Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC36000
Teitl y Modiwl
Prosiect Ymchwil Annibynnol
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio Critigol  30%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Hir (10000 o eiriau)  70%
Asesiad Semester Portffolio Critigol  30%
Asesiad Semester Traethawd Hir (10000 o eiriau)  70%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Ffurfio cwestiwn ymchwil fel sail ar gyfer traethawd estynedig, gan sylweddoli wrth wneud hynny beth fydd yn rhaid cyflawni wrth geisio'i ateb.
2. Datblygu sgiliau ymchwilio sy'n briodol i'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a'u defnyddio wrth weithio'n annibynnol.
3. Tafoli cyfres o weithiau beirniadol perthnasol, a'u cymhwyso er mwyn goleuo'r drafodaeth ar y pwnc a ddewiswyd.
4. Strwythuro a threfnu eu casgliadau'n glir mewn darn estynedig o waith ysgrifenedig.

Nod

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr i ymgymryd ag ymchwil unigol drwy gyfrwng traethawd hir 10,000 o eiriau gan ddatblygu sgiliau ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno o fewn cyd-destun academaidd.

Mae'r modiwl yn disodli'r modiwl Traethawd Hir (FT32030) ac yn gosod seiliau cadarn yn semester 1 a fydd yn baratoad addas ar gyfer y cyfnod yn semester 2 pan fydd y myfyriwr yn gweithio yn fwy annibynnol.

Cynnwys

Semester 1
Diffinio Nodweddion Traethawd Hir: Cwestiwn Ymchwil a Chynllun Gwaith

Gweithdy Llunio Cwestiwn Ymchwil

Beth yw Arolwg Llenyddiaeth?

Canfod, Tafoli a Defnyddio Ffynonellau

Darllen a Chofnodi Effeithiol

Cloriannu Beirniadol: Beth yw ymchwil 'da'?

Methodolegau 1: Dulliau o Ddadansoddi'r Testun

Methodolegau 2: Y Gynulleidfa ac Ethnograffeg

Methodolegau 3: Deunydd Hanesyddol ac Archifol

Gweithdy Sesiwn drafod ar yr Arolwg Llenyddiaeth

Semester 2
Sesiynau grwp ac unigol gydag arolygyddion y traethodau hir.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu
Rhifedd Ddim yn berthnasol i'r modiwl, onibai fod y myfyriwr yn dewis cwestiwn ymchwil sydd ag iddo ddimensiwn rifyddol
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr darllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6