Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
SC33100
Teitl y Modiwl
Prosiect ymchwil Seicoleg ar gyfer anrhydedd sengl
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cais Moeseg (1000 o eiriau - heb gynnwys atodiadau)  10%
Asesiad Ailsefyll adroddiad ysgrifenedig (9000 geiriau)  90%
Asesiad Semester Cais Moeseg (1000 o eiriau - heb gynnwys atodiadau)  10%
Asesiad Semester adroddiad ysgrifenedig (9000 geiriau)  90%

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu.
1. Dangos gallu i gynllunio astudiaeth ymchwil gwreiddiol a llunio damcaniaethau ymchwil neu gwestiynau, yn seiliedig ar lenyddiaeth flaenorol.


2. Asesu'r llenyddiaeth yn yr ardal yn feirniadol ac archwilio goblygiadau'r llenyddiaeth hynny ar gyfer yr astudiaeth.

3. Dangos ymwybyddiaeth o faterion moesegol trwy gymeradwyaeth llwyddiannus y cynnig prosiect gan bwyllgor moeseg yr Adran / Athrofa ac yn cynnal y gwaith ymchwil, trin data, ac yn ysgrifennu i fyny a lledaenu dilynol o ganlyniadau.

4. Nodi, cyfiawnhau, a defnyddio a disgrifio dulliau ar gyfer casglu a dadansoddi data yn briodol fel gall yr astudiaeth eu hailadrodd yn llawn.

5. Cyflwyno'r canlyniadau yn gywir ac yn briodol, a gwerthuso'r canlyniadau'n feirniadol mewn perthynas ag ymchwil sy'n bodoli eisoes.

6. Ystyried unrhyw gyfyngiadau, goblygiadau a chymwysiadau canlyniadau'r ymchwil, a sut y gall yr astudiaeth cael ei ddatblygu yn y dyfodol.

7. Cyfleu canfyddiadau mewn adroddiad ysgrifenedig.

8. Dogfennu, cynnal a gallu tystiolaethu cofnod priodol a thrylwyr o'r broses ymchwil, o'r syniad gwreiddiol i ysgrifennu i fyny'r ymchwil.

Disgrifiad cryno

Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd a'r gwaith angenrheidiol i ddylunio, cynllunio, a rhedeg astudiaeth yn seiliedig ar ragdybiaethau priodol neu gwestiynau ymchwil gyda chymorth goruchwyliwr. Rol y goruchwyliwr yw darparu arweiniad i'r myfyriwr drwy gydol y prosiect, ond mae myfyrwyr yn cael eu hannog i weithio mor annibynnol ag y bo modd. Mae faint o amser a dreulir ar y prosiect amrywio yn ol natur yr astudiaeth, fodd bynnag, dylai myfyrwyr ddisgwyl treulio o leiaf 400 awr yn gweithio ar eu prosiect.

Nod

Mae Seicoleg yn ddisgyblaeth empirig a cheir myfyrwyr eu cyflwyno i ddulliau gwyddonol, meintiol ac ansoddol o ymchwilio ar draws pob cynllun gradd. Mae pwysigrwydd y prosiect blwyddyn olaf yn cael ei adlewyrchu yn yr angen i fyfyrwyr gwblhau prosiect dan oruchwyliaeth fel gofyniad craidd ar gyfer y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig a'r Meincnod QAA ar gyfer Seicoleg.

Cynnwys

Mae cydrannau a addysgir ar y modiwl yn gyfyngedig ac yn canolbwyntio ar y canlynol:
  • Y broses oruchwyliol a moesegol ymchwil
  • Ysgrifennu eich traethawd hir

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6