Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA21210
Teitl y Modiwl
Profiad Gwaith Daearyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 3 x Seminarau 1 Awr
Seminar 2 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno'r Traethawd o 1,500 gair. 
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno'r Adroddiad o 3,000 o eiriau. 
Asesiad Semester Traethawd o 1,500 o eiriau yn trafod addasrwydd daearyddiaeth i allu cyfrannu at gymdeithas, a'r dadleuon moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny.  Traethawd o 1,500 o eiriau yn trafod addasrwydd daearyddiaeth i allu cyfrannu at gymdeithas, a'r dadleuon moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny.  25%
Asesiad Semester Adroddiad o 3,000 o eiriau.  Adroddiad o 3,000 o eiriau.  75%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Cwblhau hunan-asesiad o'u medrau cyflogadwyedd, gan nodi eu cryfderau a'u gwendidau.

Trefnu (gyda chymorth staff ADGD a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) a chwblhau cyfnod o brofiad gwaith pwrpasol o o leiaf 50 awr.

Arddangos dealltwriaeth o'r hyn a wneir yn y sefydliad lle'u cyflogir, sut y'i rheolir a chyfraniad y myfyriwr i'r sefydliad.

Arddangos gallu i gymhwyso eu sgiliau a'u medrau mewn sefyllfa waith ac i werthuso hyn.

Cynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer meithrin eu medrau cyflogadwyedd ymhellach.

Adlewyrchu ar addasrwydd daearyddiaeth, fel disgyblaeth, i gyfrannu at gymdeithas, ac adnabod achosion moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i drefnu (gyda chymorth staff ADGD a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) cyfnod o 50 awr o brofiad gwaith pwrpasol rywdro rhwng diwedd blwyddyn 1 a diwedd blwyddyn 2 eu cwrs gradd. Bydd cyfle i fyfyrwyr i fynychu eu cyfnod o brofiad gwaith un ai yn ystod eu gwyliau neu - ar ffurf rhan amser- yn ystod y tymor. Disgwylir i'r myfyrwyr i ddadansoddi eu medrau cyflogadwyedd ar ddechrau a diwedd eu cyfnod o brofiad gwaith, a'u cyfraniad i'r sefydliad y buont yn gweithio iddo.

Cynnwys

Bydd raid i'r myfyrwyr i fynychu cyfnod o brofiad gwaith o o leiaf 50 awr rhwng diwedd Blwyddyn 1 a diwedd Pasg Blwyddyn 2 eu cwrs gradd. Bydd cyfle i'r myfyrwyr i gadw mewn cysylltiad gyda chydlynydd y modiwl yn ystod y cyfnod hwn drwy ebost. Bydd angen i’r myfyrwyr gadw log o’r profiad gwaith er mwyn eu cynorthwyo i gwblhau’r gwaith cwrs.

Semestr 2 (Blwyddyn 1, un seminar):

1. Cynhelir un sesiwn paratoi ar ddiwedd Blwyddyn 1 ar gyfer myfyrwyr sydd wedi rhag-gofrestru ar gyfer y modiwl. Defnyddir y sesiwn hyn fel cyfle i'r myfyrwyr i asesu eu medrau cyflogadwyedd ac i drafod lleoliad posib ar gyfer eu cyfnod o brofiad gwaith.

Semestr 1 (Blwyddyn 2, dau seminar):

2. Cynhelir un sesiwn ym mis Hydref i drafod cynnydd y myfyrwyr dros yr haf ac i osod aseiniad 1, sef i drafod addasrwydd daearyddiaeth i allu cyfrannu at gymdeithas a’r dadleuon moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny.

3. Cynhelir gweithdy ym mis Tachwedd i gynorthwyo’r myfyrwyr gydag aseiniad 1 ac i osod aseiniad 2, sef cwblhau adroddiad o 3,000 o eiriau a fydd yn dadansoddi eu medrau cyflogadwyedd ar ddechrau a diwedd eu cyfnod o brofiad gwaith, a'u cyfraniad i'r sefydliad y buont yn gweithio iddo. Ceir cyfle yn yr adroddiad hwn hefyd i greu cynllun gweithredu ar gyfer datblygu medrau cyflogadwyedd y myfyriwr ymhellach.


Semestr 2 (Blwyddyn 2, tri seminar):

4. Ar ôl cwblhau'r cyfnod o brofiad gwaith, cynhelir cyfarfod er mwyn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i drafod a gwerthuso eu profiadau ar lafar.

5 a 6. Yn ogystal, cynhelir dau sesiwn ar ddiwedd Blwyddyn 2 i feithrin medrau cyflogadwyedd ymhellach.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael eu meithrin wrth gwblhau'r adroddiad. Bydd sgiliau cyfathrebu ar lafar yn cael eu meithrin yn ystod y seminarau. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau cyfathrebu o bob math.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Amcan y modiwl yn ei gyfanrwydd yw i annog myfyrwyr i ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd ac asesir hwn yn yr adroddiad.
Datrys Problemau Bydd raid i'r myfyrwyr drefnu (gyda chymorth staff) lleoliad addas a phwrpasol ar gyfer eu profiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i ddatrys problemau.
Gwaith Tim Ni ddatblygir hwn yn benodol yn y modiwl ond, gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medr o'r fath.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gymhwyso eu medrau dysgu i sefyllfa waith. Un o sgil-effeithiau'r modiwl fydd gwella dysgu a perfformiad y myfyrwyr wrth iddynt drosglwyddo agwedd mwy proffesiynol tuag at eu hastudiaethau o fyd gwaith i'r byd academaidd.
Rhifedd Ni ddatblygir hwn yn benodol yn y modiwl ond, gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medr o'r fath.
Sgiliau pwnc penodol Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau penodol i Ddaearyddiaeth.
Sgiliau ymchwil Bydd cyfle i ddefnyddio sgiliau ymchwil wrth drefnu'r profiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau ymchwilio.
Technoleg Gwybodaeth Bydd raid i'r myfyrywr i gynhyrchu adroddiad graenus a fydd yn dadansoddi eu cyfnod o brofiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau technoleg gwybodaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5