Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC25420
Teitl y Modiwl
Stiwdio Greadigol
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 10 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesiad grŵp ac asesiadau cysylltiedig  50%
Asesiad Semester Cyfnodolyn  50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio creadigol yn cynnwys rholyn arddangos a  dogfennau ategol  50%
Asesiad Ailsefyll Cyfnodolyn  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos dealltwriaeth o'r ffurf, a'r gallu i greu ystod eang o ffurfiau teleweledol.

2. Gallu adnabod a mynegi amcanion penodol ar gyfer cynhyrchu teledu. Bydd y canlyniadau hyn yn canolbwyntio ar: strwythuro naratif, arddulliadau gweledol/golygyddol, a thechnegau cynhyrchu priodol.

3. Arddangos medr i gymhwyso dealltwriaeth technegol a logistaidd wrth greu cynhyrchiad aml-gamera.

4. Arddangos gallu i werthuso ac i asesu eich gwaith cynhyrchu eich hunain ynghyd a gwaith gan fyfyrwyr eraill, ac arddangos gallu i dderbyn a chynnig beirniadaeth adeiladol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio er mwyn addysgu'r myfyrwyr o ystod eang o ffurfiau teledu ffuglen, megis drama teledu, fformat cylchgronau, operâu sebon a fideos cerddorol. O ganlyniad, bydd y modiwl yn datblygu ymwybyddiaeth o'r ystod eang o bosibiliadau dramataidd a gweledol o deledu fel cyfrwng; y prosesau creadigol, cysyniadol a thechnegol sy'n gynsail i'r cyfrwng, ynghyd ag ehangu dealltwriaeth y myfyrwyr o ffurfiau cydgyfeirianol.

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr gyda dealltwriaeth gref o'r heriau a'r posibiliadau creadigol wrth gynhyrchu teledu, yn ogystal â chynyddu eu dealltwriaeth o deledu aml-gamera.

Mae'r modiwl yn anelu i ddyfnhau sgiliau crefft gwaith camera ac ymarferiadau golygu, yng nghyd a datblygu rholiau a chyfrifoldebau aelodau'r criw er mwyn sicrhau bod modd cyd-weithio’n effeithiol fel tîm cynhyrchu.

Cynnwys

1. Cyflwyno cynhyrchu aml-gamera

2. Sgiliau cyfweld mewn stiwdio

3. Technegau cyfweld aml-gamera

4. Technegau storïol

5. Arddull rhaglenni cylchgrawn

6. Gweithio gyda cherddoriaeth

7. Arddull rhaglenni cylchgrawn pellach

8. Drama teledu

9. Drama - ymarfer stiwdio; prif egwyddorion

10. Cynhyrchu drama gan ddefnyddio elfennau aml-gamera

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau ysgrifennu wrth greu sgriptiau. Gan fod y prosiectau yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn ddibynnol ar sgiliau cyfathrebu uchel. Hefyd fe gynhelir trafodaethau yn seiliedig ar waith fydd yn cael ei arddangos, gan gynnwys sgriptiau'r myfyrwyr. Ar hyd y modiwl, anogir myfyrwyr i drafod eu gwaith yn gynyddol gyda manylder a soffistigeiddrwydd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn gweithio yn y gweithdai ac yn y cynyrchiadau terfynol yn ôl rolau proffesiynol penodedig, gan ddysgu trwy adlewyrchu ar sefyllfa gynhyrchu broffesiynol.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn cael nifer o gyfleoedd i ymateb i amryw o heriau cyfarwyddol a sinematograffaidd yn ystod y gweithdai wythnosol. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn gorfod ystyried dulliau storïol addas ar gyfer technegau cyfarwyddo a thechnegau golygu. At hynny, wrth gynhyrchu'r gwaith, bydd y myfyrwyr yn cael profiad o ddatrys problemau logistaidd, cyllidol, a thechnegol, a all godi fel rhan o'r prosiect cynhyrchu.
Gwaith Tim Bydd rhaid ymgymryd â gwaith grŵp yn y gweithdai ac yn y broses o ffilmio golygfeydd byrion. Bydd y gallu i gydweithio'n effeithiol yn elfen hanfodol o'r broses o gynhyrchu'r fideos byr.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y cwrs yn mynnu beirniadaeth o’r holl elfennau yn y golygfeydd a grëir yn y gweithdai, o gyfarwyddo i olygu. At hynny, mae’r cwrs yn mynnu bod myfyrwyr yn trafod y gwaith a gynhyrchir wrth asesu’r broses o ysgrifennu’r sgript gychwynnol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hannog i addasu eu gwaith o ganlyniad i adborth yr asesiad hwn. Bydd y traethawd yn gwerthuso’r gwaith fideo terfynol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau cyd-gynhyrchu trwy ffurfio cysyniadau a chynllunio nifer o wahanol o gynyrchiadau. Rhagwelir y bydd y modiwl yn ymestyn sgiliau aml-gamera y myfyrwyr; yn yr un modd datblygir sgiliau golygu ymhellach trwy olygu'r gwahanol weithiau.
Sgiliau ymchwil Bydd creu gweithiau fideo yn ddibynnol ar ymchwil i ystod eang o adnoddau beirniadol-ddamcaniaethol, hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol mewn perthynas â chynhyrchu teledu. Bydd ffilmio a golygu'r gwaith yn ddibynnol ar ymchwil i'r systemau technegol sy'n rhan o'r broses o greu.
Technoleg Gwybodaeth Bydd angen defnyddio prosesydd geiriau ar gyfer cyflwyno dyddiaduron, sgriptiau a chynigion. Bydd fideo digidol yn cael ei olygu ar gyfrifiadur yn defnyddio Avid Media Composer neu Final Cut Pro. Mae'n debygol y bydd hefyd angen defnyddio rhaglenni cyfrifiadur eraill, yn ôl anghenion prosiectau annibynnol y myfyriwr.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5