Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC11120
Teitl y Modiwl
Dadansoddi Digwyddiad
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
TP11520 Thinking Theatr 2: Analysing Performance
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 2 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1. Portffolio beirniadol  (cyfwerth â 1,500 o eiriau, yn cynnwys tair tasg x 500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester 2. Traethawd (2,500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll 1. Portffolio beirniadol  (cyfwerth â 1,500 o eiriau, yn cynnwys tair tasg x 500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll 2. Traethawd (2,500 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Adnabod, disgrifio a thrafod ystod eang o ddigwyddiadau byw yn feirniadol

2. Arddangos gallu dadansoddol a gallu i gymathu ystod eang o ddigwyddiadau byw

3. Dehongli ystod eang o ddigwyddiadau byw yn feirniadol, a hynny o fewn fframwaith beirniadol priodol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn archwilio ystod eang o ddigwyddiadau byw. Cyflwynir sgiliau beirniadol a methodolegol i fyfyrwyr er mwyn eu cymell a'u galluogi i ystyried sut y gellir cymhwyso terminoleg o wahanol fathau er mwyn ymateb yn ddeallus, yn greadigol a dadansoddol i ddigwyddiadau byw. Gan ddefnyddio optig Astudiaethau Perfformio, bydd y modiwl nid yn unig yn dadansoddi cynyrchiadau theatraidd, ond hefyd yn cynnig modd i allu dadansoddi ystod eang o ddigwyddiadau byw mewn modd ystyriol a chreadigol. Conglfaen y modiwl fydd cyfres o ddigwyddiadau byw y bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu. Bydd natur y digwyddiadau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn rhannol yn ddibynnol ar raglen Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd yr aseiniadau ynghlwm a pherfformiadau penodol; at hynny, bydd disgwyl i fyfyrwyr brynu Tocyn Blwyddyn Canolfan y Celfyddydau sydd yn rhoi mynediad i gyfres o berfformiadau a digwyddiadau penodedig am bris gostyngedig.

Nod

Cyflwyno diffiniadau amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys cynyrchiadau, dangosiadau ffilm, protestiadau, sgyrsiau a chyngherddau.

Galluogi myfyrwyr i adnabod, disgrifio, ac ymateb yn feirniadol i ystod eang o ymarferiadau a digwyddiadau perfformiadol a theatraidd.

Cyflwyno methodolegau a chysyniadau damcaniaethol priodol ar gyfer dadansoddi a dehongli'r digwyddiadau hyn; gan gynnwys holiaduron dadansoddi perfformiad, darllen systemau arwyddion, ffenomenoleg, a moddau eraill o ddehongli (ffeministiaeth, Marcsiaeth, rhywedd a rhywioldeb, astudiaethau ôl-drefedigaethol).

Ddatblygu gallu a sgiliau myfyrwyr i fyfyrio ar, ac ysgrifennu am ddigwyddiadau byw

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
Darlithoedd: 10 x 1 awr Darlith
Seminarau / Tiwtorialau: 10 x 2 awr Seminar

1. Diffinio Digwyddiad a'r Broses Ddadansoddol

2. Dirnad Digwyddiad (1): Semioteg

3. Dirnad Digwyddiad (2): Ffenomenoleg

4. Y Rhagddodiad 'Ôl': Ôl-Strwythuriaeth ac Ôl-Foderniaeth

5. Ehangu'r Digwyddiad: Astudiaethau Perfformio

6. Fframweithiau Dadansoddol 1: Marcsiaeth a Beirniadaeth Farcsaidd

7. Fframweithiau Dadansoddol 2: Ffeministiaeth

8. Fframweithiau Dadansoddol 4: Rhywedd a Rhywioldeb

9. Fframweithiau Dadansoddol 3: Cyd-destunau Gwleidyddol a Diwylliannol

10. Crynhoi: Dulliau Dadansoddi

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith yn ysgrifenedig, ac i drafod ar lafar yn y seminarau; caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid oes sesiynau penodol ar gynllunio gyrfa ond wrth astudio perfformiadau a chynyrchiadau cyfoes, caiff y myfyrwyr gyfle i ddyfnhau eu gwybodaeth o ddiwydiant y cyfryngau creadigol.
Datrys Problemau Bydd cyfle i fyfyrwyr arddangos ymwybyddiaeth o adnabod problemau a chanfod ffyrdd o'u datrys o fewn cyd-destun astudiaeth y modiwl.
Gwaith Tim Cynhelir trafodaethau grŵp yn ystod y seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith yn ysgrifenedig, ac i drafod ar lafar yn y seminarau; caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Mae sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir gan y modiwl hwn yn cynnwys dadansoddi dramatwrgiaethol, semioteg gweledol, dadansoddi symud. Yn ogystal, mae'r modiwl yn gorfodi myfyrwyr i ymdrin â llenyddiaeth damcaniaeth feirniadol am y tro cyntaf, ac yn cynnig strategaethau er mwyn eu hannog i ddefnyddio'r cysyniadau a gyflwynir yn y llenyddiaeth ar gyfer dibenion dehongli celfyddyd.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ymhellach na chynnwys ffurfiol y darlithoedd er mwyn canfod deunydd priodol i gyflawni eu haseiniadau
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth ar gyfer y modiwl hwn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4