Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY33420
Teitl y Modiwl
Y Chwedl Arthuraidd cyn 1100
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810
Rhagofynion
Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 3000 o eiriau  Traethodau: 3.000 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll traethawd 3000 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   arholiad atodol  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod y testunau mwyaf perthnasol ar gyfer olrhain datblygiadau cynharaf y chwedl Arthuraidd;

Pwyso a mesur y dadleuon o blaid ac yn erbyn y gred fod Arthur yn berson hanesyddol o gig a gwaed;

Deall a dadansoddi o leiaf ddwy gerdd gynnar o safbwynt yr hyn a ddywedir ynddynt am y chwedl Arthuraidd;

Deall a dadansoddi testun rhyddiaith ‘Culhwch ac Olwen’ o safbwynt yr hyn a ddywedir ynddo am y chwedl Arthuraidd;

Darllen a dehongli testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol;

Olrhain trosglwyddiad ansefydlog a gwerthfawr y testunau a astudir drwy gyfrwng llawysgrifau cynnar;

Deall natur y delfryd arwrol yn yr Oesoedd Canol o safbwynt Cymreig.

Cynnwys

2 awr o ddarlithoedd yr wythnos am gyfnod o 11 wythnos.

1. Y maes llafur: braslun o’r maes ac o’r ffynonellau perthnasol;
2. A oedd Arthur yn ddyn o gig a gwaed? Astudio’r ffynonellau;
3. Darllen ac astudio ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’;
4. Darllen ac astudio ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’;
5. Darllen ac astudio ‘Preiddiau Annwfn’;
6. Darllen ac astudio ‘Preiddiau Annwfn’;
7. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
8. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
9. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
10. Darllen ac astudio rhannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’;
11. Astudio’n fras rai ffynonellau eraill, megis cerddi eraill cynnar a rhai o fucheddau’r seintiau.

Disgrifiad cryno

Ac ystyried enwogrwydd y Brenin Arthur mewn diwylliant Eingl-Americanaidd poblogaidd, nid yw efallai’n syndod fod gwreiddiau Cymreig yr arwr enwog hwnnw’n aml wedi eu hesgeuluso. Mae deuoliaeth ddiddorol yn perthyn i’r ffaith fod rhai o’r ffynonellau cynharaf sy’n ymwneud ag Arthur yn ei ddarlunio fel rhyfelwr o Frython a enillodd ei fri yn ymladd yn erbyn y bobl a elwir heddiw yn Saeson. Er prinned y ffynonellau Cymraeg a Lladin cynnar sy’n rhagddyddio Historia Regum Brittanie Sieffre o Fynwy, fe bery eu gwerth a’u harwyddocâd yn bynciau llosg hyd heddiw.
Yn sgil pwysigrwydd y ffynonellau hynny i ddiwylliant a hanes Cymru, diben y modiwl hwn yw cynnal y diddordeb yn y maes mewn cyd-destun academaidd Cymraeg. At hynny, mae astudiaeth o’r maes yn fodd hwylus o ymgyfarwyddo â nifer o wahanol feysydd eraill, megis hanesyddiaeth (Historia Brittonum), barddoniaeth gynnar (‘Preiddiau Annwfn’), chwedlau cynnar (‘Culhwch ac Olwen’) a bucheddau seintiau fel Cadog ac Illtud. Mae hefyd yn gyflwyniad defnyddiol i’r ddisgyblaeth o ddarllen testunau Cymraeg Canol.
Bwrir golwg yn y modiwl hwn ar y testunau cynharaf sy’n ymwneud â’r chwedl Arthuraidd. Beth sydd ar ôl i’w weld o Arthur ar ôl diosg coron aur y brenin poblogaidd, gwisg urddasol ymerawdwr y rhamantau Ffrengig a’r fantell ddychmygus a roddwyd iddo gan Sieffre o Fynwy? Mae’r ateb yn aml yn ansicr ond bob tro’n gyffrous ac amlweddog. A fu Arthur hanesyddol o gig a gwaed? Edrychir yn fanwl ar y ffynonellau a ystirir weithiau’n rhai hanesyddol.
Edrychir hefyd ar y ffynonellau mwy niferus sy’n creu darlun o Arthur fel arwr a phennaeth ar fintai o ryfelwyr. Astudir dwy gerdd, y naill o Lyfr Du Caerfyrddin, sef ‘Pa Ŵr yw’r Porthor’, a’r llall o Lyfr Taliesin, sef ‘Preiddiau Annwfn’. Astudir hefyd rannau o chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ sy’n ymwneud ag Arthur a’i wŷr, yn enwedig Cai a Bedwyr. Bydd darllen yn ofalus a thrylwyr destunau Cymraeg Canol yn rhan allweddol o’r gwaith hwn.


Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Ceir yn y darlithoedd elfen o drafod a chyd-ddarllen, ac anogir y myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol yn hyn o beth. At hynny, disgwylir i’r myfyrwyr gyfrathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig wrth lunio’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Datblygir drwy’r darlithoedd allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn ymwneud â darllen yn fanwl destunau Cymraeg Canol.
Gwaith Tim Anogir y myfyrwyr i drafod a chyd-ddarllen yn y darlithoedd wrth astudio’r testunau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir y myfyrwyr i wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau Cymraeg Canol yn wythnosol
Rhifedd Mae rhoi ystyriaeth i berthynas gwahanol destunau yn ôl y dyddiadau pan gawsant eu creu yn rhan o’r gwaith.
Sgiliau pwnc penodol Y gallu i ddarllen a deall testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol, a thrwy hynny i ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw.
Sgiliau ymchwil Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn Asesiad 1 a 2.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac i ddod o hyd i ddelweddau o rai o’r ffynonellau perthnasol ar lein (er enghraifft, cerddi o Lyfr Du Caerfyrddin ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6