Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FG11010
Teitl y Modiwl
Ffiseg Glasurol
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Ffiseg a Mathemateg Safon Uwch neu gyfatebol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 5 x Gweithdai 1 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad Ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Taflenni enghreifftiau  30%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Deall egwyddorion deddfau serofed a chyntaf thermodynameg a theori cinetig nwyon a chymhwyso'r rhain i ddatrys problemau cysylltiedig.
2. Disgrifio lledaeniad ton drwy nodiant mathemategol a deall ei gymwysiadau.
3. Disgrifio egwyddorion sylfaenol opteg geometreg a ffisegol a'u defnydd mewn offerynnau a thechnegau optegol.
4. Deall diffreithiant a chyfyngiadau i ddatrysyn (resolution) offerynnau optegol.
5. Disgrifio gweithrediad laser a rhoi enghreifftiau o ddefnydd priodweddau cydlyniad golau laser.





Nod

Mae'r modiwl yn cyflwyno ffiseg thermol gyda thrafodaeth o brosesau macrosgopig a microsgopig. Mae hefyd yn datblygu egwyddorion a thechnegau opteg geometregol a natur donnog golau. Gosodir pwyslais ar ddatrys problemau drwy daflenni enghreifftiau sy'n cynnwys ymarferion rhifiadol. Mae'r modiwl yn fodiwl craidd i gynlluniau gradd anrhydedd mewn ffiseg ac yn paratoi'r myfyrwyr i ddefnyddio'r testunau yn astudiaethau uwch Rhan 2.

Disgrifiad cryno

Mae'r elfen ffiseg thermol o'r modiwl yn delio gyda phrosesau sy'n ymwneud a newid gwres i waith ac i'r gwrthwyneb. Gellir deall prosesau thermol ar raddfa macrosgopig yn ogystal ag ar raddfa atomig microscopig. Cyflwynir deddfau serofed a chyntaf thermodynameg a chysyniadau gwres a gwaith drwy ystyried y system nwy. Cyflwynir hefyd ystyriaeth ficrosgopig o'r theori ginetig.

Opteg yw un o'r canghennau mwyaf llwyddiannus o ffiseg glasurol a gellir ei gymhwyso ymhob math o dechnoleg yn amrywio o ficrosgopeg i ffotoneg. Mae'r cwrs hwn yn rhoi theori sylfaenol tonnau, ac opteg geometregol a ffisegol. Caiff cymwysiadau o'r rhain mewn technoleg fodern eu trafod.

Cynnwys

FFISEG THERMOL
1. Solidau: anffurfiad elastig, ehangiad thermol.
2. Nwy delfrydol: newidynnau cyflwr, newid cyflwr, hafaliad cyflwr, deddf nwy delfrydol.
3. Deddf serofed thermodynameg: cydbwysedd thermol, tymheredd a graddfeydd tymheredd.
4. Deddf gyntaf thermodynameg: egni mewnol, gwres, gwaith; prosesau isothermal, isobarig ac adiabatig; cynhwysedd gwres a gwres cudd.
5. Theori ginetig nwyon: deilliad gwasgedd drwy ystyriaethau mewn mecaneg, dosraniad Maxwell-Boltzmann; buaneddau isc-cymedr-tebygol; tymheredd a phoblogaeth lefelau egni.

TONNAU
1. Tonnau teithiol: tonfedd, amledd, cyflymder cydwedd, cyflymder grwp.
2. Enghreifftiau: tonnau ar linyn, tonnau swn tonnau electromagnetig.
3. Ffenomenau ton: arosodiad tonnau, effaith Doppler.
4. Hafaliad ton.

NATUR OPTEGOL A THONNOG GOLAU
1. Opteg geometregol a ffisegol a'u defnydd mewn offerynnau a thechnegau optegol.
2. Gwasgariad, ymyriant, diffreithiant (holltau unigol a lluosog).
3. Terfan i ddatrysyn offer optegol.
4. Gweithrediad laser ac enghreifftiau o ddefnydd priodweddau cydlyniad golau laser.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn amlygu'r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y meysydd ac yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa.
Datrys Problemau Caiff sgiliau datrys problemau eu datblygu drwy gydol y modiwl a'u profi mewn aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r darlithoedd a'r gweithdai wedi eu cynllunio i annog dysgu hunan-gyfeiriedig ac i wella perfformiad. Asesir hwn drwy daflenni enghreifftiau.
Rhifedd Mae gan bob cwestiwn a osodir yn y taflenni enghreifftiau ac arholiadau ffurfiol broblemau rhifiadol.
Sgiliau ymchwil Bydd y darllen cyfeiriedig yn galluogi myfyrwyr i ymestyn eu dealltwriaeth o'r darlithoedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael problemau i'w datrys yn y darlithoedd a bydd hyn yn golygu ymchwil yn y llyfrgell ac yn defnyddio'r rhyngrwyd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio pynciau o fewn y modiwl gan ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4