Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HA31820
Teitl y Modiwl
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 1 x Gweithdy 6 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 2 Awr   1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth gref o natur a hanes gwladychiad ac imperialaeth yn eu cyd-destun hanesyddol Ewropeaidd ynghyd ag effaith y datblygiadau hyn ar gymdeithas Ewrop

asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'r defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod imperialaidd yr 19eg ganrif

datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol

casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol

Nod

Cynigir y modiwl hwn gan aelod o staff a gyflogir gan y Coleg Cenedlaethol i ddarparu modiwlau ar gyfer myfyrwyr hanes ym mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn cryfhau’r radd cyfrwng Cymraeg. Gan fod Dr Matthews wedi ei leoli yn Abertawe, gwneir defnydd o adnoddau dysgu arlein gan gynnwys Blackboard a gwefan adnoddau dysgu y Coleg Cenedlaethol, sef Y Porth. Y mae’r modiwl felly yn arloesol ar sawl cyfrif.

I archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain
I ystyried effaith syniadau ymerodraethol ar diwylliant y gwledydd hyn
I archwilio’r cyfnod wedi’i Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau

Disgrifiad cryno

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ledaenodd ymerodraethau Prydain a Ffrainc (a gwledydd eraill Ewrop) ar draws y byd. Erbyn dechrau’r Rhyfel Mawr roedd y rhan fwyaf o wledydd y byd yn rhan o ymerodraeth Ewropeaidd. I drigolion y gwledydd a feddai ar ymerodraeth (ac yn bennaf Prydain a Ffrainc) roedd mawredd eu hymerodraeth yn achos balchder, ac yn rhan bwysig o’u hunaniaeth. Fodd bynnag, yn ail hanner yr ugeinfed ganrif fe ddatgymalwyd yr ymerodraethau mawr Ewropeaidd, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer cymdeithas a diwylliant ym Mhrydain a Ffrainc.

Bydd y modiwl hwn yn archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain (ac yng Nghymru yn benodol). Byddwn yn ystyried sut dreiddiodd syniadau ymerodraethol trwy gydol diwylliant y gwledydd hyn, gan edrych er enghraifft ar sut oedd pobloedd ‘eraill’ yn cael eu portreadu mewn cyhoeddiadau Cymraeg. Yna byddwn yn archwilio’r cyfnod wedi’i Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau, er bod rhai o’r syniadau a ddaeth yn eu sgîl yn parhau. Felly byddwn yn olrhain tranc poenus yr Ymerodraeth Ffrengig yn Indo-China ac Algeria.

Bydd Dr Matthews yn ymweld ag Aberystwyth i gyfarfod â’r myfyrwyr ar ddechrau’r semester cyn cynnal y seminarau wyneb yn wyneb dros y fideo. Disgwylir i’r myfyrwyr wylio’r darlithoedd yn eu hamser eu hunain ond yn ystod yr wythnos y byddant yn cael eu rhyddhau ar Y Porth. Bydd angen elfen o oruchwyliaeth i sicrhau bod y myfyrwyr yn dilyn y cwrs darlithoedd a phenodir aelod o staff yn yr Adran yn Aberystwyth fel cyswllt ychwanegol ar gyfer y myfyrwyr. Gan fod y modiwl yn wahanol iawn i’r arfer, byddwn yn ceisio asesu effeithlonrwydd y dulliau dysgu ar ddiwedd y semester i weld a oes angen unrhyw addasu ar y ddarpariaeth.

Cynnwys

Rhoddir unarddeg o ddarlithoedd ar wefan Y Porth ar gyfer y myfyrwyr, gan eu rhyddhau fesul wythnos gan amlaf, ond ceir mwy o ddarlithoedd yn yr wythnos gyntaf er mwyn sicrhau cyflwyniad i’r modiwl a’i themâu. Cynhelir naw seminar yn ogystal fel a ganlyn:

(Wythnos 1) Darlith 1- Cyflwyniad i’r modiwl; cyflwr Ewrop ar ddechrau’r 19eg ganrif

Darlith 2 - Ton gyntaf o wladychu (yr Amerig yn bennaf) ac olion imperialaeth gynt (Prydain, Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal)

(Wythnos 2) Darlith 3 – Trosolwg o Imperialaeth Brydeinig

Seminar 1 – Sut a pham dyfodd yr Ymerodraeth Brydeinig

(Wythnos 3) Darlith 4 – Trosolwg o Imperialaeth Ffrengig

Seminar 2 – Sut a pham dyfodd Ymerodraeth Ffrainc

(Wythnos 4) Darlith 5 - Y berthynas rhwng gwladychu a choloneiddio;

Seminar 3 – cymunedau Cymreig ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig

(Wythnos 5) Darlith 6 - Cyd-destun gwleidyddol i’r ‘ail ymerodraeth’ Ffrengig – amcanion gwleidyddol ac economaidd

Seminar 4 - La Mission civilisatrice (Y Gennad Wareiddio) a pherthnasau rhwng Ffrainc imperialaidd a’r trefedigaethau

(Wythnos 6) Darlith 7 - Portreadu’r ‘ymerodraeth’

Seminar 5 – Portreadu’r ymerodraeth yn y Gymraeg

(Wythnos 7) Darlith 8 - Ysgwyd cynseiliau ymerodraethau Prydain a Ffrainc: Dau Ryfel Byd a’r Dirwasgiad Mawr

Seminar 6 - O’r Ymerodraeth i’r Gymanwlad : y broses o ganiatâu annibyniaeth i drefedigaethau Prydain

(Wythnos 8) Darlith 9 - Dadwladychu Ffrengig – yn cynnwys Fietnam ac Algeria

Seminar 7 – Trafod ymadawiad Ffrainc o Fietnam ac Algeria

(Wythnos 9) Darlith 10 - Cofio’r ymerodraeth ac hunaniaeth ôl-wladychol Ffrengig

Seminar 8 – Hunaniaeth ôl-ymerodraethol Ffrengig

(Wythnos 10) Darlith 11 - Casgliad - gwrthgyferbyniad dwy ymerodraeth fawr

Seminar 9 – Casgliad – gwrthgyferbynnu dwy ymerodraeth fawr + adolygu

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deal sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud ag imperialiaeth a gwladychiad.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6