Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW37720
Teitl y Modiwl
Damcaniaethau Amlddiwylliannedd
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   2 Awr (1 x 2 awr arholiad)  50%
Arholiad Semester 2 Awr   2 Awr (1 x 2 awr arholiad)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x 3,000 o eiriau traethawd  50%
Asesiad Semester 1 x 3,000 o eiriau traethawd  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

- Dangos dealltwriaeth o'r modd y mae cydnabyddiaeth, ac yn benodol cydnabyddiaeth ddiwylliannol, wedi datblygu'n bwnc trafod mwyfwy pwysig ym maes athroniaeth wleidyddol.
- Trafod pam fod y pwyslais cynyddol ar faterion diwylliannol wedi bod yn arbennig o ddadleuol mwn cylchoedd rhyddfrydol.
- Gloriannu'n feirniadol brif nodweddion Rhyddfrydiaeth Amlddiwylliannol Will Kymlicka.
- Dangos dealltwriaeth o'r modd roedd y syniadau hyn yn herio tybiaethau rhyddfrydol traddodiadol yngl'r a'r modd y dylai gwladwriaethau ymdrin ag amrywiaethau diwylliannol.
- Cloriannu'r feirniadol brif nodweddion dulliau eraill o ymdrin ag amrywiaeth ddiwylliannol (Kukathas a'i Amlddiwyllianned Libertaraidd, Parekh a'i Ddeialog Rhyng-ddiwylliannol, Young a'i Dinasyddiaeth Radical a Barry a'i Feirniadaeth Egalitaraidd).
- Cymharu a chyferbynnu prif nodweddion y dulliau gwahanol hyn o ymdrin ag amlddiwylliannedd.
- Adlewyrchu ar yr ystod o gwestiynau normadol pwysig sy'n codi yn sgil bodolaeth amrywiaeth ddiwylliannol.
- Pwyso a mesur i ba raddau mae'r pwyslais cynyddol ar gydnabyddiaeth ddiwylliannol yn meddu ar oblygiadau i undod cymdeithasol a gweithrediad sustemau democrataidd.

Nod

Amcan y modiwl hwn fydd cyflwyno myfyrwyr i'r modd y mae cydnabyddiaeth o amrywiaethau diwylliannol wedi datblygu i fod yn bwnc mwyfwy pwysig ymhlith ymarferwyr ac athronwyr gwleidyddol dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Fel rhan o hyn, bydd disgwyl i fyfyrwyr ystyried a thrafod sut y dylem ymateb i rai o'r cwestiynau pwysig sydd wedi codi yn sgil ymwybyddiaeth gynyddol o natur amrywiol cymdeithasau cyfoes:

- gwladwriaethau democrataidd ymateb i amrywiaethau diwylliannol?
- A all gwladwriaethau ymdrin a'r amrywiaethau hyn mewn modd diduedd?
- A ydy estyn cydnabyddiaeth arbennig i aelodau rhai grwpiau lleiafrifol yn golygu nad yw,r wladwriaeth yn trin pawb yn gyfartal?
- A ddylid gwahaniaethu rhwng galwadau gwahanol fathau o grwpiau diwylliannol, er enghraifft grwpiau cenedlaethol a grwpiau mudol?
- Sut mae penderfynu pa fathau o hawliau diwylliannol sy'n dderbyniol a pha rai sy'n mynd yn rhy bell?
- I ba raddau y dylai gwladwriaethau rhyddfrydol barchu arferion diwylliannol lleiafrifol a ystyrir yn orthrymol?

Ymhellach, bydd cyfle i fagu dealltwriaeth o'r atebion y mae athronwyr gwleidyddol blaenllaw wedi'u cynnig i'r cwestiynau hyn. Bydd gwaith y canlynol yn cael ei drafod yn ystod y cwrs: Will Kymlicka, Chandran Kukathas, Bhikhu Parekh, Iris Marion Young a Brian Barry.
Noder: caiff y modiwl hwn ei ddysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg (h.y. darlithoedd a seminarau Cymraeg).

Cynnwys

- Beth yw Amlddiwylliannedd?
- Will Kymlicka: Rhyddfrydiaeth Amlddiwylliannol
- Chandran Kukathas: Amlddiwylliannedd Libertaraidd
- Bhikhu Parekh: Y Deialog Rhyng-Ddiwylliannol
- Iris Marion Young: Dinasyddiaeth Radical
- Brian Barry: Y Feirniadaeth Egalitaraidd

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6