Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM1120
Teitl y Modiwl
Paratoi a Chyflwyno yn y Gweithle
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 11 x Gweithdai 1 Awr
Darlith 9 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Llunio Blog ar lein ar bwnc y cytunir arno gyda chydlynydd y modiwl. Dim mwy na 1,500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Llunio darn ysgrifenedig sy'n gwneud defnydd o rethreg. Dim mwy na 1,500 o eiriau  25%
Asesiad Semester 2 gyflwyniad llafar ar bynciau gosodedig. 10 munud o hyd yr un.  50%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwynir elfennau a fethwyd yn unol â’r canrannau a nodir, uchod. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

deall a diffinio gwahanol gyweiriau'r iaith Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

meithrin sgiliau cyflwyno proffesiynol ar lafar ar gyfer sawl cyd-destun.

meistroli sgiliau ysgrifenedig a llafar proffesiynol penodol: llunio cofnodion, adroddiadau, datganiadau i'r wasg, e-byst a llythyron proffesiynol, a dogfennau polisi; gwneud defnydd o Pwerbwynt a Prezi; cynnal pwyllgorau.

meistroli Cymraeg ysgrifenedig o safon uchel a fydd yn addas ar gyfer y gweithle.

adnabod a chloriannu ffynonellau ymchwil/darllen sy’n berthnasol i’w cyflwyniadau ac aseiniadau.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno sgiliau llafar ac ysgrifenedig sylfaenol ar gyfer y gweithle. Trafodir natur a phwrpas gwahanol gyweiriau'r Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i ddewis cywair addas ar gyfer sawl cyd-destun proffesiynol. Rhoddir arweiniad i'r myfyrwyr ar eu sgiliau cyflwyno yn ysgrifenedig ac ar lafar. Dysgir sut i wneud defnydd o dechnoleg gwybodaeth i lunio blog ac i greu cyflwyniadau ar raglenni fel Pwerbwynt a Prezi. Yn ogystal, dysgir sgiliau gweinyddu penodol ar gyfer y gweithle megis llunio cofnodion, adroddiadau, datganiadau i'r wasg ayyb a sgiliau ymarferol ar gyfer y gweithle megis sut i gynnal pwyllgorau.

Cynnwys

Wythnos 1
Darlith - Beth yw Cywair?
Gweithdy - Tasgau Cywair

Wythnos 2
Darlith - Cymraeg Ffurfiol
Gweithdy - Tasgau Cywair

Wythnos 3
Darlith - Cymraeg Swyddogol - iaith polisi
Gweithdy - Llunio dogfennau polisi

Wythnos 4
Darlith - Iaith y Cyfryngau Cymdeithasol a Byd y Blogiau
Gweithdy mewn ystafell gyfrifiadurol - Dylunio blog

Wythnos 5
Darlith - Gweinyddu - Adroddiadau, Cofnodion, Datganiad i'r Wasg, E-bost, Llythyr, Cylchlythyr gwaith
Gweithdy - Llunio adroddiad / cofnodion

Wythnos 6
Darlith - Cyflwyniadau llafar: sgiliau sylfaenol
Gweithdy - Datganiad i'r wasg - tasg timau

Wythnos 7
Darlith/Gweithdy mewn ystafell gyfrifiadurol - Llunio cyflwyniad Pwerbwynt / Prezi effeithiol
Gweithdy - Cyflwyniad llafar 1 - cyfweliad am swydd

Wythnos 8
Darlith - Cyflwyniadau llafar: rhethreg
Gweithdy - Cyflwyniad llafar 2 - dwyn perswâd

Wythnos 9
Darlith - Cyflwyniadau llafar: gwahanol gyweiriau, addasu i'r cyd-destun, deunyddiau recordio
Gweithdy - Cyflwyniad llafar 3: cynhyrchu a recordio cyflwyniad marchnata ar gyfer 2 gyd-destun gwahanol

Wythnos 10
Darlith - Sut i gynnal pwyllgor
Gweithdy - Cynnal Pwyllgor

Bydd pob gweithdy yn adeiladu ar elfen a gyflwynir yn y ddarlith, ac yn rhoi'r cyfle i'r myfyrwyr ymarfer a datblygu'r sgiliau a ddysgir. Cânt brofiad ymarferol o gyfansoddi amrywiaeth o ddarnau ysgrifenedig ar gyfer y gweithle yn ogystal ag o siarad yn gyhoeddus mewn sawl cyd-destun.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r gweithdai a gynhelir ar y modiwl hwn, yn ogystal â'r asesu. Disgwylir i'r myfyrwyr fynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig yn gywir, a gan wneud defnydd o gyweiriau addas.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dysgir sgiliau cyflwyno llafar ac ysgrifenedig sylfaenol ar gyfer gweithio mewn unrhyw gyd-destun yn y Gymraeg.
Datrys Problemau Bydd problemau sy’n deillio o’r tasgau proffesiynol yn cael eu datrys gan fyfyrwyr mewn seminarau ac yn eu haseiniadau ysgrifenedig. Cywirdeb wrth ysgrifennu a siarad mewn sefyllfaoedd proffesiynol.
Gwaith Tim Disgwylir i'r myfyrwyr weithio fel tîm wrth gyflawni tasgau ymarferol megis cynnal pwyllgor a llunio ac ymateb i ddatganiad i'r wasg. Bydd angen i'r myfyrwyr ymateb i'w cyflwyniadau llafar ei gilydd a pharchu safbwyntiau myfyrwyr eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i fyfyrwyr allu cynhyrchu tasgau ysgrifenedig megis y Blog a chyflwyniadau llafar yn effeithiol, a gwella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol a fynegir mewn seminarau gan eu tiwtoriaid a’u cyd-fyfyrwyr.
Rhifedd Amherthnasol yn y cyswllt hwn.
Sgiliau pwnc penodol Dysgir sgiliau gweinyddu proffesiynol penodol megis llunio cofnodion, adroddiadau, datganiadau i'r wasg ayyb. Dysgir sgiliau cyflwyno proffesiynol sy'n gwneud defnydd o offer electronig megis Pwerbwynt a Prezi.
Sgiliau ymchwil Bydd sgiliau ymchwil yn bwysig wrth baratoi'r cyflwyniadau llafar a'r aseiniadau ysgrifenedig ar gyfer y modiwl hwn. Disgwylir i'r myfyrwyr ennill gwybodaeth am bynciau eu cyflwyniadau a'u haseiniadau a chefnogi eu gwaith gyda thystiolaeth briodol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau, gwneud defnydd effeithiol o raglenni megis Pwerbwynt a Prezi ar gyfer cyflwyniadau llafar, a dylunio blog trwy wneud defnydd o FwrddDu Aberlearn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7