Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GQ23820
Teitl y Modiwl
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen?
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2500 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Papur briffio  1500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Papur briffio  1500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2500 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Trafod yn fanwl gwahanol ddisgrifiadau o esblygiad hanesyddol gwladwriaeth y DU.

2. Amlinellu’n fanwl brif nodweddion trefniadau llywodraethu esblygol y DU.

3. Dynodi a thrafod y pwyntiau trafod allweddol mewn meysydd pwysig o bolisi cyhoeddus ar draws y DU.

4. Cymharu a chyferbynnu gwahanol safbwyntiau mewn trafodaethau cyfredol am ddinasyddiaeth, cydsafiad a hunaniaeeth yn y DU.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl yw darparu cyflwyniad cynhwysfawr i wleidyddiaeth gyfoes y DU. Bydd y deunydd a drafodir yn cynnwys: esblygiad hanesyddol gwladwriaeth y DU; natur trefniadau llywodraethu cyfredol y DU; agweddau at bolisi cyhoeddus a fabwysiadwyd o fewn y DU; a thrafodaethau cyfoes am syniadau o ddinasyddiaeth a hunaniaeth, gan gynnwys perthnasedd parhaus y syniad o Brydeindod. Cwestiwn allweddol a gaiff ei drafod drwy gydol y modiwl fydd i ba raddau mae’r cysyniad o’r DU fel un system wleidyddol unedig yn dal i fod yn ddilys?

Cynnwys

Caiff y modiwl ei ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Caiff ei rannu’n bedair adran:

Adran 1: Datblygiad a strwythur gwladwriaeth y DU
Bydd yr adran agoriadol hon yn edrych ar ddatblygiad hanesyddol gwladwriaeth y DU, yn diriogaethol, sefydliadol ac economaidd. Fel rhan o hyn, caiff y traddodiad hiroesol o ddarlunio’r DU fel gwladwriaeth unedol glasurol ei gwestiynu a’i herio.

Adran 2: Llywodraethu’r DU heddiw
Bydd yr adran hon yn archwilio’n feirniadol natur trefniadau llywodraethu cyfredol y DU. Bydd y drafodaeth yn dechrau drwy ganolbwyntio ar San Steffan, cyn symud i ystyried goblygiadau trefniadau datganoli Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yr adran hefyd yn edrych ar le Lloegr a’i rhanbarthau o fewn system aml-lefel y DU o lywodraeth, yn ogystal ag ystyried dylanwad cysylltiadau’r DU â sefydliadau rhanbarthol neu ryngwladol, yn enwedig yr UE.

Adran 3: Polisïau a materion o fewn gwleidyddiaeth y DU
Bydd yr adran hon yn canolbwyntio ar gyfres o faterion polisi allweddol sy’n adlewyrchu natur gwleidyddiaeth gyfoes y DU (e.e. cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, rheolaeth economaidd, polisi tramor ac amddiffyn). Bydd y gwahanol fathau o ddulliau sydd wedi’u datblygu mewn meysydd polisi gwahanol yn cael eu harchwilio, ac ym mhob achos bydd dylanwad cysylltiadau ideolegol a thiriogaethol yn cael eu hystyried yn eu tro.

Adran 4: Dinasyddiaeth a hunaniaeth yn y DU heddiw
Bydd adran olaf y modiwl yn dechrau drwy ddadansoddi’r trafodaethau sydd wedi ymddangos yn ymwneud â dinasyddiaeth a chydsafiad cymdeithasol wrth i wladwriaeth y DU fod yn gynyddol ddatganoledig. Bydd hyn yn arwain at archwiliad o’r trafodaethau cyfredol yn ymwneud â hunaniaeth genedlaethol, ac yn benodol, archwiliad beirniadol o’r syniad o Brydeindod.

Bydd y modiwl yn dod i ben gyda sesiynau cloi sy’n ceisio asesu cyflwr cyfredol y DU ac asesu llwybrau posibl yn y dyfodol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i’w defnyddio. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r ffynonellau niferus o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r math mwyaf priodol o gyfathrebu yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn glir wrth ysgrifennu a siarad a byddant yn uniongyrchol am eu nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i destun, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno eu hasesiadau ysgrifenedig mewn fformat prosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith i sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol..
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynllunnir y modiwl hwn i fireinio a phrofi sgiliau fydd o fudd i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn benodol drwy siarad gyda grwpiau bach, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill. Ymhellach, bydd y gwaith ysgrifenedig yn gofyn bod myfyrwyr yn ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Caiff myfyrwyr eu hannog drwy gydol y modiwl i adfyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Gwaith annibynnol a datrys problemau fydd un nod canolog yn y modiwl; bydd cyflwyno dau ddar o waith ysgrifenedig i’w hasesu yn golygu bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau’n cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a ffurfio ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu materion yn broblemau llai o faint .
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ymarferion tîm yn y seminarau. I lawer o bynciau’r modiwl hwn, bydd y seminarau ar ffurf trafodaethau mewn grwpiau bach gyda myfyrwyr yn trafod fel grŵp y materion craidd sy’n ymwneud â phwnc y seminar. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon dosbarth hyn yn rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn caniatáu i’r myfyrwyr drin ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hyrwyddo hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gynullydd y modiwl a myfyrwyr eraill. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd â’u hymchwil eu hunain ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu sut i ateb cwestiynau traethawd a asesir.
Rhifedd D/G
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau pwnc benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu a’i gilydd • Cymhwyso amrywiaeth o fethodolegau i broblemau gwleidyddol a chymdeithasol hanesyddol a chyfoes cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd, erthyglau cyfnodolion ac ati.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn cyfoethogi eu gallu i ddefnyddio Blackboard, lle bydd deunyddiau i gynorthwyo’r dysgu ar gael. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau i chwilio am, ac asesu dilysrwydd ffynonellau gwybodaeth ar-lein fel rhan o’r gwaith paratoi at ddarlithoedd, seminarau a thasgau a asesir. Caiff gwaith a asesir ei gyflwyno mewn fformat electronig, yn ôl disgwyliadau safonol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5