Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC22620
Teitl y Modiwl
Iaith a Chyfryngau
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 Astudiaethau Ffilm a Theledu yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio critigol (3000 o eiriau)  60%
Asesiad Semester Traethawd (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio critigol (3000 o eiriau)  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. cyflwyno'r trafodaeth ddeallus o fewn fframwaith ddamcaniaethol o'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau
2. dadansoddi ymarfer ieithyddol cyfredol mewn testunau cyfryngol
3. arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau mewn cyd-destunau cymdeithasol penodol

Nod

Amcan y modiwl hwn yw archwilio'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau o fewn cyd-destun cymharol gwahanol gymunedau ieithyddol yn y byd ac ar draws nifer o gyfryngau. Bydd y modiwl yn caniatau i fyfyrwyr astudio theori ac archwilio polisi ac ymarfer mewn sawl cyd-destun cymdeithasol er mwyn arwain at ddealltwriaeth fwy cyflawn o'r berthynas hon.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cynnig cyflwyniad i gysyniadau sydd yn llywio'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau gan ystyried damcaniaethau ynglyn a rol y cyfryngau wrth normaleiddio iaith, safoni ieithoedd, tafodieithoedd ac amrywiadadau ieithyddol eraill, rol cyfryngau mewn perthynas a hunaniaethau ieithyddol a chyfryngol. Astudir hyn mewn cyd-destunau hanesyddol a chymdeithasol amrywiol. Canolbwyntir yn benodol ar gyd-destun y Gymraeg a'r Saesneg wrth archwilio testunau cyfryngol cyfoes ond cyfeirir hefyd at ymarfer ieithyddol cyfoes yn y cyfryngau mewn cyd-destunau ieithyddol eraill yn enwedig mewn cymunedau dwyieithog neu amlieithog.

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
10 x 2 awr darlith/seminar

Cyflwynir y modiwl hwn drwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau:

1. Archwilio'r ffactorau yn y berthynas rhwng iaith a chyfryngau
2. Dadansoddi Iaith a Ieithoedd mewn Cymdeithas
3. Damcaniaeth Oldrefedigaethol mewn perthynas a Iaith a Chyfryngau
4. Dadansoddi Disgwrs y Cyfryngau
5. Rol y Cyfryngau wrth Safoni Iaith
6. Rol y Cyfryngau wrth Normaleiddio Iaith
7. Diglosia cyfryngol a chyfryngau llawn
8. Iaith a Chyfryngau yng nghyd-destun yr Iaith Gymraeg
9. Iaith a Chyfryngau: achosion astudio amrywiol
10. Iaith a Hunaniaeth drwy'r Cyfryngau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er nad asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i'r aseiniadau ar y ffurflenni asesu
Rhifedd Nid yw hyn yn berthnasol i'r modiwl hwn
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, yn ogystal a chyrchu gwybodaeth a deunyddiau drwy Blackboard, a systemau electronig y Llyfrgell

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5