Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GQ33420
Teitl y Modiwl
Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 11 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 2,000 gair  40%
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd 4,000 gair  60%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 2,000 gair  40%
Asesiad Semester 1 x Traethawd 4,000 gair  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Cymhwyso ac asesu’n feirniadol ystod o fframweithiau cysyniadol er mwyn deall y rhyngberthynas gymhleth a chyfnewidiol rhwng rhyfel a chymdeithasau.
2. Dadansoddi’r gwahaniaethau rhwng gwreiddiau hanesyddol cysyniadau rhyfel ‘diarbed’ a ‘chyfyngedig’.
3. Dangos dealltwriaeth o’r amryw bwysau y mae gwahanol fathau o wrthdaro’n eu rhoi ar gymdeithasau, a llunio ymdriniaeth feirniadol.
4. Dadansoddi’n feirniadol y cysylltiad rhwng cymdeithas, economi, gwleidyddiaeth a natur rhyfel.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn datblygu ymhellach y cwestiynau 'Beth yw rhyfel?' a 'Beth yw heddwch?' er mwyn ymdrin â dwy deipoleg boblogaidd o ryfel: ‘rhyfel diarbed’ a ‘rhyfel cyfyngedig’. Drwy ystyried enghreifftiau o ystod hanesyddol a daearyddol eang, mae’r modiwl yn annog y myfyrwyr i archwilio’r berthynas rhwng cymdeithasau a’r math(au) o ryfela a arferir gan eu lluoedd arfog ar adegau penodol yn eu hanes. Drwy archwilio rhyfel diarbed a rhyfel cyfyngedig, mae’r modiwl hefyd yn annog y myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o pam y mae cymdeithasau a llywodraethau’n mynd ati i ryfela yn wahanol yn dibynnu ar y cyd-destun, a sut y mae ffactorau economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu ar ryfela. Mae’r modiwl felly’n cysylltu natur rhyfel â’r broses bolisi, ac yn hybu dealltwriaeth ymhlith y myfyrwyr o pam y mae gwleidyddion yn dewis gweithredu’n filwrol, a pham y mae’r gweithredu hwnnw’n digwydd fel ag y mae. Er mwyn ysgogi trafodaeth, bydd y modiwl yn defnyddio enghreifftiau gan gynnwys: y Rhyfeloedd Byd; Rhyfeloedd Napoleon; rhyfela yn yr henfyd; rhyfela yn yr oesoedd canol; ymgyrchoedd ‘plismona’ ymerodrol; gweithredwyr milwrol preifat; Fietnam a rhyfeloedd eraill ar ôl yr Ail Ryfel Byd; a rhyfeloedd cartref.

Cynnwys

Ymhlith y pynciau a drafodir yn y modiwl mae: mathau o ryfel a heddwch; rhyfel diarbed; brenhinoedd a dilynwyr; milwyr cyflog a gwladwriaethau; chwyldro a diwydiant; imperialaeth ac ideoleg; rhyfel arwrol ac ôl-arwrol; a chysyniad ‘heddwch diarbed’.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno'u syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno'u dadleuon yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i fanteisio arnynt. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i gyfathrebu yn y ffordd fwyaf priodol er mwyn sicrhau’r budd mwyaf. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir ac yn dysgu sut i nodi eu nodau a’u hamcanion yn glir. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i destun, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd gofyn i'r myfyrwyr hefyd baratoi eu traethodau ar brosesydd geiriau, a dylid cyflwyno'r gwaith ar ffurf sy'n mynegi syniadau'n effeithiol ac yn defnyddio sgiliau iaith yn dda er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bwriedir i’r modiwl hwn fireinio a phrofi sgiliau a fydd o fudd i’r myfyrwyr yn eu bywyd gwaith, yn enwedig o safbwynt siarad â grwpiau bach, a gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill. Yn ogystal, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir y myfyrwyr i fyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gweithio'n annibynnol a datrys problemau yn un o nodau canolog y modiwl; drwy orfod cyflwyno dau draethawd bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Datblygir gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau ac asesir hynny drwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data ac amcangyfrif ateb i'r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau trafod yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gwneud ymarferion tîm yn y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau trafod y modiwl hwn, cynhelir trafodaethau mewn grwpiau bach yn y seminarau lle gofynnir i'r myfyrwyr drafod mewn grŵp y materion craidd sy’n gysylltiedig â phwnc trafod y seminar. Mae’r trafodaethau a'r dadleuon dosbarth hyn yn rhan sylweddol o'r modiwl, a byddant yn gyfle i'r myfyrwyr i ystyried ac ymdrin â phwnc trafod penodol drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hybu sgiliau hunanreoli ond mewn cyd-destun lle mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan y cydlynydd a chan gyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad eu gwaith cwrs a phynciau eu cyflwyniadau. Drwy orfod paratoi i gymryd rhan mewn seminarau a chyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiad cau, bydd y myfyrwyr yn dysgu am yr angen i reoli eu hamser.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Caiff y myfyrwyr gyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol i’w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd • Dangos technegau ymchwil pwnc-benodol Cymhwyso amryw o fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith a asesir. Bydd hyn yn golygu defnyddio ffynonellau yn y cyfryngau ac ar y we, ynghyd â thestunau academaidd mwy confensiynol. Caiff y myfyrwyr eu hasesu’n rhannol ar sail eu gallu i gasglu adnoddau a deunyddiau priodol a diddorol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i'r gwaith y mae'r myfyrwyr yn ei gyflwyno gael ei baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6