester Traethawd 3,000 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad 2 awr  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 3,000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Gwerthuso'n feirniadol y prif ddadleuon ynghylch gwreiddiau'r Rhyfel Oer
2. Dadansoddi deinameg y cysylltiadau rhwng Dwyrain a Gorllewin Ewrop
3. Gwerthuso rol arfau niwclear a'r rheolaeth o arfau niwclear yn y cysylltiadau rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin
4. Archwilio a gwerthuso effaith y Rhyfel Oer yn Asia
5. Archwilio a gwerthuso'r 'Ail Ryfel Oer'
6. Gwerthuso'n feirniadol esboniadau sy'n cystadlu a'i gilydd ynghylch diwedd y Rhyfel Oer
7. Dadansoddi rol arweinwyr gwleidyddol unigol yn natblygiad y Rhyfel Oer
8. Gwerthuso'n feirniadol ddulliau datblygol o astudio'r Rhyfel Oer yn cynnwys astudio diwylliant a defnyddio hanes llafar beirniadol.

Nod

Nod y modiwl hwn yw cynnig gorolwg o'r digwyddiadau a'r pynciau craidd a'r dadleuon hanesyddiaethol sy'n ymwneud ag astudio hanes y Rhyfel Oer.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn archwilio dadleuon ynghylch gwreiddiau, deinameg a diwedd y Rhyfel Oer. Bydd yn ystyried sut y datblygodd gwrthdaro yn Ewrop ac Asia a'r gwahanol ffurfiau ar wrthdaro rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin yn Ewrop a gwahanol rannau'r Trydydd Byd. Bydd yn archwilio swyddogaeth arfau niwclear ym materion y Dwyrain Gorllewin ac yn trafod dadleuon ynghylch a wnaeth y Rhyfel Oer greu, gwaethygu neu gyfyngu gwrthdaro gwleidyddol a milwrol. Anogir myfyrwyr i ystyried yn feirniadol sut y caiff hanes y Rhyfel Oer ei astudio a sut y mae methodolegau datblygol yn cynnig syniadau, safbwyntiau a dadleuon ffres.

Cynnwys

Darlithoedd
1. Gwreiddiau'r gwrthdaro rhwng UDA a'r Undeb Sofietaidd
2. Yr Ail Ryfel Byd
3. 1945-46: UDA
4. 1945-46: Yr Undeb Sofietaidd
5. Cyfyngiant UDA
6. Ymateb yr Undeb Sofietaidd
7. Rhyfel Korea
8. Chwyldro Thermoniwclear: UDA
9. Chwyldro Thermoniwclear: Yr Undeb Sofietaidd
10. Blynyddoedd Argyfyngus: 1957-60
11. Blynyddoedd Argyfyngus: 1961-62
12. Rhyfel Oer Byd-eang: Dad drefedigaethu, rhaniad Sino-Sofietaidd
13. Rhyfel Oer Byd-eang: Fietnam, rhan un
14. Rhyfel Oer Byd-eang: Fietnam, rhan dau
15. Rhyfel Oer Byd-eang: 1970au
16. Detente: Gwleidyddiaeth grym trionglog, 1971-72
17. Detente: Helsinki, y rhaniad Sino-Sofietaidd yn gwaethygu, Teirochredd
18. 1980au: Methiant yr Undeb Sofietaidd
19. 1980au: Reagan a Gorbachev
20. Diwedd y Rhyfel Oer

Seminarau
1. Hanesyddiaeth y Rhyfel Oer
2. Y Chwyldro Niwclear
3. Ymestyn y Rhyfel Oer i'r Trydydd Byd
4. Trafod Diwedd y Rhyfel Oer

Gweithdai Dogfennol
Trafodaethau'n seiliedig ar ffynonellau testunau a ffilm, ac a ddewiswyd yn unol a diddordeb y myfyrwyr

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut i wneud y gorau o'r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu haseiniadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw meithrin a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o'r modiwl; wrth gyflwyno dau draethawd, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau ymchwil annibynnol. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i'r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu'n rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg ac annhebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau'r modiwl hwn, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grwp. Bydd y trafodaethau a'r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o'r modiwl, ac yn galluogi'r myfyrwyr i fynd i'r afael a phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain ddrwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a'r cyflwyniadau. Bydd yr angen i baratoi ar gyfer cymryd rhan mewn seminarau a chwrdd a dyddiadau cau gwaith cwrs yn hoelio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser eu hunain.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd Arddangos technegau ymchwil sy'n benodol i'r pwnc Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod amryfal achosion hanesyddol a chyfoes.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith i'w asesu. Bydd hynny'n golygu defnyddio ffynonellau o'r cyfryngau a'r we, yn ogystal a thestunau academaidd mwy confensiynol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hasesu'n rhannol ar eu gallu i ddwyn ynghyd adnoddau priodol a diddorol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd i'w gyflwyno. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6