Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY11120
Teitl y Modiwl
Themau a Ffigurau Llen c.550-1900
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   arholiad ysgrifenedig  60%
Arholiad Semester 2 Awr   arholiad ysgrifenedig  60%
Asesiad Ailsefyll traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Medru adnabod a dangos dealltwriaeth o brif dueddiadau a genres traddodiadau llenyddol y Gymraeg o’r chweched ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (barddoniaeth a rhyddiaith).

Dangos dealltwriaeth o themâu a chysyniadau llenyddol wrth ymdrin â llenyddiaeth hanesyddol.

Dangos dealltwriaeth o syniadau a symudiadau Ewropeaidd a ddylanwadodd ar lenyddiaeth Gymraeg o dro i dro.

Medru trafod testunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yn eu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Mae’r arolwg beirniadol hwn o hanes llenyddiaeth Gymraeg yn gosod sylfaen i fyfyrwyr Rhan 1 a fydd yn caniatáu iddynt weld prif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Trafoir genres llenyddol gwahanol, prif syniadau llenyddol y cyfnodau dan sylw, a pherthynas llenyddiaeth Gymraeg â llenyddiaethau eraill a ddylanwadodd arni o dro i dro. Darllenir detholiad o destunau gan feirdd a llenorion sy’n amlygu rhai themâu penodol.

Nod

Mae’r arolwg beirniadol hwn o hanes llenyddiaeth Cymru yn gosod sylfaen i fyfyrwyr Rhan 1 a fydd yn caniatáu iddynt weld prif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Bydd yn gyflwyniad a rydd sail i ddewis modiwlau arbenigol yn Rhan 2.

Cynnwys

Cynnwys: dwy awr yr wythnos:
1. Rhagarweiniad (Beth yw traddodiad?)
2. Y gyfundrefn farddol ac addysg y beirdd
(Trefn a dosbarth a dysg)
3. Cip ar y genres I (Mawl, marwnad, dychan)
4. Cip ar y genres II (Cymod, gofyn, iacháu)
5. ‘Bonedd Rhys ap Rhydderch ap Rhys’, Dafydd
Nanmor (Golwg ar wareiddiad Cymreig)
6. ‘Diolch am ŵn coch’, Ieuan Du’r Bilwg
(Materoliaeth a balchder personol)
7. ‘I wagedd ac Oferedd y Byd’, Siôn Cent
(Difetha’r hwyl i gyd)
8. Dathlu codi tŷ (Y diwylliant materol yn cwrdd
â’r diwylliant llenyddol)
9. Cywydd march Tudur Aled (Adeiladu’r darlun
perffaith)
10. Parodi Robin Clidro (Adeiladu’r darlun
amherffaith)

11. Y Dadeni Dysg – cefndir a chyd-destun
12. Y Dadeni Dysg – rhai awduron a’u gweithiau
13. Morgan Llwyd
14. Theophilus Evans
15. Goronwy Owen
16. Pantycelyn
17. Y ddau draddodiad – 1790-1810: olynwyr Goronwy
Owen a Phantycelyn
18. Beirdd yr Eisteddfod yn y 19eg ganrif
19. Ceiriog
20. Daniel Owen

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn y traethawd ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol drwy gydol y Semester.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Bydd cyfle o dro i dro i drafod testun llenyddol mewn grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig; trwy ddatblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol â’r wybodaeth ieithyddol, gefndirol a diwylliannol berthnasol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol, a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer llunio traethawd ysgrifenedig. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4