Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HA30120
Teitl y Modiwl
Llunio Hanes
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 6 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester 48 Awr   1 x arholiad agored 48 awr  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x arholiad agored 48 awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos dealltwriaeth o sut a pham y death hanes yn ddisgyblaeth academaidd modern ac adnabod prif nodweddion hanesyddiaeth proffesiynol.
2. Arddangos dealltwriaeth o’r berthynas rhwng hanes academaidd a ffyrdd eraill o ddehongli a defnyddio’r gorffennol.
3. Ystyried ysgrifau hanesyddol a ddefnyddir ar fodiwlau eraill mewn cyd-destun ehangach.
4. Arddangos eu bod yn gyfarwydd â thueddiadau pwysig yn yr astudiaeth o hanes dros amser a dylanwad haneswyr ac ysgolion o feddwl penodol.
5. Arddangos gallu i ystyried amrywiaeth o dystiolaeth yn feirniadol a’u defnyddio i lunio dadleuon effeithiol.


Nod

1. Cynnig modiwl craidd i holl fyfyrwyr anrhydedd sengl a fydd yn eu hannog i fyfyrio ar y ffordd y mae haneswyr yn ymchwilio ac yn cynhyrchu hanes.
2. Datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr hanes o gyd-destun ehangach eu disgyblaeth.
3. Annog myfyrwyr i gymhwyso’r ymwybyddiaeth hwn ar gyfer gweddill eu hastudiaethau hanesyddol.

Disgrifiad cryno

Mae hanes fel disgyblaeth wedi newid yn gyson, gyda sawl athroniaeth, agwedd a methodoleg yn datblygu ymysg ymchwilwyr ac awduron. Bwriad y modiwl yw archwilio’r datblygiadau hyn trwy ystyried nifer o enghreifftiau penodol. Ystyrir amrywiol ysgolion o feddwl hanesyddol yn ogystal â dylanwad testunau allweddol sydd wedi newid y ffordd y trafodir pynciau penodol gan haneswyr.

Cynnwys

DARLITHOEDD

Ceir 20 darlith yn y modiwl hwn; gallant amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond byddant yn gysylltiedig â thri thema. Ffocws y 10 darlith gyntaf yw paradeimiau hanesyddol. Cyflwynir y cysyniad o baradeimiau hanesyddol yn yr adran hon o’r modiwl cyn trafod y paradeim gwladwriaeth ganolog a’r modd yr heriwyd y ffordd hon o weld hanes yn yr ugeinfed ganrif e.e. ysgol yr Annales ac ôl-foderniaeth. Ystyrir gwahanol fethodolegau o fewn maes ehangach hanes yn ail adran y modiwl, megis archifau a hanes llafar. Yn olaf, amlinellir agweddau rhyngddisgyblaethol tuag at hanes ac ystyried y modd y mae hanes wedi ymwneud â disgyblaethau megis anthropoleg a chysylltiadau rhyngwladol.

SEMINARAU

Ceir cyfres o chwe seminar yn edrych ar lyfr hanesyddol dylanwadol a’r dylanwadau deallusol a chysyniadol arno.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Ddim yn briodol
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6