Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC10720
Teitl y Modiwl
Gweithio ar Gamera
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio  1500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Ymarferol Unigol  5 Munud  50%
Asesiad Semester Portffolio  1500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Prosiect Ymarferol  5 Munud  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos ymwybyddiaeth o'r wahanol gamau cynhyrchu ffilm fer, o'r syniad cychwynnol i'r allbwn terfynol, gan gynnwys gwaith camera a golygu.

Llwyddo i rannu'r ffilmiau trwy'u gosod ar y we.

Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm cynhyrchu.

Arddangos dealltwriaeth fanwl o rolau penodol o fewn y broses gynhyrchu.

Arddangos gallu i adlewyrchu'n feirniadol ar eu cyfraniad unigol o fewn tîm cynhyrchu.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i gydweithio'n greadigol ar bedwar prosiect aml-gyfryngol ar hyd y semester, o flaen a thu ôl i'r camera.

Disgwylir i'r myfyrwyr weithio mewn grŵp, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy'n codi o ganlyniad i gydweithio fel tîm wrth ymdrin â chamera. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau.

Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y grŵp yn y prosiect terfynol, a (ii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.

Nod

Bwriad y modiwl hwn fydd rhoi cyfle i'r myfyrwyr arddel a chymhwyso'r sgiliau a'r profiadau ymarferol a theoretig a gyflwynwyd iddynt ac a ddatblygwyd ganddynt yn ystod y modiwlau Semester 1. Fe fydd yn gofyn i'r myfyrwyr ddysgu cydweithio'n greadigol ar brosiect aml-gyfryngol a fydd yn dyst i'w gallu i symbylu, strwythuro a saernïo gweledigaeth gelfyddydol dan gyfarwyddyd aelod o staff.

Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i'r myfyrwyr i geisio dygymod â'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfuniad o gyfryngau.

Cynnwys

Seilir cynnwys y modiwl ar gyfle neilltuol i weithio fel grŵp ar nifer o ffilmiau byr. Mae’r modiwl yn cynnig cyfle i ysgrifennu, ymchwilio, saethu a golygu ffilmiau gan drafod a dadansoddi mewn modd aml cyfryngol trwy 'blog' grŵp. At hynny, fydd y sesiynau ymarferol a'r gwaith tuag at adfyfyriad ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriadau a thrafodaethau ar waith ymarferwyr allweddol.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4